Leave this site now

Profiadau rhyngwladol, newid a hunaniaeth oddi cartref

Mae All Things Mental Health

Mae All Things Mental Health Podlediad meddyliau ifanc yw All Things Mental Health. Maent yn pontio’r bwlch rhwng ymchwil a phrofiad bywyd pobl ifanc o lywio’u hiechyd meddwl, gan greu lle i ddeialog newydd ddod i’r amlwg drwy ganoli llais meddyliau ifanc. Mae All Things Mental Health yn y 15% uchaf o bodlediadau a rennir yn fyd-eang.

Daw ein pennod olaf gan fyfyrwyr rhyngwladol, Bertha ac Oluwa sy’n siarad am eu profiadau o symud i’r Deyrnas Unedig i astudio dramor.

Mae pob myfyriwr yn wynebu heriau gwahanol ond yn uno yn y buddion y maent wedi'u profi. Mae Bertha ac Oluwa yn archwilio sut mae eu hunaniaethau yn rhyngweithio â'u profiadau bob dydd. Mae newid yn llinyn cyson drwy gydol y bennod hon: archwilio ofn yr anhysbys ac addasu i system newydd. Maen nhw’n cloi’r gyfres hon trwy dynnu sylw at ffyrdd y gall prifysgolion gefnogi myfyrwyr rhyngwladol yn well— o'r adeg pan fyddant yn dechrau eu cyfnod pontio o gartref i’r Deyrnas Unedig, drwy gydol eu hastudiaethau, ac ar ôl graddio.

Safbwyntiau’r unigolion eu hunain a fynegir, nad ydynt o reidrwydd yn cynrychioli safbwyntiau Student Minds, All Things Mental Health a Colourful Minds.