Mae llawer o fyfyrwyr yn cyrraedd y brifysgol gyda'r bwriad o fabwysiadu arferion iach yn ddiweddarach yn y tymor pan fydd y cyffro cychwynnol o gymdeithasu ac ymgartrefu wedi tawelu. Ond mae ymchwil yn dangos bod y ffordd yr ydych yn ymddwyn yn ystod y chwe wythnos gyntaf yn tueddu i barhau tra byddwch yn y brifysgol.
Mae’n ddealladwy fod cymaint o fyfyrwyr yn dewis peidio canolbwyntio ar arferion iach yn ystod wythnosau cyntaf y tymor. Gall fod yn hawdd addo i chi'ch hun y byddwch yn cysgu'n well, yn bwyta'n iachach, yn gwneud mwy o ymarfer corff ac yn astudio ar gyfer eich cwrs ar ôl i chi wneud ffrindiau, dod i adnabod y brifysgol a chael ychydig o hwyl. Yn anffodus, nid dyna sut mae pobl yn gweithio mewn gwirionedd.
Mae bodau dynol yn greaduriaid sy'n hoffi'r un drefn. Unwaith y byddwn wedi sefydlu patrwm a threfn arferol, mae'n anoddach gosod patrwm newydd. Mae cymaint o'r hyn a wnawn yn digwydd yn ddiarwybod i ni. Mae ein corff a'n hymennydd yn addasu i'n hamgylchedd a'n harferion, felly gallwn lithro i ymddygiad arferol heb feddwl am y peth hyd yn oed. Felly gallwch ganfod eich hun yn bwyta mwy, yn aros i fyny'n hwyr neu'n yfed mwy nag yr oeddech wedi'i gynllunio, a chithau heb fwriadu gwneud unrhyw un o'r pethau hynny mewn gwirionedd. Yn syml, bydd hyn yn digwydd am mai dyma'r hyn yr ydych wedi bod yn ei wneud o'r blaen a'ch bod yn dilyn yr hen arferion hyn heb sylwi.
Gall hyn fod yn ddefnyddiol iawn os yw eich ymddygiad yn iach. Os ydych yn gwneud ymarfer corff yr un amser bob dydd neu wedi arfer mynd i'r gwely ar amser da, yna byddwch yn parhau i wneud hyn hefyd heb lawer o ymdrech.
Mae newid arferion yn anodd gan fod grym ein hewyllys yn wan. Ond mae yna bethau y gallwch eu gwneud i dwyllo'r drefn – mae sefydlu arferion iach cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd y brifysgol yn un ffordd o sicrhau y gallwch gynnal eich llesiant. Mae hyn yn wir am fod newidiadau mawr yn ein bywydau yn creu'r hyn a elwir yn bwynt ailosod. Mae cymaint yn newydd fel nad oes gan eich ymennydd batrwm ar gyfer y profiad hwn eto. Mae hyn yn golygu, os byddwch chi'n sefydlu trefn iach, bydd eich ymennydd yn ei gysylltu â'r profiad hwn a bydd y drefn yn dod yn arfer.