Sut i gyflwyno cais gwych am swydd i raddedigion

Mae Kylie Cook

Mae Kylie Cook yn Uwch Ymgynghorydd gyda Gradconsult. Mae'n cynnal mentrau recriwtio a datblygu ar gyfer myfyrwyr a graddedigion gyda phrifysgolion a chyflogwyr ar hyd a lled y wlad.

Mae yna ychydig o gamau y gallwch eu cymryd i wneud eich ceisiadau am swyddi yn gryfach.

1. Ymchwil

Cyn i chi wneud cais am rôl ar gyfer graddedigion, ceisiwch ganfod cymaint ag y gallwch am y cyflogwr.

Bydd y rhan fwyaf o ymgeiswyr yn edrych ar wefan y cwmni, felly mae'n bwysig mynd gam ymhellach. Mae'r lleoedd eraill y gallech edrych yn cynnwys:

  • Y cyfryngau cymdeithasol: a yw eu cyflogeion yn cyhoeddi gwybodaeth am eu gwaith ar LinkedIn, YouTube neu Twitter?
  • Y wasg genedlaethol neu ranbarthol
  • Adroddiadau blynyddol a dogfennau strategaeth sydd ar gael i'r cyhoedd.

2. Disgrifiwch eich cryfderau

Rhowch sylw manwl i'r sgiliau a'r profiad y mae'r cyflogwr yn eu rhestru yn yr hysbyseb swydd. Rhowch sylw i gymaint o'r sgiliau yn yr hysbyseb ag y gallwch. Gan ddefnyddio'ch ymchwil, eglurwch sut mae'ch sgiliau a'ch profiad yn berthnasol i gynlluniau'r cyflogwr.

Rhowch dystiolaeth glir o sut rydych chi wedi datblygu pob sgil, a sut mae'n berthnasol i gynlluniau'r cyflogwr.

Gall eich enghreifftiau ddod o wneud eich gradd, cyfrifoldebau penodol mewn swydd ran-amser, gwirfoddoli neu rôl gyda chymdeithasau yn Undeb y Myfyrwyr.

3. Teilwra'ch cais

Bydd cyflogwyr yn disgwyl i chi ymchwilio i'w busnes, a deall yr hyn y maent yn ei wneud a sut y gallai'ch sgiliau chi gyd-fynd â'u gwaith.

Mae'n bwysig eich bod yn ysgrifennu'ch cais am swydd i raddedigion yn seiliedig ar yr ymchwil rydych chi wedi'i wneud. Os ydych chi'n cyflwyno ceisiadau tebyg iawn am nifer o swyddi, mae'n bur debyg nad ydych chi wedi treulio digon o amser yn ymchwilio ac yn teilwra'ch ceisiadau.

Mae Tariro ac Erin yn rhannu eu profiad a'u hawgrymiadau ar gyfer dod o hyd i swydd

4. Gofynnwch am gymorth gan eich gwasanaeth gyrfaoedd

Mae gan wasanaeth gyrfaoedd eich prifysgol arbenigwyr a all eich cefnogi gyda phob cam o'r broses ymgeisio. Os nad ydych wedi ceisio cyngor yn barod, yna cysylltwch â'ch gwasanaeth gyrfaoedd i weld sut y gallent eich helpu.

Peidiwch â phoeni os ydych wedi graddio eisoes – bydd y rhan fwyaf o wasanaethau gyrfaoedd yn eich cefnogi am hyd at dair blynedd ar ôl i chi raddio.

Mae hefyd yn hollol iawn peidio â chael syniad beth rydych chi eisiau ei wneud, ond fe wnes i ganfod fod canolbwyntio ar fy sgiliau a siarad â’r gwasanaeth gyrfaoedd wedi fy helpu i ystyried opsiynau nad oeddwn hyd yn oed yn gwybod eu bod yn bodoli.

COVID-19: awgrymiadau da ar sut i ofalu am eich llesiant yn y farchnad swyddi i raddedigion newydd – Daisy
Adolygwyd ddiwethaf: Hydref 2022