Gall cysylltiad â’ch ffydd fod yn sylfaen gref sy’n gallu bod yn ffynhonnell o gryfder a chysur pan fyddwch yn wynebu anawsterau iechyd meddwl. Gall heriau o'r fath fod yn llethol a chynyddu teimladau o straen. I lawer, mae ffydd yn rhan bwysig o'u hunaniaeth a'u hymdeimlad o berthyn. Fodd bynnag, gall fod yn anodd cadw’ch ffydd ar adegau anodd, ac yn anos fyth, pan fydd yr heriau’n parhau dros gyfnod estynedig o amser. O ganlyniad, gall hyn arwain at deimlo’n annigonol, mynd i amau eich ffydd, a thrallod.
Sut i gadw’ch ffydd wrth ddelio ag anawsterau iechyd meddwl
Wrth i drafodaethau ynghylch iechyd meddwl ddod yn fwy cyffredin, mae’n bwysig ystyried sut y gellir meithrin eich ffydd wrth reoli eich iechyd meddwl.
Isod, cynigir saith ffordd o gadw’ch ffydd wrth ddelio ag anawsterau iechyd meddwl:
Cymryd rhan mewn canmoliaeth ac addoli
Mae'r rhain yn weithgareddau pwerus a all helpu i’ch annog a chodi eich ysbryd pan fyddwch chi'n teimlo'n isel a phan fydd angen heddwch arnoch chi. Drwy wrando ar gerddoriaeth addoli, canu emynau, neu fynegi eich addoliad i Dduw, fe ddewch i'w bresenoldeb a chanfod lle i’ch enaid gael llonydd.
Dod o hyd i ffyrdd o wasanaethu / gwirfoddoli
Gall gwasanaethu eraill roi ymdeimlad o bwrpas a thynnu eich sylw oddi ar eich anawsterau iechyd meddwl. Ni wneir hyn er mwyn osgoi eich anawsterau, ond yn hytrach gall fod o gymorth wrth feithrin eich ffydd ac wrth gysylltu ag eraill o fewn y gymuned ffydd.
Ceisio cymorth o fewn eich cymuned
Mae cymorth bugeiliol, cwnsela a therapi yn opsiynau y gellir eu harchwilio yn eich cymuned. Fodd bynnag, bydd cael rhywun dibynadwy sy'n deall eich heriau ac sy'n gallu gweddïo gyda chi a'ch cefnogi drwy gydol y rhain, yn lleddfu straen ac yn eich annog i ddyfalbarhau trwy'r cyfnod o anhawster iechyd meddwl rydych chi'n ei brofi. P'un a yw'r gymuned honno'n grŵp gweddïo, grŵp astudio’r Beibl, undeb Cristnogol eich prifysgol neu’ch ffrindiau chi, mae cael y system gymorth honno yn fuddiol o ran gwella'ch iechyd meddwl – ac yn eich atal rhag ynysu!
Ymuno â grŵp / gweinidogaeth
Yn yr un modd â’r pwynt uchod, gall bod yn rhan o gymuned helpu i’ch annog ar eich taith ffydd. Os nad oes gennych chi system gymorth, gall ymuno â grŵp eglwys neu undeb Cristnogol ar y campws eich helpu i gadw mewn cysylltiad â'ch ffydd a rhoi ymdeimlad o berthyn ac anogaeth. Wrth i’r cyfryngau cymdeithasol ddod yn gynyddol boblogaidd, mae dod o hyd i grwpiau ar-lein hefyd yn bosibilrwydd y gellir ei archwilio.
Cofleidio hunandosturi
Gall anawsterau iechyd meddwl arwain at straen, teimlo’n annigonol a gorfeddwl. Mae bod yn dosturiol gyda chi'ch hun yn golygu trin eich hun gyda charedigrwydd, dealltwriaeth a hunan-gariad. Gall deall nad ydych chi ar eich pen eich hun ac nad ydych chi'n anobeithiol eich helpu i gydnabod ei bod hi'n iawn i’w chael yn anodd, a'ch bod chi'n gwneud yn llawer gwell nag yr ydych chi'n meddwl eich bod chi mewn gwirionedd. Dim ond mewn achosion pan nad oes hunanfeirniadaeth y mae tosturio yn fuddiol. Gall ymarfer hunan-gariad eich helpu i ddeall pwy ydych chi, ble rydych chi, a'r math o help sydd ei angen arnoch chi i deimlo'n iawn eto.
Mynegi eich diolchgarwch
Mae diolchgarwch yn eich helpu i ganolbwyntio ar yr hyn sy'n iawn yn eich bywyd yn hytrach na’r hyn sydd o’i le. Gall mynegi diolchgarwch i Dduw yn rheolaidd, hyd yn oed am bethau bach, helpu i wella eich hwyliau ac i atgyfnerthu eich ffydd. Gall fod yn fuddiol hefyd oherwydd mae’n amlygu’r pethau hynny lle gallwch chi ganmol yr hyn sydd gennych chi a beth sy’n mynd yn iawn yn eich bywyd, a gweddïo amdanynt. Bydd cadw llyfr i ysgrifennu am yr hyn rydych chi’n ddiolchgar amdano, neu hyd yn oed nodyn ar eich ffôn y gallwch chi gael mynediad hawdd ato at y diben hwn, yn helpu i glirio’ch meddwl ac i gryfhau eich ffydd.
Defnyddio’r ysgrythurau i gadarnhau eich hunaniaeth
Un o'r pethau rydw i'n ei garu am fy ystafell i yw fy wal ysgrythurau. Mae'n wal gyfan sy'n llawn ysgrythurau rwyf wedi’u hysgrifennu ar nodiadau ‘Post-it’ am wahanol bynciau rwy'n cael trafferth â nhw. Rwy’n defnyddio’r wal hon i ailddatgan fy hunaniaeth yng ngair a gwirionedd Duw ar gyfer fy mywyd. Gall defnyddio’r ysgrythurau yn y modd hwn helpu i frwydro yn erbyn meddyliau negyddol a’ch atgoffa nid yn unig bod pobl yn eich caru’n fawr, ond bod pobl yn eich gwerthfawrogi a bod gennych chi bwrpas.
Gall cadw’ch ffydd wrth ddelio ag anawsterau iechyd meddwl fod yn heriol, ond nid yw'n amhosibl. Drwy gymryd rhan mewn addoli a moli, a thrwy ddod o hyd i gefnogaeth a chymorth yn y gymuned ac ailddatgan eich ffydd gyda diolchgarwch a thrwy’r ysgrythurau, gallwch chi ddod o hyd i heddwch a llawenydd yng nghanol eich stormydd. Cofiwch ei bod yn iawn ceisio cymorth a dangos tosturi tuag atoch chi’ch hun. Gall eich ffydd fod yn ffynhonnell o gryfder a gwydnwch wrth i chi oresgyn heriau eich anawsterau iechyd meddwl.