Gall gwybod pa fwydydd y dylech ac na ddylech fod yn eu bwyta fod yn ddryslyd iawn, yn enwedig pan fydd yn teimlo fel bod y cyngor yn newid yn rheolaidd. Fodd bynnag, mae tystiolaeth yn awgrymu, yn ogystal ag effeithio ar eich iechyd corfforol, y gall yr hyn yr ydych yn ei fwyta hefyd effeithio ar y ffordd yr ydych yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn. Gall hyd yn oed bacteria eich perfeddion ddylanwadu ar eich ymddygiad a gall achosi aflonyddwch os yw allan o gydbwysedd.
Sut gall bwyd gefnogi eich hwyliau a'ch dysgu
Mae beth rydym yn ei fwyta a sut rydym yn ei fwyta yn effeithio ar ein hiechyd corfforol, ein hiechyd meddwl a hefyd ein dysgu. Gall gwella eich dewisiadau bwyd helpu i wella eich hwyliau, rhoi mwy o egni i chi a'ch helpu i feddwl yn gliriach.
Felly, beth ddylech chi ei fwyta?
Nid oes gormod o ots beth rydych chi'n ei fwyta ar unrhyw ddiwrnod penodol. Yr hyn sy’n pennu eich iechyd yw’r hyn rydych chi'n ei fwyta y rhan fwyaf o'r amser, bron bob dydd. Gall ambell ddarn o gacen neu far o siocled fod yn rhan o ffordd iach o fyw. Mae'n ymwneud â datblygu arferion iach a gwneud dewisiadau gwybodus o ran bwyd.
Sut gallwch chi wella eich arferion bwyta?
Er mwyn bwyta mewn ffordd iach a chytbwys, efallai y bydd angen i chi wneud nifer o newidiadau. Fodd bynnag, nid yw ailwampio sydyn a llym yn debygol o fod yn gynaliadwy. Mae newidiadau bach yn haws i'w gwneud a gallant arwain at ganlyniadau hirdymor gwell, felly cofiwch y gallwch chi wneud y newidiadau hyn ychydig ar y tro.
Naw cam i wneud newidiadau iach yn eich arferion bwyta:
- Canolbwyntiwch ar ychwanegu bwyd iach, yn hytrach na dim ond cymryd bwydydd afiach i ffwrdd. Rydym yn gwybod os ydym yn amddifadu ein hunain o ddanteithion yn achlysurol bod ein cyrff yn ymateb drwy fynnu pleser yn gemegol, sy'n aml yn ein harwain i orfwyta.
- Buddsoddwch mewn llyfr ryseitiau iach, neu chwiliwch ar-lein am ryseitiau sy’n addas i fyfyrwyr a choginiwch i chi'ch hun.
- Mwynhewch eich bwyd, peidiwch â'i fwyta'n unig. Mae astudiaethau'n dangos, pan fyddwn ni'n dewis bwyd rydyn ni'n ei fwynhau, rydyn ni'n amsugno ei faetholion yn well.
- Cynlluniwch eich prydau ar gyfer yr wythnos, gwnewch restr siopa – a glynwch wrthi. Bydd hyn yn arbed arian i chi ac yn gallu eich helpu i osgoi gwastraff.
- Os ydych chi'n mynd i'r brifysgol neu'n gweithio am y dydd, paciwch ginio a byrbrydau iach. Mae cynllunio ymlaen llaw fel hyn yn rhoi mwy o reolaeth i chi dros yr hyn rydych chi'n ei fwyta ac yn ei gwneud hi'n haws gwrthsefyll y demtasiwn i estyn am fyrbrydau afiach yn rheolaidd.
- Peidiwch â hepgor nac oedi prydau bwyd, a gofalwch eich bod yn trefnu eich byrbrydau. Os bydd lefelau eich siwgr gwaed yn gostwng efallai y byddwch chi'n teimlo'n flinedig, yn bigog ac yn profi hwyliau isel. Efallai y byddwch chi'n bwyta gormod neu'n dewis byrbryd afiach o ganlyniad. Os ydych chi'n aml yn teimlo'n rhy lwglyd, gall achosi i chi ganolbwyntio llawer ar fwyd - mewn ffyrdd nad ydynt yn ddefnyddiol
- Ceisiwch beidio â phori drwy gydol y dydd na bwyta'n rhy agos at amser gwely gan y gall hyn amharu ar eich cylch cysgu.
- Ceisiwch yfed digon o ddŵr. Ceisiwch yfed dŵr yn lle diodydd â chaffein neu ddiodydd sy'n cynnwys llawer o siwgr, gan gynnwys sudd sy'n cynnwys llawer o siwgr neu smwddis.
- Byddwch yn wyliadwrus o galorïau gwag mewn alcohol. Gan fod alcohol wedi'i wneud o siwgr neu startsh, mae'n cynnwys llawer o galorïau – saith calori y gram mewn gwirionedd. Mae hyn bron cymaint â braster pur, sydd dim ond dau galori yn fwy. Mae calorïau o alcohol yn ‘galorïau gwag’, sy'n golygu nad oes ganddynt unrhyw werth maethol.
Ailfeddwl sut rydych chi'n bwyta
Nid dim ond yr hyn rydych chi'n ei fwyta sy'n bwysig ond y ffordd rydych chi'n ei fwyta hefyd. Pa mor aml ydych chi'n cael eich hun yn bwyta wrth symud, wrth eich desg neu o flaen y teledu yn hytrach nag eistedd i lawr gyda theulu neu ffrindiau?
Pan fydd pobl yn eistedd gyda'i gilydd i fwyta pryd o fwyd, nid yn unig y maent yn cael mwy o ymdeimlad o berthyn, maent yn tueddu i fwyta'n arafach. Mae astudiaethau diweddar wedi dangos bod hyn yn wir yn benodol yn achos myfyrwyr sy'n byw mewn llety myfyrwyr.
Mae mwynhau bwyd mewn lleoliad hamddenol fel hyn, pan allwch chi, yn ysgogi’r corff i arfer ei fodd o ‘orffwys a threulio’. Pan fyddwch chi yn y cyflwr hwn, mae eich corff yn cael y budd mwyaf o'r maetholion yn eich bwyd. Felly, pan fyddwch chi'n teimlo'n hyderus, beth am roi cynnig ar ddefnyddio eich sgiliau coginio i fwydo pobl eraill hefyd?
Os ydych chi'n poeni am eich ymddygiad neu'ch teimladau ynghylch bwyta – drosoch chi'ch hun neu dros rywun rydych chi'n ei adnabod – ewch i Beat, defnyddiwch y cymorth sydd ar gael yn eich prifysgol neu sefydliad, neu efallai y byddai’n fuddiol ichi siarad â'ch meddyg teulu.