Paratoi ar gyfer pobl sy'n defnyddio iaith wahanol

Gareth Hughes

Gareth Hughes yw Arweinydd Clinigol Student Space ac mae'n seicotherapydd, ymchwilydd ac awdur ar lesiant myfyrwyr, gan gynnwys y llyfr Be Well, Learn Well.

Gall dod ar draws geiriau, ymadroddion a thermau nad ydym yn eu hadnabod wneud i bob un ohonom deimlo'n hurt neu fel nad ydym yn perthyn. Ond nid yw'r ffaith nad ydych yn deall rhywbeth eto yn golygu na fyddwch chi rhyw ddiwrnod, neu eich bod chi yn y lle anghywir. Rydych chi eisoes wedi dangos gallu i ddysgu, a gallwch feistroli'r iaith rydych chi'n dod ar ei thraws yn y brifysgol hefyd.

Mae pob grŵp neu sefydliad cymdeithasol yn creu ei iaith ei hun. Meddyliwch yn ôl i'ch cyfnod yn yr ysgol neu'r gweithle – mae'n debyg eich bod chi a'ch cyfoedion wedi datblygu bratiaith neu jôcs a fyddai wedi bod yn ddryslyd i unrhyw un nad oedd yn rhan o'ch grŵp. Hyd yn oed o fewn eich teulu eich hun, efallai eich bod yn defnyddio rhai geiriau neu ymadroddion nad oes neb arall yn eu defnyddio i ddisgrifio pethau penodol. Mae'r un peth yn wir o fewn prifysgolion – maen nhw'n creu eu hiaith eu hunain.

Y broblem yw, pan nad ydym yn deall yr hyn y mae pobl yn ei ddweud, mae ein hymennydd yn ymateb. Rydym yn ei gymryd fel arwydd nad ydym wir yn perthyn, oherwydd pe byddem ni, byddem yn deall yr hyn yr ydym yn ei glywed. Gall y teimlad hwn waethygu os oes rhesymau eraill yn gwneud i ni amau cymaint yr ydym yn perthyn, megis ein rhywedd, ethnigrwydd, dosbarth, oedran, anabledd neu gefndir.

Gall y broblem gael ei drysu ymhellach gan ein bod yn gweld prifysgolion fel lleoedd sy'n llawn o bobl ddeallus, wedi'u haddysgu'n dda. Yn hytrach na meddwl – “Dydw i ddim yn gwybod beth mae hynny'n ei olygu oherwydd dydw i ddim wedi dod ar ei draws o'r blaen”, efallai y byddwn yn meddwl, “Dydw i ddim yn gwybod beth mae hynny'n ei olygu gan nad ydw i'n ddigon deallus i fod yma.” Mae hyn yn ei dro yn achosi i'n hemosiynau gryfhau, gan rwystro ein gallu i feddwl yn glir a dysgu'r termau newydd rydyn ni wedi dod ar eu traws.

Fodd bynnag, os ydych yn derbyn y bydd gan unrhyw le newydd ei iaith ei hun ac y byddwch chithau yn ei dysgu mewn amser, yna gallwch atal hyn rhag cael effaith negyddol ar eich llesiant. Atgoffwch eich hun fod yn rhaid i ni i gyd ddysgu termau a geiriau newydd drwy'r amser. Rydych chi wedi gwneud hynny yn y gorffennol a gallwch wneud hynny eto.

Byddwch yn ymwybodol o'r ffaith fod ieithoedd gwahanol yn cael eu defnyddio mewn prifysgolion yn dibynnu ar yr amgylchiadau, y ddisgyblaeth academaidd, a'r brifysgol benodol rydych chi'n ei mynychu.

Iaith sefydliadol

Mae gan bob prifysgol ei ffordd ei hun o siarad. Yn aml iawn, rhaid i staff sy’n symud o un brifysgol i’r llall ailddysgu enwau pethau – gall enw’r adran sy’n cefnogi iechyd meddwl myfyrwyr gael ei alw’n Gwasanaethau Myfyrwyr mewn un brifysgol, Llesiant Myfyrwyr mewn prifysgol arall a Bywyd Myfyrwyr mewn prifysgol arall. Gall yr un peth fod yn wir am brosesau, digwyddiadau neu deitlau swyddi.

