Paratoi i fynd i'r afael â gwrthdaro

Mae Rupinder Mahil yn seicotherapydd a chyfryngwr achrededig sy'n gweithio ym Mhrifysgol Derby. Mae'n arbenigo mewn helpu pobl i weithio gyda gwrthdaro a'i ddatrys.

Wrth fynd i'r afael â gwrthdaro, gall gofyn nifer o gwestiynau allweddol i chi'ch hun a fframio'r sgwrs yn y ffordd gywir eich helpu i greu'r amodau ar gyfer sgwrs ddefnyddiol.

Gall cael sgwrs gyda rhywun am anghytundeb neu wrthdaro posibl deimlo’n frawychus ac anghyfforddus ond, gyda rhywfaint o baratoi, gallwch ei gwneud yn fwy tebygol y bydd yn sgwrs ddefnyddiol a chadarnhaol.

Cymerwch amser i egluro eich meddyliau a'ch teimladau eich hun yn gyntaf. Efallai y byddwch am weithio ar gael eglurder ar eich pen eich hun neu drwy drafod â rhywun nad yw'n gysylltiedig â'r gwrthdaro.

Eglurwch sut rydych chi'n teimlo am y gwrthdaro

1. A allwch chi sefydlu tawelwch i chi'ch hun?

Ceisiwch fonitro eich ymateb corfforol ac emosiynol eich hun i'r hyn sy'n digwydd. Defnyddiwch dechnegau ymlacio e.e. gall gwneud yr ymarfer anadlu 7–11 er mwyn eich helpu i leihau unrhyw straen neu ofid helpu i glirio'ch meddyliau a dechrau nodi'r hyn rydych chi eisiau ei ddweud a’r ffordd rydych chi eisiau ei ddweud.

2. Nodwch yr hyn sy'n achosi anhawster i chi

Nodwch yr effaith y mae hyn yn ei chael arnoch chi ac eraill. Mae sut mae'n gwneud i chi deimlo yn bwysig o ran eich helpu i nodi beth yw eich anghenion, a bydd yn helpu eraill i ddeall pam ei fod yn bwysig i chi.

3. Eglurwch pam ei fod mor bwysig i chi

A allwch chi ei ddisgrifio fel y bydd y person arall yn deall beth rydych chi'n ei olygu?

4. Beth yw eich rôl yn y gwrthdaro hwn?

A oes pethau rydych chi'n cydnabod y gallai fod angen i chi eu newid yn y dyfodol? Mae’n bosibl y bydd y gallu i nodi hyn yn gynnar yn y sgwrs yn golygu bod y person arall yn llai tebygol o deimlo ei fod yn cael y bai am yr holl beth.

Ystyriwch eich opsiynau i fynd i'r afael â'r sefyllfa

Gall hyn olygu gwahodd y person(au) eraill i gael sgwrs uniongyrchol, neu gael mynediad at gymorth i ddechrau mynd i'r afael â'r materion yr ydych wedi'u nodi. Mae'n bosibl y gall gwasanaethau cymorth eich prifysgol eich helpu.

Sut i wahodd rhywun i gael sgwrs

1. Ceisiwch gychwyn sgwrs uniongyrchol

Mae bob amser yn well, pan fydd y sefyllfa'n caniatáu, i fynd i'r afael â'r materion yn uniongyrchol gyda'r person neu'r bobl rydych yn cael anawsterau gyda nhw. Mae sgwrs uniongyrchol yn rhoi cyfle i chi ddatrys materion yn gyflym ac yn ei gwneud yn fwy tebygol y gallwch chi gynnal perthynas â nhw wedyn.

Efallai y byddwch hyd yn oed yn gweld bod mynd i'r afael â gwrthdaro, yn llwyddiannus rhyngoch chi, yn cryfhau'ch perthynas. Nid diffyg gwrthdaro sy'n diffinio perthnasoedd cryf, ond y gallu i fynd i'r afael â gwrthdaro a'i ddatrys pan fydd yn codi.

2. Rhowch amser iddynt ystyried

Ceisiwch wneud y gwahoddiad i siarad mor anfygythiol â phosibl. Ceisiwch beidio ag ‘ymosod’ arnynt os nad ydyn nhw'n disgwyl sgwrs: rhowch amser i'r person arall ymateb a rhoi trefn ar ei feddyliau.

Gan ddibynnu ar y sefyllfa, efallai y byddwch am siarad ag ef wyneb yn wyneb, i drefnu amser i siarad yn ddiweddarach. Neu gallech gytuno ar amser drwy neges breifat.

Os gallwch chi, dewiswch leoliad a fydd yn gyfforddus i'r ddau ohonoch, lle gallwch chi siarad am yr holl faterion. Sicrhewch fod gan y ddau ohonoch ddigon o amser i gael y sgwrs.

3. Fframiwch y sgwrs mewn modd adeiladol

Ceisiwch wneud yn glir yn eich gwahoddiad eich bod am ddatrys y broblem. Bydd y ffordd y byddwch chi'n fframio'r sgwrs yn effeithio ar sut mae ef yn mynd ati.

Os yw’n credu eich bod chi eisiau dweud y drefn neu ymosod arno, mae’n fwy tebygol o gyrraedd gan deimlo'n amddiffynnol. Os yw’n teimlo eich bod yn agored ac eisiau datrys pethau rhyngoch o ddifrif, mae’n fwy tebygol o gyrraedd gyda meddwl agored a pharodrwydd i ddod o hyd i atebion.

Os nad ydych chi'n credu y gallwch chi gael y sgwrs yn uniongyrchol neu os ydych chi'n teimlo'n anniogel, siaradwch â rhywun yn eich prifysgol am gymorth. Efallai y bydd yn gallu eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd eraill o ddatrys y gwrthdaro.

Adolygwyd ddiwethaf: Hydref 2022