Rheoli pryder am arian
Os ydych chi'n profi problemau ariannol, gall pryder eich atal rhag cymryd camau cadarnhaol i wella'ch amgylchiadau. Gall rheoli eich emosiynau ynghylch cyllid fod yn gam pwysig i reoli eich arian.
Effaith poeni am arian
Gwyddom o waith ymchwil y gall poeni am arian effeithio arnom mewn llawer o ffyrdd:
- Yn gorfforol – efallai y byddwch chi'n sylwi, pan fyddwch chi'n meddwl am arian, eich bod chi'n cael teimladau anghyfforddus yn eich stumog neu'ch brest, efallai y byddwch chi'n clensio'ch gên neu'n dal eich ysgwyddau'n dynn, neu efallai y byddwch chi'n teimlo'n gynhyrfus yn gorfforol. Gall hyn arwain at gur pen, blinder ac anniddigrwydd
- Cwsg – gall amharu ar eich cwsg, gan achosi i chi beidio cysgu digon neu gysgu gormod
- Yn academaidd – gall eich gwaith prifysgol ddioddef os byddwch yn gweld ei fod yn lleihau eich gallu i feddwl a chanolbwyntio
- Perthnasoedd – gall sut rydych chi'n teimlo hefyd gael effaith negyddol ar eich perthnasoedd.
Sut mae pryder yn ein hatal rhag gweithredu
Os ydych chi'n cael trafferth i gydbwyso'ch arian, mae'n gwbl naturiol poeni am arian. Mae pryder am ein hadnoddau ariannol yn achosi pryder ynghylch sut rydym yn diwallu ein hanghenion dynol mwyaf sylfaenol: ein gallu i fwydo ein hunain, i deimlo'n saff a diogel ac i gadw to uwch ein pennau.
Gall ychydig bach o bryder ein helpu i ganolbwyntio ar y broblem a chymryd camau i fynd i'r afael â hi. Ond weithiau gall pryder a gorbryder ein llethu, gallant ein hatal rhag gweithredu ac yn aml mae'n cael un o ddwy effaith:
- Mae meddwl am y broblem yn eich gwneud chi'n bryderus, felly rydych chi'n osgoi meddwl amdano o gwbl ac yn esgus nad yw pethau mor ddrwg â hynny
- Rydych chi'n poeni cymaint fel na allwch chi feddwl yn glir. Mae'r pryder yn eich rhewi, rydych chi'n cael trafferth penderfynu ar ffordd ymlaen ac felly'n peidio â mynd i'r afael â'r broblem.
Rheoli eich pryder
Yn y pen draw, derbyn y sefyllfa ariannol yr ydych ynddi, a gweithio i gymryd rheolaeth o’ch arian, yw’r ffordd orau o leihau eich pryder a’ch gorbryder. Fodd bynnag, mae'n haws dweud na gwneud hyn ac efallai y bydd angen i chi gymryd nifer o gamau i deimlo'n dawelach, cyn cymryd camau cadarnhaol. Mae pethau gwahanol yn gweithio i bobl wahanol, ond, mae nifer o ffyrdd o gymryd camau i dawelu. Gallai fod o gymorth arbrofi gyda rhai o’r awgrymiadau isod:
- Anadlu: pan ydym yn orbryderus rydym yn anadlu'n fyr ac yn fas. Mae hyn yn ein cadw ar bigau'r drain ac yn cynyddu ein teimladau gorbryderus. Gall rheoli eich anadlu yn fwriadol helpu i leihau’r teimladau hyn, fel y gallwch feddwl am yr hyn rydych chi am ei wneud ac yna gweithredu. Rhowch gynnig ar yr ymarfer anadlu 7–11.
- Ymwreiddio eich hun: – mae hyn yn golygu cysylltu'n gorfforol â'ch amgylchoedd. Efallai y bydd yn helpu i deimlo'ch traed ar y ddaear, neu eich cefn yn erbyn cefn y gadair a chanolbwyntio ar y teimlad hwnnw am ychydig eiliadau.
- Ymlacio eich cyhyrau: gan ddechrau yn eich traed, tynhewch eich cyhyrau am ychydig eiliadau ac yna gadewch iddynt ymlacio. Yna gweithiwch i fyny eich corff. Yn raddol, bydd hyn yn eich helpu i ymlacio.
- Wynebu realiti: bydd pryder yn gwneud i chi feddwl bod y broblem yn waeth nag ydyw. Ewch i gyflwr tawelach ac yna edrychwch ar y gwir ddarlun ariannol. Edrychwch ar eich cyfriflenni banc, eich biliau a mapiwch eich cyllideb, fel eich bod yn gwybod yn union beth yw'r gwir ddarlun.
- Ceisiwch gymorth wrth gefn: efallai y bydd yn eich helpu os oes ffrind, aelod o'r teulu neu aelod o wasanaethau cymorth gyda chi pan fyddwch yn edrych ar eich sefyllfa ariannol. Gallant sicrhau eich bod yn cadw at y dasg a chadw pethau mewn persbectif, fel nad pryder yw'r unig lais a glywch.
- Cofio y bydd eich sefyllfa ariannol yn newid: hyd yn oed gyda'r heriau presennol yn yr economi, yn y tymor hir mae graddedigion yn debygol o ennill cyflog gwell ac yn fwy tebygol o fod â sefydlogrwydd a sicrwydd ariannol.
- Nodi camau cadarnhaol ymlaen: bydd cymryd rheolaeth yn gwneud i chi deimlo'n obeithiol ac yn eich helpu i aros yn llawn cymhelliant i fynd i'r afael â'r broblem.