Gareth Hughesyw Arweinydd Clinigol Student Space ac mae'n seicotherapydd, ymchwilydd ac awdur ar lesiant myfyrwyr, gan gynnwys y llyfr Be Well, Learn Well.
Beth bynnag fo'ch lefel astudio neu ba mor hir y bu'r egwyl, mae'n arferol profi amrywiaeth o emosiynau ynghylch dychwelyd i'r brifysgol. Gall ychydig o baratoi cyn i chi fynd eich helpu i deimlo'n fwy cadarnhaol am ddychwelyd a chynyddu'r siawns o gael profiad llwyddiannus a phleserus.
Beth bynnag fo'ch lefel astudio neu ba mor hir y bu'r egwyl, mae'n arferol profi amrywiaeth o emosiynau ynghylch dychwelyd i'r brifysgol. Gall rhywfaint o hyn fod oherwydd eich profiad prifysgol blaenorol neu'ch amgylchiadau ar hyn o bryd.
Os oeddech chi'n mwynhau'r brifysgol o'r blaen, efallai y byddwch chi'n gyffrous am weld ffrindiau, cymdeithasu a dysgu mwy. Ar y llaw arall, os nad oedd eich profiad cystal ag yr oeddech wedi gobeithio hyd yn hyn, efallai y byddwch yn poeni am ddychwelyd i'r un profiad. Neu, os oes gennych chi gyfrifoldebau eraill, mae’n bosibl fod bywyd yn y gwyliau yn symlach ac yn hawdd i’w reoli heb orfod dod o hyd i amser ar gyfer y brifysgol.
Beth bynnag fo'ch profiad o'r blaen, mae'n bwysig cofio nad oes dwy flynedd neu ddau dymor yn y brifysgol byth yr un fath â’i gilydd. Mae hyn yn golygu y gallwch chi dynnu ar eich profiadau blaenorol i lunio amser gwell. Gall ychydig o baratoi cyn i chi fynd eich helpu i deimlo'n fwy cadarnhaol am ddychwelyd a chynyddu'r siawns o gael profiad llwyddiannus a phleserus.
Adolygu eich profiad blaenorol
Cymerwch amser i feddwl yn ôl dros eich profiadau blaenorol. P’un a oeddech chi wedi mwynhau’r brifysgol neu ond wedi ymdopi, byddwch wedi datblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth mewn ffyrdd a all eich helpu yn y tymor nesaf. Byddwch yn gwybod mwy am sut mae'ch prifysgol yn gweithio, mwy am eich cwrs ac am sut i ddod o hyd i’ch ffordd o gwmpas. Efallai eich bod wedi datblygu sgiliau astudio neu sgiliau bywyd newydd neu'r gallu i ddal ati pan fo pethau'n heriol.
Efallai y byddai’n fuddiol i chi feddwl am y canlynol
Beth aeth yn dda?
Beth na aeth gystal ag y dymunech?
Pa sgiliau a dealltwriaeth ydych chi wedi’u datblygu
Sut gallwch chi ddefnyddio hwn i gael yr amser gorau posib ar ôl i chi ddychwelyd? (gall rhai o’r awgrymiadau isod eich helpu gyda ffyrdd eraill y gallwch wneud y profiad hwn yn fwy cadarnhaol i chi’ch hun).
Gall adolygu eich amser fel hyn eich helpu i ddatblygu cynllun a theimlo bod gennych fwy o reolaeth.
Paratoi yn academaidd
Dros gyfnod egwyl, gallwch golli cysylltiad â'ch astudiaethau academaidd a gall hyn olygu fod dychwelyd yn teimlo'n fwy heriol. Gall ailgysylltu â’ch dysgu ymlaen llaw olygu eich bod yn fwy parod i ddysgu ac i ymateb os bydd lefel yr her yn cynyddu. Nid oes rhaid i hyn olygu gwneud llawer o waith – gall ychydig o amser yn cysylltu â'ch pwnc helpu. Efallai y byddwch am ystyried y canlynol –
Adolygu eich nodiadau o astudiaeth flaenorol, i atgoffa'ch hun o'r hyn yr ydych eisoes wedi'i ddysgu. Gall hyn gryfhau sylfeini eich gwybodaeth fel eich bod yn barod i ddysgu mwy.
Gall darllen peth o’r deunydd ar eich rhestr ddarllen ar gyfer y tymor nesaf eich helpu i fwrw ymlaen ac mae’n golygu eich bod eisoes yn ymgyfarwyddo â’r deunydd newydd y byddwch yn ei ddysgu.
Gall gwrando ar bodlediadau neu lyfrau llafar sy'n ymwneud â'ch pwnc helpu i'ch ailgysylltu a'ch ymgyfarwyddo â mwy o'ch pwnc. Efallai y byddwch hefyd yn gallu gwrando arnynt wrth i chi wneud pethau eraill.
Gall darlithoedd ar-lein a blogiau fideo hefyd fod yn ffordd ddefnyddiol o ddysgu mwy. Efallai yr hoffech chi hefyd wneud rhestr o'r rhesymau pam roeddech chi eisiau astudio'r pwnc hwn yn y lle cyntaf i atgoffa'ch hun o fanteision dysgu yn y brifysgol.
Paratoi yn gymdeithasol
Beth bynnag yw eich profiad cymdeithasol blaenorol o brifysgol, mae cyfleoedd o hyd i feithrin cyfeillgarwch a thyfu eich rhwydwaith cymdeithasol. Mae hi dal yn bosibl ymuno â Chymdeithasau a Chlybiau Undeb neu Urdd y Myfyrwyr a mynychu gweithgareddau cymdeithasol lle gallwch gwrdd â phobl newydd. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi ddarllen ein canllaw mynd ati’n strwythuredig i wneud ffrindiau. Cyn dychwelyd i'r brifysgol, gallwch ddefnyddio gwefannau eich prifysgol a’ch Undeb Myfyrwyr i nodi cyfleoedd ar gyfer pan fyddwch yn dychwelyd.
Os oes gennych chi ffrindiau o'ch amser yn y brifysgol, yna efallai yr hoffech chi gysylltu â nhw a threfnu cyfarfod pan fyddwch chi'n dychwelyd, fel y gallwch chi ailsefydlu'r perthnasoedd hynny ar unwaith.
Paratoi i ofalu am eich llesiant
Mae dechreuadau newydd, fel dechrau'r tymor, yn adeg wych i sefydlu arferion iach. Maent yn darparu ‘pwyntiau ailosod;’ oherwydd eich bod yn newid arferion mewn ffyrdd eraill, mae hyn yn eich rhyddhau i feithrin arferion a threfniadau newydd.
Meddyliwch am newidiadau iach y gallech eu gwneud a fyddai’n eich helpu i gynnal eich llesiant yn ystod tymor neu flwyddyn nesaf y brifysgol. Efallai y byddwch am gynllunio a pharatoi i sefydlu’r arferion newydd hyn yn gyflym drwy, er enghraifft,
Recriwtio ffrind i ymuno â chi mewn gweithgaredd sy'n rhoi hwb i'ch llesiant
Dod ag adnoddau fel dillad i wneud ymarfer corff, bwyd iach neu lawrlwytho apiau defnyddiol