Weithiau, efallai y byddwch chi'n gweld bod y ffordd rydych chi'n teimlo yn newid yn gyflym heb unrhyw reswm amlwg. Er enghraifft, mae llawer o bobl yn disgrifio’r profiad o gael diwrnod pan fyddant yn teimlo’n iawn ac yna’n gweld eu hwyliau’n plymio yn sydyn, fel pe bai trapddor emosiynol wedi’i agor oddi tanynt. Mae hyn yn normal: nid yw'n brofiad braf, ond mae'n rhan gyffredin o'r broses alaru.
Nid oes amserlen arferol ar gyfer galar, ac nid oes unrhyw ffordd o orfodi eich hun i deimlo'n wahanol neu symud ymlaen yn gyflymach. Nid oes ychwaith gyfnodau penodol y byddwch yn bendant o fynd drwyddynt. Ceisiwch beidio ag ail feddwl na barnu'ch hun am sut rydych chi'n teimlo.
Wrth ystyried hyn, byddwch yn ofalus o feddwl am beth y ‘dylech’ ei wneud. Gall llawer o fyfyrwyr gael eu hunain yn meddwl “dylwn i fod yn gallu rheoli hyn yn well.” Neu “dylwn i fod yn crio mwy.” Neu “dylwn i fod wedi symud ymlaen erbyn hyn.” Nid oes ffordd gywir nac anghywir o brofi galar ac felly nid oes unrhyw ffordd y ‘dylech’ fod yn teimlo.
Nid ydych chi'n wan oherwydd eich bod yn dal i deimlo'n isel fisoedd ar ôl y golled. Fel arall, os nad ydych chi'n crio ac yn teimlo'n erchyll drwy'r amser, nid yw'n golygu nad oedd ots gennych chi neu nad ydych chi'n galaru'n iawn. Yn syml, y profiad rydych chi’n ei gael yw'r ffordd rydych chi'n teimlo.
Yn gyffredinol, os gallwch chi dderbyn y broses fel y mae'n gweithio i chi, a gweithio gydag ef yn hytrach na cheisio ei atal neu ei orfodi, a gofalu amdanoch chi'ch hun tra byddwch chi'n gwella, yna byddwch chi'n symud drwyddi ac yn raddol yn dechrau teimlo'n well. Yn y pen draw, byddwch chi'n cyrraedd pwynt pan fyddwch chi'n cofio'r person neu'r peth rydych chi wedi'i golli ond, er hynny, byddwch chi'n barod i symud ymlaen a byw bywyd bodlon.