Mae syndrom y ffugiwr yn fater tra hysbys sy'n effeithio ar lawer o fyfyrwyr, ac mae'n arbennig o gyffredin ymhlith myfyrwyr Du. Amlygir hyn gan ddata ansoddol a gasglwyd gan grŵp o wyth o fyfyrwyr Du ar gyfer y prosiect hwn i’r Gornel Myfyrwyr, gydag aelodau'n rhannu eu profiadau bywyd go iawn.
Mae bywyd prifysgol yn heriol i bawb, ond mae myfyrwyr Du yn wynebu rhwystrau unigryw a all effeithio ar eu llesiant seicolegol a chynyddu'r risg o brofi syndrom y ffugiwr. Mae’r heriau hyn yn cynnwys materion cymdeithasol megis hiliaeth, ystrydebu, rhagfarn, a micro-ymosodiadau, yn ogystal ag anawsterau academaidd penodol. Mae’r rhain yn cynnwys gwrthdaro diwylliannol â thestunau academaidd, tan-gynrychiolaeth ymhlith staff addysgu, a diffyg cymorth academaidd a chymdeithasol.
Gall y rhwystrau ychwanegol hyn wneud rhywun yn fwy agored i syndrom y ffugiwr mewn lleoliadau academaidd. Fel myfyriwr PhD, rwy'n aml yn mynd i'r afael â syndrom y ffugiwr wrth weithio ac astudio ar lefel uchel. Mae bod mewn amgylcheddau lle ceir llai o gynrychiolaeth yn aml yn dwysáu fy nheimladau o syndrom y ffugiwr, gan wneud i mi gwestiynu fy neallusrwydd a chwestiynu fy ymdeimlad i o berthyn.
Fel myfyriwr Du yn y brifysgol, efallai eich bod chi wedi profi'r symptomau canlynol o syndrom y ffugiwr:
- Cwestiynu dilysrwydd eich cyflawniadau academaidd
- Teimlo'n annheilwng o'ch cyflawniadau proffesiynol
- Teimlo fel “twyllwr” a theimlo nad ydych chi’n perthyn i faes addysg uwch
Felly, sut allwn ni gefnogi myfyrwyr sy'n profi syndrom y ffugiwr?
Gall y strategaethau canlynol eich helpu i reoli a llywio eich profiad o syndrom y ffugiwr yn well fel eich bod yn meithrin mwy o hyder ac yn cael profiad prifysgol sy’n werth chweil fel myfyriwr Du:
Creu amgylchedd cefnogol
Dewch o hyd i'ch gofod ym mywyd y brifysgol drwy fynd ati i chwilio am gymunedau a grwpiau lle rydych chi'n teimlo bod croeso a chefnogaeth i chi. Ymunwch â chlybiau, cymdeithasau, neu grwpiau astudio sy'n cyd-fynd â'ch diddordebau a'ch gwerthoedd chi er mwyn meithrin ymdeimlad o berthyn. Os ydych chi mewn prifysgol nad oes ganddi ofod i chi eto, gwnewch un eich hun! Efallai y bydd yn eich synnu faint o bobl sy’n hoffi’r un pethau â chi.
Chwilio am rywun i fod yn fentor i chi
Cysylltwch â darpar fentoriaid, megis athrawon, myfyrwyr hŷn, neu weithwyr proffesiynol yn eich maes. Gofynnwch am gyfarwyddyd a chyngor, a byddwch yn agored i ddysgu o'u profiadau. Gall mentor ddarparu persbectif a chefnogaeth werthfawr ac mae bob amser yn helpu i wybod bod rhywun wedi bod ar yr un llwybr â’r un yr ydych chi arno ar hyn o bryd ac wedi llwyddo i gyrraedd yr ochr draw. Cofiwch, wrth chwilio am rywun i fod yn fentor i chi, rydyn ni am gael cyfarwyddyd ganddynt yn hytrach na dibynnu arnynt am sicrwydd. Mae ceisio sicrwydd yn rhan naturiol o gwestiynu ein hunain, ond gallai hyn arwain at gylch dieflig neu at beidio â theimlo'n hyderus oni bai bod rhywun wedi rhoi sicrwydd. Cofiwch: chwiliwch am gyfarwyddyd, ond mae pob llwybr yn wahanol.
