Gareth Hughesyw Arweinydd Clinigol Student Space ac mae'n seicotherapydd, ymchwilydd ac awdur ar lesiant myfyrwyr, gan gynnwys y llyfr Be Well, Learn Well.
Gall diwedd eich cyfnod yn y brifysgol gynnwys emosiynau cymysg: pryderon am y dyfodol a heriau a thasgau cystadleuol, i gyd yn galw am eich sylw ar yr un pryd.
Gall diwedd eich cyfnod yn y brifysgol gynnwys emosiynau cymysg: pryderon am y dyfodol a heriau a thasgau cystadleuol, i gyd yn galw am eich sylw ar yr un pryd. Gall rhywfaint o feddwl a chynllunio eich helpu i gael y gorau o'r trawsnewid hwn. Nid yw’n syndod y gall y cyfnod hwn fod yn llethol i fyfyrwyr oherwydd, yn ystod cyfnod byr iawn, gall gynnwys:
Cwblhau darnau terfynol o waith cwrs a/neu sefyll arholiadau sy'n bwysig i'ch gradd gyffredinol
Chwilio am swyddi i’w dechrau ar ôl y brifysgol neu wneud cais am astudiaeth bellach
Symud llety – o bosib i leoliad cwbl newydd
Rheoli newidiadau sylweddol iawn yn eich grŵp cyfeillgarwch, wrth i bobl symud i leoliadau daearyddol gwahanol
Chwilio am waith i dalu'r biliau am y tro, tra byddwch yn chwilio am swydd i raddedigion
Gall hyn fod yn waeth os nad ydych yn gwybod beth rydych am ei wneud nesaf neu ble rydych am fyw neu os ydych yn rheoli mathau eraill o ansicrwydd neu os oes gennych gyfrifoldebau gofalu. Ond y peth allweddol i'w gofio yw bod hyn i gyd yn iawn.
Er bod hwn yn drawsnewidiad mawr, mae yna ffyrdd o reoli hyn a all eich helpu i gael y gorau o'ch amser a pharatoi ar gyfer yr hyn a ddaw nesaf.
1. Byddwch yn garedig tuag atoch chi'ch hun
Cydnabyddwch fod hwn yn drawsnewidiad mawr a pheidiwch â disgwyl gormod ohonoch chi'ch hun. Mae'n iawn bod yn ofnus neu’n bryderus neu deimlo ar goll ar adegau. Mae hefyd yn iawn bod yn gyffrous am y dyfodol, yn barod i orffen yn y brifysgol, ac edrych ymlaen at beidio â chael unrhyw derfynau amser academaidd o'ch blaen. Beth bynnag a ddaw, derbyniwch fod hyn yn arferol ar gyfer newid mor fawr yn eich bywyd. Rydych chi'n gwneud yn iawn. Ceisiwch gymryd seibiannau, cael cwsg da, a bwyta'n iach.
Gyda chymaint yn digwydd, gall helpu i leihau pethau i ddarnau hylaw. Beth allwch chi ei wneud yn rhesymol heddiw? Yr wythnos hon? Y mis hwn? Gall cynllunio fel hyn eich helpu i deimlo bod gennych reolaeth a blaenoriaethu’r hyn sydd angen ei wneud ar hyn o bryd.
3. Peidiwch â chael eich tynnu i mewn i geisio cynllunio gweddill eich bywyd
Mae'r dyfodol yn anrhagweladwy ac, er gwaethaf yr hyn a ddywedwyd wrthych o bosib, ni allwch gynllunio'ch bywyd a'ch gyrfa mewn llinell syth o hyn ymlaen. Felly gadewch i'r angen hwnnw fynd ac, yn lle hynny, canolbwyntiwch ar y camau nesaf.
Nid oes rhaid i'ch swydd i raddedigion gyntaf bennu gweddill eich bywyd – nid oes rhaid i chi ddewis yr yrfa berffaith ar unwaith. Mae'n iawn peidio â hoffi'r swydd gyntaf rydych chi'n ei gwneud ac yna ailfeddwl am beth rydych chi ei eisiau. Canolbwyntiwch ar y cam gorau nesaf o hyn ymlaen – pa swydd hoffech chi ei gwneud nesaf? Pa gymorth y gallwch chi ei ddefnyddio i helpu i ddod o hyd iddi? (cofiwch mae'n debyg y bydd eich adran gyrfaoedd yn dal i gynnig cymorth i chi ar ôl i chi raddio).
4. Cynlluniwch i gadw mewn cysylltiad
Os bydd newidiadau yn eich grŵp cyfeillgarwch, ceisiwch fynd i'r afael â'r rhain yn rhagweithiol. Siaradwch â'ch ffrindiau am sut y byddwch chi'n cadw mewn cysylltiad, pryd y byddwch chi'n cwrdd nesaf, a sut y gallwch chi gynnal eich cyfeillgarwch.
Os ydych yn symud i ffwrdd o'r ardal lle mae eich prifysgol wedi'i lleoli, cofiwch drosglwyddo eich gofal iechyd hefyd. Bydd angen i chi symud at feddyg teulu newydd yn yr ardal rydych chi'n symud iddi. Os ydych chi'n cael triniaeth reolaidd ar gyfer cyflwr hirdymor, siaradwch â'ch gweithwyr gofal iechyd proffesiynol am symud eich cymorth ymhell cyn symud.
6. Dathlwch!
Peidiwch ag anghofio cymryd amser i nodi'r hyn rydych chi wedi'i gyflawni. Beth bynnag fydd eich gradd derfynol, rydych chi wedi cwblhau cwrs astudio yn y brifysgol – nid yw hynny'n beth bach.
Efallai y byddai’n dda dod at eich gilydd gyda theulu neu ffrindiau i rannu’r dathliad hwn. Nid oes rhaid i hyn olygu gwneud rhywbeth sy'n costio llawer o arian neu gael parti enfawr. Gwnewch rywbeth sy'n ystyrlon i chi a'r bobl sydd gyda chi. Neu efallai yr hoffech chi ddod o hyd i ffordd ystyrlon o ddathlu'r foment ar eich pen eich hun. Ond manteisiwch ar y cyfle i nodi’r foment hon – rydych chi’n ei haeddu.