Leave this site now

Pum awgrym ar gyfer mynd i’r afael â phryder fel menyw Ddu Gristnogol

Mae Shannel Grant yn fyfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac mae ganddi ddiddordeb brwd yn y berthynas rhwng ffydd ac iechyd meddwl.

Mae Shannel yn archwilio sut a pham mae ymdopi â phryder fel menyw Gristnogol Ddu yn wynebu ei heriau unigryw a’i chynghorion ar gyfer ei reoli.

Gall rhan o’r anhawster wrth fynd i’r afael â gorbryder o fewn gofodau crefyddol fod yn seiliedig ar y diffyg trafodaethau am anawsterau iechyd meddwl, a’u heffaith ar ein bywydau. Mae llawer ohonon ni’n profi meddyliau gorbryderus tebyg: boed yn ymwneud â'n graddau academaidd, ein sefyllfa ariannol neu beth i'w wneud yn ein bywydau ar ôl graddio o'r brifysgol. Mae gallu trafod y pryderon hyn o fewn amgylchedd sy’n aml yn cael ei ystyried yn bwysig i ni leihau’r baich sydd ar ein hysgwyddau a helpu i hwyluso trafodaethau am ein problemau.

Fel crediniwr y mae ei ffydd wedi bod yn rhan annatod o’i bywyd, bu adegau lle’r oeddwn i’n teimlo nad oeddwn i’n cyrraedd y safon a oedd yn ofynnol imi ei chyrraedd, a bod presenoldeb fy anawsterau iechyd meddwl yn golygu nad oeddwn i’n deilwng o gael fy ngalw’n Gristion. Roedd y meddyliau hyn yn ei gwneud hi'n anoddach i mi rannu fy mrwydrau gyda gorbryder ac i ddangos tosturi i fi fy hun.

Trwy ddefnyddio offer ymarferol ac sydd wedi’u seilio ar ffydd, rwy'n gallu goresgyn fy heriau, a bod yn fwy amyneddgar gyda mi fy hun.

Dyma bum awgrym ar gyfer delio â gorbryder fel menyw Ddu Gristnogol

1. Byddwch yn agored ac yn onest gyda chi'ch hun

Does dim byd o'i le gyda chi. Rhaid deall nad ydych chi’n llai o grediniwr oherwydd eich bod chi’n cael trafferth gyda'ch iechyd meddwl. Bydd cymharu eich hun ag eraill ond yn dwysáu teimladau o orbryder ac yn cynyddu’r teimlad o ansicrwydd. Byddwch yn dosturiol gyda phwy ydych chi a ble rydych chi ar eich taith. Bydd gwadu ond yn dwysáu teimladau o straen, tra gall gonestrwydd roi heddwch ac eglurder wrth i chi ofalu am eich iechyd meddwl.

2. Sicrhewch eich bod yn gwybod pryd i geisio cymorth

Gall gorbryder ei gwneud hi'n anodd iawn i ganolbwyntio ar dasg gan ei fod yn eich gadael chi mewn cyflwr o barlys o ganlyniad i orddadansoddi a gorfeddwl popeth. Mae'n bosibl na fydd eich teulu na'ch cyfoedion yn deall eich profiad neu'n barod i ymdopi ag ef. Os yw'n dod yn anodd i chi gwblhau tasgau syml neu orffen aseiniadau, yna mae hyn yn arwydd bod hi’n amser ichi geisio cymorth proffesiynol i fynd i’r afael â’ch gorbryder. Gall gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol achrededig eich helpu i lunio cynlluniau diogelwch a darparu offer a strategaethau a all eich helpu i ddod o hyd i achos sylfaenol eich gorbryder. Mae yna hefyd opsiwn o gymorth bugeiliol a chwnsela gan weithiwr proffesiynol sy'n rhannu eich ffydd ac yn ei chymhwyso i'w ddull. Bydd gan y rhan fwyaf o brifysgolion wasanaeth caplaniaeth, felly cymerwch olwg ar y cymorth y mae’n ei gynnig.

University support icon

3. Peidiwch â gwneud y camgymeriad o ynysu eich hun

Mae’r dymuniad i fod ar eich pen eich hun yn atyniadol pan ydych chi’n teimlo’n orbryderus. Fodd bynnag, gall bod yn rhan o gymuned eich helpu chi i deimlo bod pobl yn eich gwerthfawrogi ac yn gofalu amdanoch chi, sy'n lleihau meddyliau gorbryderus yn sylweddol. Gall amgylchynu’ch hun gyda ffrindiau dibynadwy, aelodau o’r eglwys a theulu roi anogaeth a helpu i leddfu teimladau o straen. Gall cael system gymorth a all weddïo ac addoli gyda chi roi heddwch a chryfder.

4. Dewch i wybod nad yw'r cyfnod hwn yn diffinio'ch bywyd

Weithiau gall gorbryder deimlo fel eich bod chi’n sownd mewn pydew neu mewn cylch diddiwedd. Oherwydd hyn, mae'n hawdd credu y bydd eich bywyd yn teimlo fel hyn bob amser. Fodd bynnag, mae'n bwysig cofio mai dim ond cyfnod yn eich bywyd yw hwn, ac nid yw'n diffinio'ch bywyd cyfan. Bydd cyfnodau anodd yn mynd heibio, a byddwch chi’n gallu dod o hyd i heddwch yng nghanol y storm.

5. Cadwch lyfr lle gallwch chi gofnodi’ch meddyliau ac emosiynau

I mi, mae cadw llyfr o’r fath wedi bod yn un o’r ffyrdd mwyaf buddiol sydd wedi fy helpu i i fynd i’r afael â gorbryder. Mae hyn wedi fy ngalluogi i fynegi fy meddyliau gorbryderus, pryderon ac ofnau gan fy mod i fel arfer yn eu troi nhw’n weddïau a’u trosglwyddo i Dduw, sy'n gwybod popeth ac sydd â'r gair terfynol. Gall ysgrifennu’ch teimladau mewn llyfr roi eglurder a'i gwneud hi'n haws i reoli gorbryder. Hefyd, mae gallu edrych yn ôl ar yr hyn rydych chi wedi’i ysgrifennu’n flaenorol a gweld pa mor bell rydych chi wedi dod yn gallu bod yn ffynhonnell wych o gysur ac anogaeth.

Cofiwch, nid yw cael anhawster iechyd meddwl yn diffinio pwy ydych chi. Nid yw'n eich gwneud chi’n llai pwysig, ac nid yw'n lleihau eich gwerth chi fel unigolyn. Rydych chi'n dal i fod yn bwysig waeth beth yw’ch problemau iechyd meddwl ac, yn bwysicaf oll, nid ydych chi ar eich pen eich hun. Trwy alw ar eich ffydd, gan gofio bod yn rhaid i dosturi gynnwys hunan-dosturi, ceisio cymorth, ac ysgrifennu am eich meddyliau a’ch emosiynau, gallwch chi ganfod eich ffordd trwy’r heriau hyn trwy ras ac arweiniad Duw.

Adolygwyd ddiwethaf: Gorffennaf 2024