Pam y gall ansicrwydd fod yn straen
Mae llawer o fyfyrwyr yn gweld bod ansicrwydd yn eu bywydau eu hunain, ac yn y byd o'u cwmpas, yn gallu achosi lefelau straen di-fudd. Gall deall pam y gall ansicrwydd fod yn straen ei gwneud yn haws ei reoli.
Beth allai fod yn achosi straen i chi?
Mae llawer o ansicrwydd ym mywyd myfyriwr yn gyffredinol, p'un a ydych yn fyfyriwr newydd neu'n dychwelyd. Mae pob cam astudio yn dod â heriau newydd neu efallai eich bod yn symud i lety newydd neu'n gorfod ysgwyddo cyfrifoldebau newydd. Efallai y bydd myfyrwyr newydd yn symud i ardal newydd neu ddim ond yn meddwl pa fath o le fydd eu prifysgol newydd.
Yn ogystal, mae llawer o fyfyrwyr yn adrodd eu bod yn teimlo mwy o straen oherwydd ansicrwydd yn y byd o'u cwmpas, fel y pandemig parhaus, ansefydlogrwydd gwleidyddol, ansicrwydd ariannol, a phryderon am yr hinsawdd.
Mae'r ymateb hwn i ansicrwydd yn hollol normal. Fel bodau dynol, mae arnom eisiau sicrwydd, ac, yn aml, byddai'n well gennym newyddion drwg nag ansicrwydd parhaus.
Ein hymateb greddfol i orbryder
Mae ein hymateb i ansicrwydd wedi esblygu i’n cadw ni’n ddiogel mewn sefyllfaoedd lle gallem fod mewn perygl. Os gallai symudiad mewn llwyn fod yn llew neu'r gwynt, mae'n synhwyrol bod yn ymwybodol ac yn barod i ymateb, rhag ofn mai llew ydyw.
Felly, pan fo ansicrwydd mawr ynghylch rhai agweddau mawr ar ein bywydau, rydyn ni'n mynd i gyflwr o ymwybyddiaeth uwch a chyffro.
Yn y tymor byr, gall hyn fod yn ddefnyddiol iawn. Mae’n helpu i’n cadw ni’n ddiogel ac i ymateb yn gyflym, os oes angen.
Dim ond pan fydd yr ansicrwydd yn parhau am amser hir y gall ddod yn broblem. Mae bod yn or-effro yn flinedig ac yn peri straen os na chawn gyfle i ymlacio ac ymadfer neu ddod â synnwyr o sicrwydd yn ôl i'n bywydau.
Nid yw ansicrwydd o reidrwydd yn niweidiol
Nid yw hyn yn golygu y bydd ansicrwydd yn eich bywyd yn anochel yn cael effaith negyddol arnoch chi a'ch llesiant. Nid yw pob ansicrwydd yn achosi straen i ni. Mae llawer o bethau yr ydyn ni'n ansicr yn eu cylch – a fydd hi'n bwrw glaw yfory? Pwy fydd yn ennill cystadleuaeth yr Eurovision y flwyddyn nesaf? Faint o ddail fydd yn disgyn o'r coed yn eich ardal yr hydref hwn? Ond nid yw'r pethau hyn fel arfer yn achosi unrhyw straen i ni.
Mae ansicrwydd yn achosi problemau i ni pan fyddwn yn gweld rhyw lefel o fygythiad posibl, yn y dyfodol, i ni ac i'n llesiant. Rydyn ni'n poeni am ansicrwydd y flwyddyn academaidd hon oherwydd ei bod yn bwysig i ni. Rydyn ni'n poeni y bydd yn effeithio ar ein hastudiaethau, ein profiad, ein cyfeillgarwch, ein hapusrwydd a'n gyrfaoedd yn y dyfodol.
Sut i addasu eich dull
Gallwch ddysgu sut i addasu eich dull, eich meddwl a'ch ymddygiad i leihau effaith ansicrwydd a gwneud i chi deimlo'n fwy cadarnhaol am y dyfodol. Oherwydd bod ansicrwydd yn eich bywyd, nid yw'n golygu na allwch chi gymryd rheolaeth a chynllunio. Bydd gwneud hyn yn rhoi'r cyfle gorau posibl i chi'ch hun gael amser da fel myfyriwr.