I lawer o fyfyrwyr, gall rheoli'r pwysau sy'n gysylltiedig â therfynau amser fod yn dasg frawychus. Mae agwedd pawb at reoli'r pwysau hwn yn unigryw. Gyda'r strategaethau cywir yn eu lle, mae'n bosibl ymdopi â gwaith y brifysgol a chynnal eich lles yr un pryd.
Rheoli pwysau terfynau amser yn y brifysgol
Mae terfynau amser yn rhan anochel o fywyd prifysgol a gall ymdopi â nhw weithiau deimlo’n straen.
Cynlluniwch eich amser:
Mae rheoli eich amser yn allweddol i reoli eich llwyth gwaith. Gall ysgrifennu eich tasgau a'u trefnu ar sail brys a phwysigrwydd eich helpu i ganolbwyntio'ch ymdrechion ar y tasgau mwyaf angenrheidiol yn gyntaf. Mae cymryd peth amser i ysgrifennu amserlen o'r hyn rydych yn mynd i'w wneud a phryd y byddwch yn ei wneud yn dod â nifer o fuddion cadarnhaol. Mae'n caniatáu ichi ddelweddu'ch amserlen, gan ei gwneud hi'n haws tracio terfynau amser a neilltuo amser ar gyfer pob tasg, yn ogystal ag ychwanegu seibiannau pwysig. Gall fod yn demtasiwn canolbwyntio ar waith academaidd yn unig ond gall cael trefn gytbwys chwarae rhan bwysig yn eich iechyd meddwl yn ogystal â'ch cadw'n drefnus ac yn llawn cymhelliant.
Gosodwch nodau realistig:
Gosodwch nodau academaidd cyraeddadwy a realistig. Gall torri tasgau yn gamau llai eich helpu i dracio'ch cynnydd a pharhau i fod yn llawn cymhelliant. Er enghraifft, gall canolbwyntio ar ysgrifennu cyflwyniad a pharagraff cyntaf traethawd, yn hytrach na cheisio mynd i'r afael â 2,000 o eiriau ar unwaith, wneud i'r aseiniad deimlo'n haws ei reoli. Gall y broses o weithio trwy dasgau llai hefyd olygu eich bod yn canolbwyntio mwy ac yn fwy effeithiol ac ar yr un pryd yn sicrhau nad ydych yn gorweithio.
Defnyddiwch eich rhwydwaith cymorth:
Gall cydweithio â ffrindiau, teulu neu â chymorth academaidd roi ysgogiad i chi, cynnig mewnwelediadau newydd a gwneud dysgu yn fwy diddorol. Mae tiwtoriaid a chynghorwyr academaidd yno i gefnogi eich taith academaidd a gallant roi arweiniad ac eglurhad ar bynciau anodd a thrafod y posibilrwydd o estyniadau felly mae croeso i chi gysylltu â nhw gydag unrhyw bryderon neu gwestiynau.
Mae llawer o bobl yn gweld eu prifysgol fel ffynhonnell straen a phryder. Maen nhw'n teimlo eu bod wedi'u llethu gan derfynau amser ac adolygu a gallan nhw deimlo fel pe baen nhw ar eu pennau eu hunain ac weithiau'n anobeithiol wrth i bethau ddechrau pentyrru. Ond trwy fod yn ymwybodol o'r hyn y gallai eich sefydliad penodol ei wneud i chi yn ogystal â gweithredu unrhyw fesurau ataliol i wneud eich amser yn astudio ychydig yn fwy didrafferth, gallwch chi wir wneud y gwahaniaeth rhwng edrych yn ôl ar eich amser yn y brifysgol a meddwl: “Roedd hynny'n gymaint o straen ac yn anodd – rydw i mor falch ei fod wedi dod i ben” neu feddwl: “Waw, roedd hynny'n waith caled – ond am daith anhygoel!
Mae amrywiaeth o wasanaethau cymorth ar gael yn y Brifysgol, a gall y rhain helpu i'ch rhoi mewn gwell sefyllfa i lwyddo a rheoli eich lles.
