Gareth Hughesyw Arweinydd Clinigol Student Space ac mae'n seicotherapydd, ymchwilydd ac awdur ar lesiant myfyrwyr, gan gynnwys y llyfr Be Well, Learn Well.
Gall diwedd perthynas fod yn heriol yn emosiynol ac yn ymarferol. Fodd bynnag, gydag amser a’r strategaeth gywir i chi, mae’n bosibl goresgyn yr heriau hyn a mwynhau bywyd prifysgol eto.
Gall diwedd unrhyw berthynas fod yn anodd, boed yn berthynas ramantus, yn gyfeillgarwch, yn berthynas deuluol neu'n berthynas waith. Nid yw'n anarferol profi teimladau cryf pan ddaw perthynas i ben. Mewn gwirionedd, hyd yn oed os mai chi yw'r un a benderfynodd rhoi'r gorau i'r berthynas, efallai y byddwch yn teimlo rhywfaint o dristwch hyd yn oed os ydych yn gwbl sicr mai dyma'r peth iawn a bydd eich bywyd yn well heb y berthynas honno.
Mae yna nifer o resymau pam y gall diwedd perthynas deimlo’n anodd:
Galar
Pan ddaw perthynas i ben, rydym yn colli rhywbeth o'n bywyd ac mae'n arferol galaru am golled. Nid yn unig ydyn ni’n galaru am golli'r unigolyn o’n bywyd o ddydd i ddydd nawr, rydyn ni hefyd yn galaru am bob dyfodol dychmygol gyda'n gilydd yr oeddem yn meddwl y byddai gennym. Yn syml, dyma'r ffordd y mae'r meddwl yn addasu i'r newid hwn. Mae’r emosiwn rydym yn ei deimlo yn dod â’n sylw at y ffaith nad yw’r unigolyn yn rhan o’n bywyd nawr, nac yn y dyfodol, ac felly mae angen i ni newid sut rydym yn meddwl, yn cynllunio ac yn dychmygu. Gydag amser a chyfle i addasu, bydd y galar hwn fel arfer yn cilio.
Mae newid yn aflonyddgar
Mewn sawl ffordd, rydym yn siapio ac yn strwythuro ein bywydau beunyddiol o amgylch ein perthnasoedd. Efallai eich bod wedi treulio llawer o amser gyda'ch gilydd ac yn awr yn gorfod dod o hyd i ffyrdd eraill, neu bobl eraill, i helpu i lenwi'r amser hwnnw. Efallai eich bod wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau neu hobïau penodol gyda'ch gilydd a dydych chi ddim yn siŵr sut i barhau â'r un gweithgaredd heb yr unigolyn hwnnw. Neu, efallai eich bod yn amau a ydych hyd yn oed eisiau gwneud yr un pethau nawr. Yn gyffredinol, mae newid ac ansicrwydd yn bethau rydym yn ei chael yn anodd eu rheoli. Felly, nid yw'n syndod efallai eich bod yn teimlo'n drist, yn bryderus, yn grac neu'n ddideimlad o ganlyniad. Fodd bynnag, mae'n bwysig gwybod ein bod yn normaleiddio i amgylchiadau newydd yn gyflym iawn. Unwaith y byddwch wedi cael yr amser i ddod o hyd i strwythurau, arferion a gweithgareddau newydd, bydd eich meddwl yn caniatáu ichi symud ymlaen a derbyn a mwynhau'r drefn newydd.
Efallai bod y berthynas wedi eich helpu i ddiwallu eich anghenion emosiynol
Mae gan bob un ohonom anghenion cymdeithasol ac emosiynol, gan gynnwys yr angen am sylw, agosatrwydd a chariad. Weithiau gall llawer o'n hanghenion gael eu diwallu mewn un berthynas, yn enwedig os yw'n berthynas agos iawn neu'n rhamantus. O ganlyniad, pan ddaw’r berthynas i ben, efallai y byddwn yn teimlo nad yw’r anghenion hyn yn cael eu diwallu rhagor. Gall hyn beri gofid a gwneud ichi deimlo'n unig, wedi'ch ynysu neu'n isel eich ysbryd. Unwaith eto, efallai y bydd yn eich helpu i feddwl am yr ymateb emosiynol hwn, yn syml, fel ffordd o’n harwain at y ffaith bod angen inni ddod o hyd i berthnasoedd eraill a all ein helpu i ddiwallu’r anghenion hyn nawr.
