Mae Annie Gainsboroughyn Uwch Ymgynghorydd yn Gradconsult. Maent yn cefnogi myfyrwyr a graddedigion i ffynnu wrth iddynt symud o addysg i fyd gwaith, gyda diddordeb personol mewn cydraddoldeb a chynhwysiant.
Gall gwneud cais am swyddi fod yn dasg heriol. Mae gennym ni rai awgrymiadau i'ch helpu i gynnal eich llesiant wrth ichi ddod o hyd i'r swydd gywir i chi.
Gall pwysau gan gyfoedion, ynghyd â phoeni am arian a'ch dyfodol, wneud hwn yn gyfnod o straen mawr. Gall hyn gael ei waethygu gan y ffaith bod llawer o ffactorau na allwch chi eu rheoli. Ond trwy ganolbwyntio ar y pethau hynny y gallwch chi eu rheoli a mabwysiadu'r strategaeth gywir i chi, gallwch chi gynyddu eich siawns o gael swydd ac ar yr un pryd ofalu amdanoch chi'ch hun hefyd.
Dyma bum awgrym ar gyfer canolbwyntio ar eich chwiliad am swydd wrth flaenoriaethu hunanofal hefyd:
1. Nid pa faint, ond sut rai
Efallai eich bod chi’n meddwl po fwyaf o geisiadau am swyddi y byddwch chi’n eu cyflwyno, y mwyaf tebygol y byddwch chi o fod yn llwyddiannus. Ond nid yw'r dull hwn o chwilio am waith bob amser yn cynhyrchu canlyniadau gwell. Mewn gwirionedd, mae cyfraddau llwyddiant a llesiant yn gostwng pan gymerir y dull hwn.
Efallai eich bod wedi clywed straeon am bobl yn anfon eu CV at 200 o gyflogwyr a heb gael un cyfweliad. Gall hyn wneud i chwilio am swydd deimlo fel tasg anobeithiol yn hawdd. Ond nid yw’r ymagwedd “copïo a gludo” generig hon at geisiadau am swyddi yn ffafriol i lwyddiant – naill ai o ran cyfweliadau a chynigion, na’ch llesiant eich hun.
Mae cyflogwyr yn chwilio am geisiadau wedi'u teilwra sy’n cynnwys gwaith ymchwil dda o’r swydd. Gallai eich helpu chi i ystyried y canlynol:
Sicrhau bod eich cais a'ch CV yn cynnwys y pwyntiau allweddol a restrir yn yr hysbyseb swydd.
Ymchwilio y tu hwnt i wefan y sefydliad– edrych ar flogiau cwmni, cyfrifon cyfryngau cymdeithasol a straeon newyddion y sector i ddangos diddordeb gwirioneddol.
Mae'r camau hyn yn cymryd amser, ac nid ydynt yn rhywbeth y gallwch chi ei gyflawni ar gyfer cannoedd o geisiadau. Ond trwy ganolbwyntio ar nifer llai o geisiadau sy’n cynnwys gwaith ymchwil da, gallwch chi sefyll allan o'r dorf a chynyddu eich siawns o lwyddo. Efallai y byddwch chi hefyd yn ei chael yn fwy boddhaol i gymryd eich amser dros nifer llai o geisiadau a thrwy dargedu'r swyddi hynny rydych chi eu heisiau fwyaf, rydych chi hefyd yn fwy tebygol o ddod o hyd i rôl sy'n dda i chi yn y tymor hir.
2. Gosod targedau realistig
P'un a yw'n gais y mis tra eich bod chi’n astudio neu'n gais yr wythnos ar ôl y brifysgol, mae gosod targedau realistig sy'n gweithio i chi a’ch cyfrifoldebau eraill, yn un ffordd o sicrhau nad yw chwilio am swydd yn eich trechu.
Peidiwch â phoeni os oes rhaid i chi addasu’r nod ychydig wrth i chi fynd yn eich blaen, ond mae cael nodau yn eich helpu i ganolbwyntio ar yr hyn rydych chi am ei gyflawni.
