Sut i ddelio â methiant wrth geisio am swyddi
Gall ceisio am swyddi fod yn brofiad heriol, a gall fod yn arbennig o anodd pan na fyddwch chi’n cael cynnig swydd neu’n methu â chael cyfweliad. Dyma rai awgrymiadau i'ch ysgogi ac i ennyn ffydd ynoch eich hun wrth chwilio am swydd.
1. Cymerwch amser i fyfyrio
Gall cael eich gwrthod deimlo fel eich bod yn cymryd cam yn ôl, ac mae'n iawn i chi deimlo'n ofidus, yn siomedig neu'n ddig. Gall cymryd ychydig o amser i brosesu eich emosiynau, i ddod atoch eich hun a thynnu'ch meddwl oddi ar chwilio am swydd am ychydig fod yn ddefnyddiol. Efallai yr hoffech fynd am dro, siarad â ffrind, gwneud rhywbeth creadigol neu wneud hobi neu ddiddordeb sydd gennych. Cofiwch atgoffa eich hun fod cyflwyno cais yn y lle cyntaf yn llwyddiant mawr; dylech chi eich llongyfarch eich hun am wneud hynny. Cofiwch hefyd y byddwch yn dysgu o'r broses hon, ac mae pob cam yn mynd â chi'n nes at swydd sy'n addas i chi. Yna, pan fyddwch chi'n barod, eisteddwch a myfyrio ar y broses.
Gwnewch restr o'r hyn y gwnaethoch chi'n dda yn eich barn chi:
- A wnaethoch chi ymchwilio ychydig i'r busnes hwn cyn i chi wneud cais?
- A wnaethoch chi sicrhau bod eich cais wedi'i strwythuro'n dda ac yn hawdd i'w ddilyn?
- A wnaethoch chi deilwra'ch CV fel ei fod yn arddangos enghreifftiau o'ch gradd, profiad gwaith neu swyddi rhan amser, gwaith gwirfoddol neu weithgareddau allgyrsiol a oedd yn cyfateb i'r cymwyseddau a restrwyd yn yr hysbyseb swydd?
Mae'n werth i chi nodi'r meysydd lle nad oeddech yn teimlo eich bod wedi perfformio cystal hefyd a sut y gallech chi wella’r tro nesaf. Gall y gwahaniaeth rhwng llwyddiant a methiant fod mor fach, fel y gallai gwneud cyfres o newidiadau graddol hyd yn oed wneud y gwahaniaeth rhwng cael swydd a chael eich gwrthod eto.
2. Gofynnwch am adborth
Does dim rhaid i chi fyfyrio ar eich pen eich hun. Weithiau bydd cyflogwr yn mynd ati’n rhagweithiol i gynnig rhai awgrymiadau ar sut y gallech wella, yn ogystal â’ch llongyfarch am eich cryfderau. Yn amlach na pheidio, bydd angen i chi ofyn am yr adborth hwn.
Unwaith y byddwch wedi cael yr adborth hwn, gwnewch nodyn o'r pwyntiau allweddol fel y gallwch gyfeirio'n ôl atyn nhw yn nes ymlaen. Gallech ofyn i rywun arall – cynghorydd gyrfaoedd yn eich prifysgol (gallwch gael cymorth am hyd at dair blynedd ar ôl graddio fel arfer), neu ffrind neu aelod o'r teulu y gallwch ymddiried ynddo – i'ch helpu i feddwl sut y gallwch chi roi'r awgrymiadau hyn ar waith.
Mae gan rai cwmnïau bolisi sydd ond yn eu caniatáu i roi adborth i ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd camau olaf y broses. Os yw hyn yn wir, byddem yn argymell i chi fynd â'ch cais at gynghorydd gyrfaoedd eich prifysgol a fydd yn gallu eich helpu i weld pa elfennau y gallwch chi eu gwella.
Trwy geisio adborth ac ymgysylltu â'r adborth hwnnw, rydych chi'n gwneud hwn yn gyfle i ddysgu ac yn gyfle i weithio tuag at lwyddiant yn y dyfodol.
Byddwch yn hyderus y bydd eich CV yn tynnu sylw os ydych yn bodloni'r meini prawf, ond byddwch yn ymwybodol o'r posibilrwydd y gallai rhywun arall fod â blwyddyn ychwanegol o brofiad.
3. Nid yw'n rhywbeth personol
P’un a ydych yn cael y swydd ai peidio, nid yw’n dibynnu'n llwyr arnoch chi a'ch perfformiad bob amser. Rydyn ni’n gwybod nad yw'n teimlo felly bob amser, ond nid yw cael eich gwrthod yn rhywbeth personol. Gallai llawer o ffactorau gwahanol ddylanwadu ar bob cam o’r broses recriwtio, a dim ond rhai o’r rhain fydd yn berthnasol i’ch cais.