Sicrhewch fod cyn lleied â phosibl o bethau a allai gymryd eich sylw
Gall dyfeisiau fel ffonau clyfar, teledu a gliniaduron ddenu eich sylw a rhwystro cynhyrchiant. Canfu astudiaeth gan Brifysgol California, Irvine, er bod pobl yn gallu gwneud iawn am ymyriadau trwy weithio'n gyflymach, daw hyn am bris. Gallwn brofi mwy o straen, rhwystredigaeth, pwysau amser ac ymdrech. Mae'n cymryd 23 munud a 15 eiliad ar gyfartaledd i ganolbwyntio o’r newydd ar dasg ar ôl toriad.
Gall creu amgylchedd sy'n cefnogi eich astudio eich helpu i ganolbwyntio mwy ar eich gwaith, cwblhau tasgau'n fwy effeithlon, a lleihau straen cyffredinol. Ystyriwch wneud hyn:
Diffodd dyfeisiau electronig diangen neu eu gadael mewn ystafell wahanol
Defnyddio offer neu apiau ffôn clyfar i rwystro dros dro'r gwefannau hynny sy'n fwy tebygol o dynnu'ch sylw chi
Pennu amseroedd penodol ar gyfer edrych ar gyfryngau cymdeithasol neu negeseuon e-bost
Mae rhai myfyrwyr yn ei chael yn ddefnyddiol cyfathrebu eu hamseroedd astudio i ffrindiau a theulu er mwyn rhannu dealltwriaeth a lleihau ymyriadau.
Blaenoriaethwch gwsg
Gall cwsg o ansawdd da gefnogi llwyddiant academaidd. Mae ymchwil o'r 20 mlynedd diwethaf yn dangos bod cwsg yn gwneud mwy na dim ond rhoi'r egni sydd ei angen ar fyfyrwyr i astudio a pherfformio'n dda mewn profion. Yn wir, mae cwsg yn helpu myfyrwyr i ddysgu, dysgu ar y cof, cadw ar gof, a galw gwybodaeth yn ôl i'r cof a defnyddio eu gwybodaeth newydd i ddod o hyd i atebion creadigol ac arloesol. Gall gosod amserlen gysgu reolaidd olygu eich bod mewn sefyllfa well i ymdrin â heriau academaidd.
Bwytwch yn dda
Mae beth rydym yn ei fwyta a sut rydym yn ei fwyta yn effeithio ar ein hiechyd corfforol, ein hiechyd meddwl a hefyd ein dysgu. Mae deiet cytbwys iach wedi'i gysylltu â gwell gweithredu gwybyddol, cof gweledol, perfformiad dysgu a lefelau egni parhaus. Gall gwella eich dewisiadau bwyd helpu i wella eich hwyliau, rhoi mwy o egni i chi a'ch helpu i feddwl yn gliriach.
Cymerwch seibiannau rheolaidd
Gall rhoi seibiannau i chi'ch hun fod yn rhan bwerus o reoli straen a pharhau i fod yn llawn cymhelliant. Ar ôl cyrraedd nod neu gwblhau talp sylweddol o waith, cymerwch amser i fwynhau eich hoff weithgareddau. P'un a yw hynny'n golygu treulio amser gyda ffrindiau, cael noson gorffwysol i mewn, gwylio ffilm, neu yfed eich hoff goffi. Ni waeth pa mor fach yw’r wobr, mae’n gymhelliant da i barhau a theimlo'n falch o'ch cyflawniadau. Mae'r eiliadau hyn hefyd yn caniatáu ichi gamu'n ôl o'ch cyfrifoldebau academaidd, gan roi cyfle i chi ddychwelyd i'ch astudiaethau gan deimlo'n ffres.
Drwy roi’r strategaethau syml ond ymarferol hyn ar waith – o flaenoriaethu eich lles i gynllunio effeithiol – gallwch reoli eich llwyth gwaith yn fwy effeithlon a lleihau straen.
Cofiwch, yr allwedd yw dod o hyd i gydbwysedd sy'n gweithio i chi rhwng gweithio, ymgysylltu â'ch rhwydwaith cymorth a neilltuo amser ar gyfer seibiannau rheolaidd. Pob lwc, gofalwch amdanoch chi’ch hun, a gofynnwch am help pan fyddwch ei angen.