3. Cynnal trefn arferol
Mae cael swydd yn un nod, ond mae eich llesiant yn bwysicach ac yn hanfodol i'ch llwyddiant. Ceisiwch ganolbwyntio ar hunanofal yn ystod y cyfnod hwn. Peidiwch â gadael i chwilio am swydd daflu eich hobïau, eich perthnasoedd, a'r pethau eraill sy'n rhan o bwy ydych chi i’r neilltu.
Adeiladwch drefn sy'n caniatáu amser ar gyfer prydau iach, ymarfer corff ac awyr iach, yn ogystal â noson dda o gwsg. Gallai gwisgo eich helpu i deimlo'n fwy proffesiynol, a gallai cymryd amser i ffwrdd o'r sgrin i wneud rhywbeth sy'n bwysig i chi eich helpu i ddod yn ôl wedi'ch adfywio ac yn barod i lwyddo yn y broses recriwtio.
Weithiau mae'n teimlo fel bod troeon yr yrfa chwilio am swydd yn ein diffinio, ond nid yw hyn yn wir. Mae'n bwysig neilltuo amser ar gyfer y gweithgareddau sy'n ein cadw ni i fynd. Wedi dweud hynny, allwch chi ddim gwneud popeth ar yr un pryd, felly byddwch yn hyblyg – efallai y bydd angen i chi symud ymrwymiadau eraill o gwmpas i ganolbwyntio ar ddyddiad cau neu gyfweliad.
Hyd yn oed wrth ddilyn yr awgrymiadau hyn, nid yw cael swydd i raddedigion yn hawdd. Mae'n debygol y bydd pob un ohonom yn cael ein gwrthod ar wahanol adegau yn y broses. Peidiwch â chael eich digalonni gan y posibilrwydd hwn. Mae cyflwyno cais yn gam mawr iawn ac os byddwch chi'n cyrraedd cam cyfweliad, mae hynny'n dipyn o gamp ynddo'i hun.
Os ydych chi wedi bod i gyfweliad ond yn aflwyddiannus, cofiwch longyfarch eich hun am yr hyn rydych chi wedi'i wneud yn dda. A tra bod y profiad yn dal yn ffres yn eich meddwl, ceisiwch adborth gan y cyflogwr a myfyriwch ar unrhyw elfennau y credwch y gallech chi eu gwella, naill ai ar eich pen eich hun, gyda'ch gwasanaeth gyrfaoedd, gyda ffrind neu gydag aelod o'r teulu y gallwch ymddiried ynddo.
Efallai y byddwch hefyd am gymryd peth amser i ffwrdd o'r broses chwilio am swyddi i roi pethau mewn persbectif cyn i chi ddechrau ymgeisio eto, gan ganiatáu amser i brosesu a dysgu o'ch profiad chwilio am swydd. Mae gwneud cais am swyddi, fel pob peth mewn bywyd, yn cymryd ymarfer a pho fwyaf y byddwch chi'n ei wneud, ac yn dysgu ohono, gorau oll y byddwch chi.
Mae'r rhan fwyaf o brifysgolion yn cynnig cymorth y tu hwnt i raddio i'ch helpu i feithrin eich sgiliau chwilio am swydd a chael rôl sy'n iawn i chi. Peidiwch â theimlo bod yn rhaid i chi feistroli hyn i gyd ar eich pen eich hun. Edrychwch pa gymorth y mae eich prifysgol yn ei gynnig a gwnewch ddefnydd ohono i'ch helpu i chwilio am swyddi, mireinio eich ceisiadau a pharatoi ar gyfer cyfweliadau. Gall chwilio am swydd deimlo fel tasg lai llafurus os ydych chi'n teimlo bod cymorth gennych
Mae'n iawn i chi deimlo'n bryderus neu'n orbryderus wrth wneud cais am swyddi ond nid ydych chi ar eich pen eich hun o gwbl. Gall fod llawer o ansicrwydd ar ôl y brifysgol, ac mae chwilio am swydd yn rhywbeth arall a allai ychwanegu at y teimlad hwn. Ond gall siarad am eich pryderon ag eraill a chynnal agwedd iach at y broses recriwtio eich helpu i deimlo bod gennych sylfaen a rheolaeth, ac ar yr un pryd eich helpu i weithio tuag at eich nodau.