Pam mae gwrthdaro yn digwydd?

Mae Rupinder Mahil yn seicotherapydd a chyfryngwr achrededig sy'n gweithio ym Mhrifysgol Derby. Mae'n arbenigo mewn helpu pobl i weithio gyda gwrthdaro a'i ddatrys.

Os ydych chi'n profi gwrthdaro yn eich teulu, ymysg eich cyfeillion neu yn eich llety, gall deall y ffactorau sy'n creu gwrthdaro eich helpu i ddechrau edrych ar y sefyllfa a'i datrys.

Mae'n arferol i ni wneud pethau neu feddwl amdanynt mewn ffordd wahanol i'r bobl sydd o'n cwmpas. Gall hyn fod yn gyfle i ehangu eich persbectif, ond gall hefyd arwain at wrthdaro. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gweld gwrthdaro fel rhywbeth negyddol, ond mae'n naturiol ac yn normal.

Mae gwrthdaro'n digwydd pryd bynnag y mae gwahaniaeth rhwng pobl, ond yn aml nid ydym yn sylwi arno nes ei fod yn dechrau teimlo'n rhy anodd i'w reoli. Hyd yn oed pan fo'n anodd, mae'n bosibl gweithio trwy wrthdaro yn gadarnhaol.

Gall gwrthdaro yn aml ddigwydd am ychydig o resymau gwahanol:

1. Gwahaniaethau mewn personoliaeth

Mae hwn yn gategori eang ac yn cynnwys ein sgiliau, profiadau, gwerthoedd, credoau, barn, hoff bethau a chas bethau, i nodi ond ychydig o enghreifftiau. Gall gwahaniaethau sy'n deillio o bersonoliaeth ddigwydd gyda'r rhai yr ydym yn agos atynt, yn ogystal â dieithriaid.

Oherwydd ein profiadau gwahanol, gallwn hefyd wneud rhagdybiaethau anghywir am eraill a'u cymhellion, a all achosi problemau pellach.

2. Gwahaniaethau mewn disgwyliadau

Mae gan bob un ohonom ddisgwyliadau ynghylch sut y dylem gydweithio a chyd-fyw ag eraill, a sut y dylem ymddwyn mewn cydberthnasau.

Yn aml, ni fyddwn yn cydnabod bod gennym y disgwyliadau hyn. Yn hytrach, byddwn yn eu hystyried yn 'normal' oherwydd eu bod yn cyd-fynd â'n profiadau blaenorol. Pan nad yw disgwyliadau pobl eraill yn cyd-fynd â'n rhai ni, gall hyn achosi gwrthdaro.

3. Gwahaniaethau mewn cyfathrebu

Mae gwahanol bobl yn cyfathrebu'n wahanol. Rydyn ni'n cyfathrebu'n wahanol pan rydyn ni'n siarad, mae gennym ni ystumiau di-eiriau gwahanol, ac rydyn ni'n ysgrifennu'n wahanol pan rydyn ni'n cyfathrebu trwy neges destun neu ar y cyfryngau cymdeithasol. Gall y gwahaniaethau hyn arwain at gamddealltwriaeth neu gamddehongli. Er enghraifft, efallai y bydd rhai pobl yn dehongli'r defnydd o regfeydd fel arwydd o ymddygiad ymosodol, tra mai bwriad y person sy'n siarad yw eu defnyddio mewn modd digrif.

4. Newid

Gall unrhyw newid greu gwrthdaro ond gall pob newid a gwrthdaro dilynol hefyd greu'r cyfle i wella a datblygu. Mae hyn yn cynnwys symud rhwng un set o amgylchiadau ag un arall neu o un grŵp o bobl i’r llall yn ystod ein bywydau.

Gall newidiadau amgylcheddol hefyd achosi nifer sylweddol o newidiadau i'r ffordd yr ydym yn byw ac yn gweithio. Gall hyn wneud i ni deimlo ein bod yn cael ein gorfodi i ddewis o blith gwahanol opsiynau nad ydyn ni wir eu heisiau.

Os ydych chi'n profi gwrthdaro, mae'n debyg ei fod yn deillio o wahaniaethau rhyngoch chi ac eraill yn un neu fwy o'r meysydd hyn. Ystyriwch pa gamau cadarnhaol y gallech eu cymryd i bontio’r bylchau hyn, fel bod anghenion pob un ohonoch yn cael eu diwallu ac fel y gallwch gynnal eich cydberthnasau.

Adolygwyd ddiwethaf: Hydref 2022