Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd cymuned i fyfyrwyr Du yn y brifysgol. I lawer mae hyn yn gyfle i guradu eich system gefnogaeth, datblygu ymdeimlad o berthyn, ailddatgan eich hunaniaeth fel unigolyn, darganfod cyfleoedd i ymgyrchu a chymryd rhan mewn perthnasoedd newydd.Dyma ychydig o resymau pam mae cymuned yn bwysig i chi fel myfyriwr Du yn y brifysgol.
I nifer o fyfyrwyr Du, mae taith y brifysgol yn nodi cyfnod trawsnewidiol lle mae ffrindiau, teulu a chymuned yn ffynonellau hanfodol o anogaeth a chefnogaeth. Serch hynny, gall y cyfnod pontio hwn weithiau roi straen ar berthnasoedd ag anwyliaid.
Efallai y byddwch mewn sefyllfa unigryw fel y cyntaf yn eich teulu neu grŵp o ffrindiau i ddilyn addysg uwch. Wrth i chi ymchwilio'n ddyfnach i'ch maes astudio, ehangu eich gorwelion a'ch gwybodaeth, efallai y byddwch chi'n dod ar draws emosiynau sy'n groes i’w gilydd ac yn dechrau cwestiynu a ydych chi'n tyfu ar wahân i'r rhai sydd agosaf atoch chi.Ar ben hynny, efallai y bydd eich twf personol a'ch safbwyntiau esblygol yn cael eu camddeall, neu efallai y bydd aelodau'r teulu neu ffrindiau yn ymateb yn negyddol iddyn nhw, yn enwedig i'r rhai sy'n fyfyrwyr rhyngwladol ac sy'n symud i ffwrdd o gartref.Gall hyn weithiau arwain at ddiffyg hyder yn chi’ch hun o ran eich hunaniaeth a'ch penderfyniadau. Pan fydd eich anwyliaid yn methu â deall eich profiadau prifysgol hy straen oherwydd aseiniadau, ac yn cynnig cymorth annigonol, gall effeithio’n sylweddol ar eich llesiant meddyliol.
Fel myfyriwr Du mewn prifysgol yn y DU, bydd llawer ohonoch yn profi pwysau o ganlyniad i ddisgwyliadau uchel. Boed oherwydd eich bod yn dod o deulu o gyflawnwyr uchel neu oherwydd mai chi yw'r cyntaf i fynd i'r brifysgol, gall disgwyliadau uchel osod baich sylweddol arnoch.Gall y pwysau hwn arwain at deimladau o euogrwydd a chywilydd pan fyddwch chi'n meddwl eich bod yn methu â chyflawni'r disgwyliadau hyn, gan rwystro'ch gallu i ymlacio a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol. Fe wnaeth grwpiau ffocws Student Space nodi a thrafod hyn, ac o fewn y gymuned Ddu, mae dealltwriaeth dreiddiol bod yn rhaid i chi weithio ddwywaith mor galed â'ch cymheiriaid gwyn oherwydd rhagfarnau hiliol systemig.Serch hynny, heb flaenoriaethu hunanofal, gall y disgwyliadau hyn waethygu nes eu bod yn achosi lefelau llethol o straen, gan leihau eich cymhelliant a pheryglu eich llesiant meddyliol.