Helpu i reoli diwedd perthynas
Mae nifer o gamau y gallwch eu cymryd i’ch helpu i reoli diwedd perthynas:
Derbyniwch ddiwedd y berthynas a byddwch yn garedig tuag atoch chi'ch hun
Gall fod yn demtasiwn i eisiau cuddio rhag yr hyn sydd wedi digwydd neu osod disgwyliadau arnoch chi'ch hun y ‘dylech’ chi allu symud ymlaen yn gyflym neu ‘na ddylech’ chi deimlo'r teimladau hyn o hyd. Mae galar ac addasu yn anwadal ac yn cymryd amser. Mae eich teimladau'n naturiol ac mae'n iawn i chi deimlo sut bynnag rydych yn teimlo.
Nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid i chi ganiatáu i'r teimladau eich rheoli chi na'r hyn rydych yn ei wneud. Yn syml, mae'n golygu ei bod yn well peidio ag ymladd â'ch emosiynau fel arfer. Yn lle hynny, gall fod yn ddefnyddiol derbyn sut rydych yn teimlo, bod yn chwilfrydig am yr hyn y mae eich teimladau yn ei ddweud wrthych, sylwi arnynt wrth iddynt ddod a chydnabod eu bod yn mynd ymaith ac yna ymddwyn yn y ffordd sy'n eich helpu fwyaf. Efallai y byddwch yn dod o hyd i rai canllawiau defnyddiol ar y wefan hon i'ch helpu i ymdopi âhyn.
Ceisiwch beidio â threulio gormod o amser yn meddwl ‘beth os’
Pan ddaw perthynas i ben mae'n arferol meddwl am yr hyn aeth o'i le a phe gellid bod wedi ei osgoi. Gall hyn fod yn gyfle i ddysgu rhywbeth a fydd yn ddefnyddiol ar gyfer perthnasoedd yn y dyfodol. Fodd bynnag, os byddwch yn dechrau pendroni drosodd a throsodd ynghylch yr hyn a ddigwyddodd, heb gymryd unrhyw beth defnyddiol o'ch meddyliau, gall hyn wneud i chi deimlo'n waeth. Mae dymuno y gallai pethau fod yn wahanol yn ymateb cwbl normal, ond gall ein meddyliau ddim ailysgrifennu realiti. Mae angen inni ddod o hyd i gydbwysedd rhwng caniatáu i ni ein hunain gydnabod sut rydym yn teimlo a chynllunio ar gyfer yr amgylchiadau gwirioneddol yr ydym ynddynt. darllenwch fwy am Fe hoffwn i fod hyn ddim yn digwydd.
Ystyriwch y newidiadau y gall fod angen i chi eu gwneud
Gall fod o gymorth i feddwl am rôl y berthynas yn eich bywyd ac ystyried ffyrdd ymarferol y gallwch ddod o hyd i bobl neu weithgareddau eraill i gyflawni'r rôl honno. Gall hyn gynnwys
pobl i dreulio amser gyda nhw
gweithgareddau newydd yr hoffech eu cychwyn neu hen hobïau yr hoffech eu hailgychwyn
ffyrdd o ddiwallu eich anghenion cymdeithasol ac emosiynol trwy berthnasoedd newydd neu berthnasoedd sydd eisoes yn bodoli
a oedd pethau na allech chi eu gwneud oherwydd y berthynas yn bosibl bellach
Mae’n bosibl y bydd angen i chi ddod o hyd i berthnasoedd newydd i helpu i fynd i’r afael â rhai o’r newidiadau hyn. Os felly, gallai fod o gymorth i ddarllen ein canllawiau ar ffyrdd y gallwch wneud hyn.
Gofalwch am y pethau sylfaenol
Wrth fynd trwy ddiwedd perthynas mae'r pethau sylfaenol yn bwysig iawn. Gall mabwysiadu arferion iach leihau'r emosiynau rydych yn eu profi a'ch helpu i wella. Gall cwsg, deiet, ymarfer corff, strwythur dyddiol, golau'r haul ac awyr iach eich helpu yn ystod y profiad hwn.
Defnyddiwch gymorth
Gall defnyddio'r cymorth sydd o'ch cwmpas eich helpu i ail-lunio'ch bywyd a gwella'n emosiynol. Gallai hyn gynnwys y cymorth y mae ffrindiau a theulu yn eu cynnig a'r hyn a gynigir gan eich prifysgol. Gall cymorth eich helpu i brosesu’r hyn rydych wedi’i brofi, teimlo’n fwy cysylltiedig ag eraill a gwneud penderfyniadau ar yr hyn rydych am ei wneud nesaf.
Rhowch amser i chi'ch hun
Ceisiwch beidio â rhoi pwysau arnoch chi'ch hun i deimlo'n well ar unwaith. Gyda'r cymysgedd cywir o'r camau uchod a thrwy roi peth amser i chi'ch hun, mae'n debygol iawn y byddwch yn goresgyn diwedd perthynas. Defnyddiwch yr adnoddau ar y wefan hon a'r rhai o'ch cwmpas i helpu.