Gareth Hughesis the Clinical Lead for Student Space and is a psychotherapist, researcher and writer on student wellbeing, including the book Be Well, Learn Well
Gall bywyd myfyriwr a'r byd o'n cwmpas greu llawer o ansicrwydd i fyfyrwyr. Dysgwch sut mae ansicrwydd yn effeithio ar eich meddwl a sut y gallwch weithio gyda hwn i gynnal eich llesiant.
Mae ansicrwydd wedi bod yn rhan o fywyd prifysgol erioed, yn enwedig i fyfyrwyr newydd. Ond mae newidiadau diweddar mewn cymdeithas, fel y pandemig a phryderon am yr economi, wedi cynyddu hyn i lawer o fyfyrwyr. Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar reoli ansicrwydd yn y brifysgol.
Pan fyddwn ni'n profi ansicrwydd, gall achosi gorbryder am nad ydym ni'n gwybod beth fydd yn digwydd neu am ei fod yn ein gorfodi i wneud penderfyniadau pan na allwn ni fod yn siŵr o'r canlyniadau. Pan fyddwch chi'n wynebu lefelau uchel o ansicrwydd am fywyd prifysgol, gall fod yn hawdd dilyn un o'r patrymau meddwl canlynol.
Patrymau meddwl mewn ymateb i ansicrwydd
1. Osgoi meddwl amdano
Pan fyddwch chi'n wynebu ansicrwydd, efallai y byddwch chi am beidio â meddwl amdano o gwbl ac esgus nad ydyw'n digwydd. Gallai hyn eich helpu chi i deimlo'n well am ychydig bach, oherwydd os nad ydych chi'n meddwl am y peth, dydych chi ddim yn teimlo cymaint o straen. Ond fydd hyn ddim yn eich helpu i gynllunio a rheoli'r sefyllfa ac efallai byddwch chi'n colli gwybodaeth bwysig neu gyfleoedd i wella pethau.
2. Cnoi cil arno
Efallai y byddwch chi'n cnoi cil ar y ffaith bod yr ansicrwydd hwn yn digwydd ac yn gobeithio y bydd yn diflannu. Gall hyn droi'n ddicter tuag at bobl eraill neu at sefydliadau oherwydd dydyn nhw ddim yn gallu rhoi'r sicrwydd sydd ei angen arnoch chi.
Hyd yn oed os oes lle gennych chi i deimlo fel hyn, mae parhau i gnoi cil arno'n annhebygol o'ch helpu chi. Mae cnoi cil yn tueddu i wneud i ni deimlo'n waeth dros amser ac mae'n llosgi egni ac emosiwn.
3. Pendilio rhwng opsiynau
I ddod â'r ansicrwydd i ben, efallai y byddwch chi'n ceisio gwneud penderfyniadau ar beth rydych chi'n mynd i'w wneud ond yn newid eich meddwl yn gyflym. Gan nad oes unrhyw opsiwn yn teimlo fel ateb perffaith, rydych chi'n rhoi'r gorau i bob penderfyniad ac yn chwilio am rywbeth gwell drwy'r amser.
Gall ansicrwydd fod yn anodd ei reoli'n aml, ac mae pethau gwahanol yn gweithio i bobl wahanol. Y man cychwyn gorau yw ceisio derbyn realiti’r sefyllfa.
1. Derbyn realiti
Pan fyddwn ni'n derbyn realiti, yna gallwn ni weithio i'w newid a'i wella. Tra ein bod ni'n ei osgoi, yn gobeithio y bydd yn mynd i ffwrdd neu'n pendroni am annhegwch yr ansicrwydd, allwn ni ddim gwneud pethau'n well.
Mae hyn hefyd yn golygu bod yn rhaid i ni dderbyn ein hymateb emosiynol ein hunain i ansicrwydd. Mae'n iawn teimlo'n rhwystredig, yn drist, yn siomedig, yn orbryderus neu'n flin bod eich profiadau ddim fel roeddech chi wedi dychmygu neu obeithio y bydden nhw. Mae'r teimladau hyn yn eich arwain at y ffaith bod angen i chi ganolbwyntio ar rywbeth pwysig.
2. Byddwch yn garedig tuag atoch chi'ch hun
Ceisiwch wrthsefyll y demtasiwn o feddwl y ‘dylech’ fod yn gallu delio â'r hyn sy'n digwydd. Neu fod pobl eraill yn rheoli eu teimladau'n well na chi. Rydych chi'n teimlo fel hyn gan mai dyna natur ddynol ac mae'r sefyllfa'n ansicr iawn. Mae eich teimladau'n ymateb arferol i fyw drwy amgylchiadau anarferol.
Gwrandewch ar eich teimladau ac ar y pryderon sy'n deillio ohonyn nhw a chofiwch ei bod yn iawn i chi deimlo fel hyn. A chofiwch hefyd, er eich bod chi'n teimlo fel hyn heddiw, nid yw'n golygu y byddwch chi'n teimlo fel hyn yn y tymor hir neu na fydd eich profiad prifysgol yn gwella.
3. Cymerwch gamau i wneud y gorau o'r sefyllfa
Os gallwn ni dderbyn ansicrwydd a chanolbwyntio ar beth y gallwn ni ei wneud i wella’r sefyllfa, yna gallwn ni leihau ein cynnwrf emosiynol a chymryd camau ymarferol i wneud y gorau o’r sefyllfa yr ydym ni ynddi.
Unwaith y byddwn ni'n derbyn realiti, gallwn ni hefyd dderbyn nad oes unrhyw ateb yn mynd i fod yn berffaith. Mae hyn yn iawn – dydy bywyd myfyrwyr byth yn berffaith beth bynnag. Mae bywyd bob amser yn llawn o ddringo a disgyn am yn ail.
Felly yn hytrach na chwilio am y penderfyniad cywir, gallwn ni ganolbwyntio yn hytrach ar wneud penderfyniad cystal â phosibl o dan yr amgylchiadau. Cofiwch, beth bynnag fyddwch chi'n ei ddewis, nid yw'n golygu eich bod chi'n colli dewis arall sy'n berffaith. Weithiau gall ein meddyliau ganolbwyntio cymaint ar geisio dewis yr opsiwn gorau posibl nad ydyn ni'n gallu gwneud penderfyniad o gwbl.
Pa bynnag benderfyniadau a wnewch chi er mwyn rheoli'r sefyllfa, y peth allweddol yw llunio cynllun gweithredu i sicrhau bod y penderfyniadau hynny'n gweithio cystal ag sy'n bosibl i chi.