Weithiau gall galar ddod yn fwy cymhleth os oedd y golled yn sydyn neu'n drawmatig. Os ydych yn parhau i gael atgofion ymwthiol, ôl-fflachiau, ymchwyddiadau llethol o emosiwn, meddyliau afreolus a chyson am eich colled a theimladau o fod yn ddiymadferth neu’n anobeithiol, mae’n debyg o fod yn syniad da cael rhywfaint o gymorth, gan gynghorydd neu seicotherapydd.
Gyda chymorth gall y profiadau hyn leddfu. Hyd yn oed mewn amgylchiadau trawmatig, mae pobl yn aml yn dod o hyd i ffyrdd o symud ymlaen a byw bywyd buddiol. Cofiwch, er eich bod chi'n teimlo fel hyn nawr, nid yw'n golygu y byddwch chi'n teimlo fel hyn am byth.
Ni waeth pa mor llwm mae pethau’n teimlo ar hyn o bryd, mae gobaith. Defnyddiwch y cymorth sydd ar gael i chi – hyd yn oed os nad ydych yn credu y gall eich helpu eto. Mae pobl ar gael sydd eisiau eich helpu a'ch cefnogi.