Leave this site now

Poeni am beidio â dod o hyd i’ch lle yn y brifysgol

Gareth Hughes

Gareth Hughes yw Arweinydd Clinigol Student Space ac mae'n seicotherapydd, ymchwilydd ac awdur ar lesiant myfyrwyr, gan gynnwys y llyfr Be Well, Learn Well.

A sawl wythnos o’r tymor wedi mynd heibio, nid yw'n anarferol i lawer o fyfyrwyr deimlo nad ydynt wedi ymgartrefu fel yr oeddent wedi gobeithio – ac nid yw'n syndod ychwaith. Mae dod i'r brifysgol yn drawsnewidiad mawr ac mae llawer o elfennau i'w rheoli a dod i arfer â nhw.

Fel myfyriwr newydd, rhaid i chi addasu i amgylchedd newydd, cwrdd â llawer o bobl newydd, dechrau dysgu ar lefel academaidd wahanol, a dod i arfer ag iaith a diwylliant y brifysgol – ac efallai eich bod wedi symud cartref, wedi gadael teulu a ffrindiau, ac yn ceisio ymdopi â byw yn annibynnol. Nid yw'n syndod ei bod yn cymryd mwy nag ychydig wythnosau i rai myfyrwyr ymgartrefu.

Nid yw hyn yn golygu na fyddwch wedi ymgartrefu yn fuan ac mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i'ch helpu i deimlo'n well yn gyflym.

Camau y gallwch eu cymryd i ymgartrefu'n well

Ymrwymo i aros yma – am y tro.

Mae myfyrwyr yn tueddu i gael mwy o drafferth os ydynt yn treulio eu holl amser yn meddwl p'un a ydynt am aros yn y brifysgol neu beidio. Dewiswch gyfnod o amser (o nawr tan y Nadolig, dyweder) ac ymrwymo i aros a gwneud popeth o fewn eich gallu i wneud iddo weithio. Cofiwch nad yw hwn yn benderfyniad popeth-neu-ddim – hyd yn oed os ydych yn penderfynu aros heddiw, nid yw hynny'n golygu eich bod yma am byth. Gallwch adolygu sut mae pethau'n mynd yn nes ymlaen ac, os yw'n glir yn y pen draw nad yw'r brifysgol ar eich cyfer chi, yna rydych chi'n rhydd i fynd.

Cadw strwythur ddyddiol

Sicrhewch fod strwythur pwprasol i'ch dyddiau gyda chydbwysedd da o weithgarwch ac amser i orffwys a myfyrio. Bydd treulio llawer o amser ar eich pen eich hun heb ddim i'w wneud yn gwneud i chi deimlo'n waeth, a bydd gweithgarwch di-stop yn gwneud i'ch pen droi.

Arferion iach i helpu eich iechyd meddwl

Gwneud pethau sy'n gwneud i chi deimlo'n dda

Mae'n iawn mwynhau eich hun, a hyd yn oed os ydych yn mwynhau peth o'ch amser yn y brifysgol, nid yw hynny'n golygu bod rhaid i chi aros. Gwobrwywch eich hun gyda rhywbeth sy'n codi eich calon.

Rhoi cynnig ar bethau newydd

Tra byddwch yn y brifysgol, efallai y byddwch hefyd yn rhoi cynnig ar y cyfleoedd y mae'n eu darparu. Gall rhoi cynnig ar rywbeth newydd eich harwain at ddarganfod rhywbeth newydd rydych yn angerddol amdano, cwrdd â ffrindiau newydd, cael ychydig o hwyl, neu dynnu eich sylw am ychydig.

Un ffordd o gynnal iechyd meddwl a lleddfu hiraeth (sy’n gwbl naturiol a normal) yw mynd allan a rhoi cynnig ar bethau newydd yn eich dinas newydd. Ewch i fwyty a bwyta bwyd newydd, neu ddim ond mynd am dro hyd yn oed. Fe welwch fod cymaint i’w weld a’i wneud.

Mynd ati i wneud ffrindiau mewn modd strwythuredig

Os nad ydych wedi gwneud ffrindiau eto, peidiwch â phoeni – mae llawer o fyfyrwyr yn cymryd bod pawb arall wedi gwneud ffrindiau eisoes ac na fydd croeso iddynt ymuno â'r grwpiau ffrindiau hynny. A dweud y gwir, mae'r rhan fwyaf o'r grwpiau hyn yn amrywio yn ystod y flwyddyn gyntaf o leiaf, gyda phobl newydd yn gadael ac yn ymuno drwy'r amser. Cofiwch, mae'n debyg mai dim ond ers ychydig wythnosau y mae'r bobl sy'n ymddangos agosaf wedi adnabod ei gilydd hyd yn oed. Rhowch eich hun mewn cymaint o sefyllfaoedd â phosibl y gallwch gwrdd â phobl newydd – e.e trwy ymuno â chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr.

Edrych ar ôl eich hunan

Gall fod yn demtasiwn i esgeuluso eich iechyd pan fyddwch yn teimlo'n isel, ond ar adegau fel hyn mae'n bwysicach nag erioed eich bod yn gofalu amdanoch eich hun. Ceisiwch fwyta'n iach, gwnewch ychydig o ymarfer corff, ac ewch allan i'r haul bob dydd.

Bydd cymorth ar gael yn eich prifysgol i'ch helpu i reoli'r teimladau a'r anawsterau rydych yn eu profi. Mae'r staff cymorth wedi arfer gweithio gyda myfyrwyr sydd yn eich sefyllfa chi ac efallai y gallant helpu i ddatrys pethau'n gyflymach.

University support icon

Dod o hyd i wasanaethau cymorth sy'n cael eu darparu gan eich sefydliad addysg

Adolygwyd ddiwethaf: Hydref 2023