Gall diwedd y flwyddyn academaidd hefyd olygu newid yn eich llety myfyrwyr. Gall symud fel myfyriwr ddod â llawer o fanteision a phosibiliadau cyffrous. Gobeithio y byddwch chi'n byw gyda phobl rydych chi'n eu hoffi, efallai bod gennych chi fwy o reolaeth dros eich amgylchedd neu efallai y cewch chi gyfle i brofi byw yn rhywle newydd.
Symud Llety
Gall symud llety fod yn gyffrous ond hefyd yn rhyfedd ac yn gythryblus. Mae croesawu'r ansicrwydd a chymryd camau synhwyrol yn gallu gwneud i'r broses deimlo'n well.
Mynd i'r afael â gwrthdaro yn llwyddiannus
Fodd bynnag, gall newid lle rydych chi'n byw hefyd fod yn gythryblus ac mae symud yn achosi straen i lawer o bobl. Gall meddwl ymlaen llaw a chymryd rhai camau syml wneud hwn yn brofiad cystal â phosibl a gall eich helpu i ymgartrefu'n gyflymach yn eich cartref newydd.
Amser
Mae symud yn cymryd amser – yn aml yn hirach nag yr ydych chi'n disgwyl.
- Dylech neilltuo amser cyn y diwrnod symud i bacio, trefnu’r cyfleustodau a cheisio osgoi’r cythrwfl munud olaf y noson cynt oherwydd gall hyn olygu eich bod yn dechrau'r diwrnod symud wedi blino'n lân.
- Meddyliwch am y cyfrifoldebau eraill a allai fod gennych o hyd – gallai hyn olygu bod angen i chi ddechrau pacio a pharatoi yn gynt.
Cynlluniwch y diwrnod
Efallai yr hoffech ystyried cynllunio'r canlynol:
- Sut a phryd y byddwch chi'n symud eich pethau
- Pryd y byddwch chi'n bwyta ac yn gorffwys yn ystod y dydd
- Beth sydd angen ei ddadbacio yn gyntaf – e.e. eich gwely
- Pa fwyd sydd ei angen arnoch i'ch rhoi ar ben ffordd
Gwnewch y pethau sylfaenol
- Cyn i chi symud i mewn, cytunwch sut y byddwch chi a’ch cyd-letywyr yn trefnu eich biliau, cadw’r lle’n lân, mynd i’r afael ag unrhyw anghytundebau ac ati.
- Cyn gynted ag y byddwch yn symud i mewn, gwiriwch y rhestr eiddo a’i dychwelyd i’ch landlord – tynnwch sylw at unrhyw beth sydd wedi’i ddifrodi, wedi torri neu ddim yn gweithio.
- Dylech ymgyfarwyddo â sut mae popeth yn gweithio a ble mae'r allanfeydd tân – bydd deall y pethau hyn yn gyflym yn gwneud i chi deimlo bod gennych fwy o reolaeth dros eich amgylchedd.
Dylech flaenoriaethu addurno'ch amgylchedd gydag eitemau personol
- Bydd mynd ati'n gyflym i wneud eich gofod i deimlo fel eich un chi yn gwneud i chi deimlo'n fwy cartrefol. Bydd eich ymennydd yn llawn atgofion sy'n gysylltiedig â'ch pethau, gan wneud i'r cartref newydd deimlo'n gyfarwydd.
Dewch i adnabod eich cartref newydd a dod o hyd i bethau rydych chi'n eu hoffi
- Cymerwch amser i sylwi ar bob agwedd o'ch cartref newydd a dod i ddeall popeth.
- Chwiliwch am y pethau rydych chi'n eu hoffi am eich llety newydd – gall fod yr olygfa, yr ardal, y cynllun, lliw'r waliau neu'r carped, nodwedd o'r cynllun neu unrhyw beth arall.
- Archwiliwch yr ardal leol, os nad ydych chi'n ei hadnabod yn barod. Mae dod yn gyfarwydd â'n hamgylchedd yn gwneud i ni deimlo'n fwy cyfforddus.
Ewch i drefn yn gyflym
- Mae cael trefn reolaidd yn helpu i roi rhythm a strwythur i'n diwrnod. Bydd pob amgylchedd newydd yn gofyn am newid bach i'ch trefn reolaidd, gall gwneud hyn roi mwy o ymdeimlad o reolaeth a chysur i chi yn yr amgylchedd newydd.
Adolygwyd ddiwethaf:
Ebrill 2023