Sut i gyllidebu cyllid myfyrwyr dros yr haf

Mae Ruth Bushi

Mae Ruth Bushi yn ysgrifennu am arian myfyrwyr a bywyd yn y brifysgol. Mae hi'n awdur sawl rhifyn o The Student Money Manual.

Canllaw cam wrth gam ar reoli eich arian yn ystod eich trydydd tymor a gwyliau’r haf.

Mae gwneud cynllun ariannol yn syniad da ar unrhyw adeg o'r flwyddyn. Gall eich helpu chi i deimlo eich bod chi’n gallu ymdopi'n well â'ch arian, hyd yn oed os yw'n golygu ceisio cymorth ychwanegol ar ryw adeg. Ond p’un a oes gennych chi gyllideb myfyriwr yn barod ai peidio, mae’n werth gwneud ambell i newid bach i’r ffordd rydych chi’n delio â’ch arian yn ystod tymor yr haf.

Fel arfer, bydd y benthyciad cynhaliaeth, neu’r grant, yn cael ei dalu i’ch cyfrif banc fesul taliadau cyfartal, yn aml ar ddechrau pob tymor. Eich cyfrifoldeb chi wedyn yw sicrhau bod eich arian yn para tan y tymor canlynol.

Yn y trydydd tymor, mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'ch taliad bara dros y gwyliau hir hefyd. I rai myfyrwyr, gall hynny olygu bod yn rhaid iddyn nhw ymestyn yr un faint o gyllid myfyrwyr dros ddau fis ychwanegol neu fwy. Os ydych chi’n cael trafferth cael deupen y llinyn ynghyd dros yr haf, nid ydych chi ar eich pen eich hun.

Trwy gynllunio'ch cyllid, rydych chi'n rhoi eich hun mewn sefyllfa fwy sefydlog. Gall cyllidebu eich helpu chi naill ai i osgoi rhai o'r problemau, neu ddod o hyd i ffyrdd o fynd i'r afael â nhw. Dyma sut i gychwyn arni.

Beth fydd ei angen arnoch chi

  • Papur, pen a chyfrifiannell

  • Fel arall, defnyddiwch eich ffôn neu ap taenlen ar gyfrifiadur

Gall hefyd helpu i gadw unrhyw lythyrau cyllid, slipiau cyflog, cyfriflenni banc, biliau, contractau a derbynebau gerllaw i'ch helpu i amcangyfrif costau ac incwm.

Dewch i adnabod y pethau sydd eu hangen arnoch chi

Dechreuwch trwy restru popeth y bydd yn rhaid i chi dalu amdano rhwng nawr a rhandaliad nesaf eich benthyciad neu grant.

Yn dibynnu ar bryd rydych chi’n gwneud eich cynllun ariannol, bydd angen ichi gynnwys faint ydych chi’n gwario yn ystod y tymor ac unrhyw gostau ar gyfer y cyfnod ar ôl diwedd y tymor (os ydyn nhw’n wahanol).

Costau sefydlog

Nodwch y costau sefydlog yn gyntaf. Mae’r rhain yn daliadau y mae’n rhaid ichi eu talu, neu nad ydych chi’n gallu eu hepgor, heb o bosibl fod yn destun ffioedd ychwanegol neu gosbau eraill. Bydd eich rhestr yn bersonol i chi, ond gallai gynnwys y canlynol:

  • Rhent

  • Biliau

  • Bwydydd

  • Gofal plant

Gostau hyblyg

Nesaf, meddyliwch am gostau hyblyg: pethau yr hoffech chi wario arian arnyn nhw ond nad ydych wedi ymrwymo iddyn nhw. Gallai hyn gynnwys bwyta allan, gwyliau, neu danysgrifiadau. Os nad ydych chi’n gallu meddwl am unrhyw beth penodol eto, gadewch le ar gyfer “gwariant personol”.

Nawr ewch trwy'ch rhestr ac amcangyfrifwch faint yn union fydd cost pob eitem rhwng nawr a'r tymor nesaf. Nodwch y ffigur wrth ymyl pob eitem, a chyfanswm eich holl wariant ar y gwaelod.

Gall hyn fod yn swm mawr, ond peidiwch â dychryn. Bydd y camau nesaf yn eich helpu chi i gydbwyso pethau.

Amcangyfrifwch eich incwm

Nawr yw’r amser ichi restru’r holl arian a fydd yn cael ei dalu i chi rhwng nawr a thaliad nesaf eich benthyciad neu grant.

Am y tro, dylech chi gynnwys incwm y gallwch chi ddibynnu arno yn unig: benthyciad myfyrwyr, grant neu gyllid atodol y cytunwyd arno, budd-daliadau, cyfraniad ariannol oddi wrth eich teulu, neu gyflog o swydd sefydlog.