Gall lleoedd fod ag enw ffurfiol (Ystafell 003) ac enw mae pawb yn ei ddefnyddio (yr Ystafell Werdd).

Dylech hefyd fod yn barod i'ch prifysgol newid y geiriau y mae'n eu defnyddio os ydynt yn cael ei hailstrwythuro neu ei had-drefnu.

Iaith addysg

Mae'r iaith a ddefnyddir i siarad am addysgu a dysgu mewn addysg uwch yn wahanol i'r iaith a ddefnyddir mewn ysgolion. Yn hytrach na ‘dosbarth’, efallai y gofynnir i chi fynychu darlithoedd, seminarau neu diwtorialau. Gallai staff addysgu gael eu galw yn ddarlithwyr, tiwtoriaid neu academyddion – weithiau bydd y geiriau hyn yn gyfnewidiol.

Os nad ydych yn siŵr beth mae rhywun wedi'i ofyn i chi ei wneud, mae'n iawn gofyn. Fel myfyriwr newydd, nid oes unrhyw reswm pam y dylech fod yn deall y termau hyn nes y byddant wedi cael eu hesbonio i chi.

O gyd-destun prifysgol, mae staff yn llawn cydymdeimlad ac yn barod i'ch helpu cymaint ag y gallant. … Po fwyaf y byddwch yn anfon neges e-byst ac yn siarad, po hawsaf fydd hi i gael yr hyn sydd ei angen arnoch i oroesi a ffynnu!

Iaith ddisgyblaethol

Mae gan bob pwnc academaidd ei iaith ei hun hefyd. Yn aml, gall hyn wneud dysgu cysyniad newydd yn anoddach i ddechrau. Mae hyn yn gwbl normal, a byddwch yn gweld term yn ddryslyd, hyd nes y byddwch yn sylweddoli un diwrnod bod ei ystyr yn eithaf syml mewn gwirionedd. Mae llawer o astudiaethau ac ymchwil academaidd yn ymwneud â cheisio dod o hyd i ffyrdd manwl gywir o siarad am bynciau penodol. Golyga hyn fod academyddion yn aml yn creu termau newydd er mwyn bod yn fwy manwl gywir. Unwaith y byddwch wedi dysgu'r termau hyn, bydd hyn yn eich helpu chithau hefyd. Ond byddwch yn ymwybodol o'r ffaith bod amsugno'r derminoleg hon yn broses. Peidiwch â rhoi pwysau arnoch eich hun i'w deall i gyd ar unwaith.

Mae hefyd yn werth cofio, o fewn pwnc academaidd, y gallai term fod ag ystyr sy'n wahanol i'w ddefnydd bob dydd. Er enghraifft, mewn bywyd bob dydd, rydym yn cyfeirio at emosiynau cadarnhaol fel y rhai yr ydym yn eu mwynhau (fel hapusrwydd). Fodd bynnag, mewn seicoleg, weithiau caiff emosiynau cadarnhaol eu hystyried yn rai sy'n ein cymell i weithredu tuag at rywbeth (felly gellid ystyried dicter yn emosiwn cadarnhaol yn y termau hyn). Peidiwch â phoeni'n ormodol am hyn – byddwch yn siŵr o gofio'r gwahaniaethau.

Bydd dod yn gyfarwydd â'r ieithoedd newydd hyn yn eich helpu i ymgartrefu'n gyflymach. Gallai gwneud ychydig o waith cyn i chi gyrraedd y brifysgol fod o gymorth. Gall ymgysylltu â fforymau myfyrwyr, edrych ar wefan y brifysgol a darllen rhywfaint am eich pwnc eich helpu i ddod yn fwy rhugl.

Adolygwyd ddiwethaf: Hydref 2023