Defnyddio adnoddau academaidd
Chwiliwch am adnoddau academaidd sy'n darparu ar gyfer eich anghenion, megis gwasanaethau tiwtora, grwpiau astudio, a gweithdai academaidd. Yn aml, gallwch chi brofi syndrom y ffugiwr oherwydd eich bod yn amau eich deallusrwydd eich hun. Peidiwch ag oedi cyn gofyn am help pan fo’i angen arnoch, a defnyddiwch yr adnoddau hyn i gyfoethogi eich profiad o ddysgu. Un ffordd o frwydro yn erbyn hyn yw atgyfnerthu eich gwybodaeth a'ch sgìl gan ddefnyddio'r adnoddau academaidd sydd ar gael yn eich sefydliad. Gall defnyddio adnoddau hefyd gynnwys pethau megis gofyn am adborth a gwirfoddoli gyda’ch tiwtoriaid.
Gwneud defnydd o’r gwasanaethau iechyd meddwl
Blaenoriaethwch eich iechyd meddwl drwy ddefnyddio’r gwasanaethau cwnsela a chymorth sydd ar gael. Mae llawer o brifysgolion yn cynnig adnoddau iechyd meddwl am ddim neu am gost isel. Peidiwch ag oedi cyn gofyn am gymorth os ydych chi'n teimlo fel eich bod chi wedi'ch llethu, gan gynnwys i drafod eich profiad o syndrom y ffugiwr. Gallai siarad am eich teimladau a'ch profiadau wneud byd o wahaniaeth.
Cydnabod gwaith da
Rhowch glod i chi'ch hun am eich cyflawniadau. Cadwch lyfr o'ch cyflawniadau ac adborth cadarnhaol. Myfyriwch ar eich cynnydd yn rheolaidd er mwyn atgoffa'ch hun o'ch cryfderau a'ch galluoedd. Mae bob amser yn werth chweil canmol eich hun – rydych chi'n gwneud yn wych.
Defnyddio methiant i hybu cynnydd
Derbyniwch fod methiant yn rhan arferol o’r broses o ddysgu a pheidiwch â gadael i ofn methiant eich atal chi rhag dechrau rhywbeth newydd neu ymgymryd â thasg anodd. Pan fyddwch chi'n profi anawsterau, defnyddiwch nhw fel cyfleoedd i ddysgu a thyfu. Myfyriwch ar yr hyn a aeth o'i le a sut y gallwch chi wella, yn hytrach na gadael i’r anawsterau danseilio eich hyder neu wneud ichi gwestiynu eich hun.
Astudiaethau:
Predictors of imposter phenomenon among talented ethnic minority undergraduate students Peteet, B. J., Montgomery, L., & Weekes, J. C. (2015). Predictors of imposter phenomenon among talented ethnic minority undergraduate students. The Journal of Negro Education, 84(2), 175-186.
The struggle is real: The imposter syndrome Campbell, C. (2021). The struggle is real: The imposter syndrome (Doctoral dissertation, Doctoral dissertation, California State University, Chico).
Overcoming imposter syndrome and stereotype threat: Reconceptualizing the definition of a scholar Edwards, C. W. (2019). Overcoming imposter syndrome and stereotype threat: Reconceptualizing the definition of a scholar. Taboo: The Journal of Culture and Education, 18 (1), 3.
Clance, P. R., & Imes, S. A. (1978). The imposter phenomenon in high achieving women: Dynamics and therapeutic intervention. Psychotherapy: Theory, research & practice, 15(3), 241.