Nodwch faint o arian a fydd yn dod i mewn o bob ffynhonnell, a nodwch y cyfanswm ar y gwaelod.

[Awgrym] Ydych chi yn eich tymor olaf yn y brifysgol?

Defnyddiwch eich cynllun ariannol i neilltuo unrhyw incwm i’ch costau mwyaf pwysig neu ddybryd, yna edrychwch ar yr awgrymiadau ar gyfer [cael cymorth ariannol ychwanegol] os oes ei angen arnoch chi.

Gwnewch synnwyr o'r ffigurau

Mae cyfrifo cyfanswm eich gwario a chyfanswm eich incwm yn fuddiol achos rydych chi’n gallu gweld yn syth os bydd digon o arian gennych chi i dalu am eich treuliadau.

Os yw'ch incwm yn cyfateb i'ch gwariant: mae hynny’n wych! Edrychwch dros yr awgrymiadau ar gyfer cyllidebu i aros ar y trywydd iawn. Neu, os oes gennych chi arian dros ben, ystyriwch neilltuo ychydig ohono i gyfrif cynilo i leddfu’r pwysau ar y tymor nesaf neu ar ôl graddio.

Ond beth os nad oes gennych chi ddigon o incwm i bara tan y tymor nesaf? Dyma le gall y symiau rydych chi wedi eu gwneud hyd yn hyn yn gallu eich helpu chi i ddatrys y broblem.

Torrwch eich costau

Dechreuwch gyda’r costau hyblyg. A oes unrhyw gostau y gallwch chi eu gwneud hebddyn nhw? A allech chi wario llai ar siopa wrth chwilio am y prisiau gorau? A ydych chi'n gwneud y gorau o’r pethau rydych chi’n gallu eu cael am ddim fel myfyriwr a disgowntiau? Neu a allwch chi wrthbwyso costau trwy werthu pethau nad ydych chi'n eu defnyddio rhagor?

Peidiwch â rhuthro i gael gwared ar unrhyw gostau sefydlog, gan eu bod yn bwysig i chi, eich astudiaethau neu eich llesiant. Yn lle hynny, edrychwch i weld a ydych chi’n gallu talu llai trwy newid darparwr neu gael gwasanaeth llai.

Cynyddwch eich incwm

Os ydych chi’n cael trafferthion ariannol, neu’n poeni sut y byddwch chi’n cael deupen y llinyn ynghyd dros yr haf, peidiwch ag anwybyddu eich pryderon.

Gwiriwch os ydych chi’n gallu gwneud cais am gronfa caledi ar gyfer gwyliau’r haf drwy eich prifysgol. Efallai y bydd budd-daliadau, grantiau neu gymorth arall y byddwch chi’n gallu eu hawlio hefyd: chwilio am ffynonellau cyllid ychwanegol i fyfyrwyr.

Ydych chi’n gallu gweithio a heb swydd eto? Gallai hyd yn oed gwaith rhan-amser, dros dro neu lawrydd helpu. Fel arall, gall rhai swyddi haf, megis gweithio mewn gwyliau neu ddigwyddiadau, wrthbwyso’r arian y byddech chi wedi’i wario ar brynu tocynnau.

Ydych chi’n gweithio yn barod? A allech chi weithio rhagor o shifftiau neu ofyn am godiad cyflog?

Os yw incwm eich cartref yn lleihau eich benthyciad myfyrwyr neu eich grant, mae’n werth gwirio a ydych chi’n gallu cael cymorth ariannol ychwanegol gan bobl eraill yn eich bywyd i ychwanegu ato gymaint ag y mae’r llywodraeth yn ei ddisgwyl – neu a ydyn nhw’n gallu cynnig ychydig yn ychwanegol. Mae gan Save the Student ganllaw newydd ar sut i ofyn am gymorth wrth bobl eraill yn eich bywyd.

[Awgrym] Ac unwaith eto

Efallai y bydd angen i chi newid eich cyllideb ychydig o weithiau i gael gwared ar fwy o gostau neu ailfeddwl pa bethau rydych chi’n gwario eich arian arnynt.

Cofiwch, nid yw cymorth yn ymwneud ag arian parod yn unig. Ewch i dîm cyngor ariannol eich prifysgol neu goleg am help i wneud cyllideb, deall eich opsiynau, neu ddod o hyd i rywun sy’n gallu gwrando ar eich pryderon.

Neu, i gael help gyda thai, biliau a thrafferthion eraill sydd wedi’i deilwra’n benodol i chi, ceisiwch gyngor ar bryderon ariannol cyffredin ymhlith myfyrwyr.

Adolygwyd ddiwethaf: Gorffennaf 2024