Weithiau bydd y ffactorau’n ymwneud â’r cyflogwr. Er enghraifft, efallai eu bod wedi gorfod gohirio'r broses recriwtio ar ei chanol oherwydd ffactorau allanol, neu efallai eu bod wedi penderfynu ehangu i gyfeiriad gwahanol a allai fod wedi golygu nad yw eich sgiliau mor berthnasol iddynt bellach. Nid yw hyn yn golygu na fydd rhywun arall yn gwerthfawrogi'ch sgiliau ar adeg arall.
Bydd ffactorau eraill yn ymwneud â'r ymgeiswyr eraill. Efallai fod myfyrwyr lleoliad neu interniaid wedi gwneud cais am y rôl a oedd yn cynnig sicrwydd i'r cwmni, hyd yn oed os oedd eich cais chi’n un trawiadol. Neu efallai ei bod yn rôl arbennig o gystadleuol, a oedd yn golygu eich bod wedi gorfod cystadlu yn erbyn ymgeiswyr anarferol o gryf, hyd yn oed pe byddech chi wedi bod yn llwyddiannus ar adeg arall.
Allwch chi ddim rheoli'r holl ffactorau hyn, a gall ceisio eu deall eich llethu. Felly, yn syml, cydnabyddwch nhw, ac yna ceisiwch eu rhoi nhw o'r neilltu wrth i chi ganolbwyntio ar yr hyn y gallwch chi ei reoli.
Mae gennych hawl i fod yn llawn cyffro am y posibilrwydd y gallech chi ei chael – mae'n dangos eich bod chi’n gwybod bod y diwydiant yr ydych chi’n anelu tuag ato yn addas i chi. Ond os nad ydych chi'n llwyddo'n llwyr ac yn cwympo, dysgwch sut i godi eich hun a cheisio eto. Yn y pen draw byddwch yn llawer mwy gwydn ac yn falch eich bod wedi dyfalbarhau.
4. Ai hon oedd y swydd iawn i chi?
Mae llawer o bobl yn gadael y brifysgol heb fawr o syniad beth maen nhw eisiau ei wneud nesaf. Os na wnaeth y cwmni eich rhoi ar y rhestr fer, efallai nad oedd y swydd yn hollol addas i chi na'ch gwerthoedd. Mae'n werth i chi fyfyrio ar yr hyn sy'n bwysig i chi o ran swydd, a gallwch ddechrau drwy ystyried eich gwerthoedd.
Er enghraifft:
- Os yw moeseg yn rhan fawr o bwy ydych chi, efallai na fyddech chi eisiau gweithio i gwmni tybaco neu yn y diwydiant amddiffyn, er enghraifft.
- Neu, os yw cydbwysedd bywyd a gwaith yn arbennig o bwysig i chi, efallai nad yw dewis rôl fyddai'n golygu gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau neu orfod gwneud llawer o deithio rhyngwladol yn addas i chi.
Nid gwaith yw'r unig agwedd sydd i'ch bywyd, felly nid oes rhaid i'ch swydd gyd-fynd yn berffaith â'r hyn rydych chi'n ei gredu. Ond bydd eich gwerthoedd yn cael eu hadlewyrchu yn yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud yn eich cais a'ch cyfweliadau. Felly gallai peidio â chael y swydd fod yn arwydd i chi nad oedd y swydd yn hollol addas i chi.
5. Mae ymarfer yn bwysig
Fel pob peth mewn bywyd, mae angen ymarfer wrth geisio am swyddi. A po fwyaf y byddwch chi'n ceisio am swyddi ac yn dysgu o'r broses, po fwyaf y byddwch yn gwella. Wedi dweud hynny, mae ysgrifennu cais cryf yn cymryd amser, felly mae cyflwyno nifer afrealistig o geisiadau drwy “gopïo a gludo” yn debygol o arwain at gael eich siomi.
Ond peidiwch â digalonni os ydych yn cael eich gwrthod. Gall fod yn gyfle gwych i ddysgu am yr hyn yr hoffech chi ei wneud a sut y gallwch wella. Yn wir, os ydych yn llwyddo yn y prosesau recriwtio bob amser, efallai nad ydych chi'n bod yn ddigon uchelgeisiol!
Mae’n anochel y byddwch yn profi llwyddiannau a methiannau ar eich taith i ddod o hyd i’ch rôl raddedig gyntaf, a gall fod yn gyfnod anodd iawn. Ond nid oes rhaid i chi wynebu troeon yr yrfa ar eich pen eich hun. Gofynnwch am help os bydd ei angen arnoch – boed hynny gan ffrindiau, teulu, timau gyrfaoedd prifysgol, eich meddyg teulu neu wasanaethau cymorth eraill. Gwrandewch ar adborth, defnyddiwch yr hyn yr ydych chi wedi ei ddysgu, ac yn y pen draw, fe ddewch o hyd i'r swydd i chi.