Os byddwch chi’n ei ymarfer yn rheolaidd, efallai y gwelwch chi hefyd ei fod yn eich helpu i deimlo'n dawelach yn gyffredinol. Po fwyaf y byddwch chi’n ymarfer, y mwyaf effeithiol fydd y dechneg yma.
Ymarfer anadlu 7-11
Gall yr ymarfer anadlu yma eich helpu chi i leihau straen yn y foment.
Sut i wneud anadlu 7-11
Dyma sut rydych chi'n ei wneud - mae'n syml iawn:
Anadlu i mewn gan gyfrif i 7, wedyn anadlu allan gan gyfrif i 11.
Daliwch ati am 5 i 10 munud neu fwy os gallwch chi, a mwynhau’r effaith ymdawelu.
Awgrymiadau i wneud y gorau o'r ymarfer:
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud 'anadlu diafframatig' dwfn yn hytrach nag anadlu ysgyfaint basach. Mae hyn yn golygu anadlu mor ddwfn i lawr i'ch stumog ag y gallwch chi. Dylai eich diaffram fod yn symud i lawr ac yn gwthio eich stumog pan fyddwch yn cymryd anadl.
- Os ydych chi'n ei chael yn anodd anadlu am y 7 a’r 11 llawn, gallwch ei leihau i gyfrif 3-5. Ond cofiwch wneud yn siŵr bod yr anadl allan yn hirach na'r anadl i mewn.
Gyda beth all 7-11 helpu?
Gall anadlu 7-11 helpu os ydych chi'n...
- Teimlo dan straen
- Cael anawsterau gyda phyliau o banig
- Cael anhawster cysgu
- Cael anhawster canolbwyntio
- Teimlo'n anesmwyth neu'n bryderus
- Ei chael yn anodd rheoli eich emosiynau