Leave this site now

Ymdrechu am ragoriaeth: natur gorgyflawni myfyrwyr Du yn y DU a thu hwnt

Mae Evangel Onwuaso

Mae Evangel Onwuaso yn fyfyriwr rhyngwladol o Nigeria, sy’n astudio ar gyfer MSc mewn Iechyd Cyhoeddus a Llesiant Cymunedol ym Mhrifysgol Anglia Ruskin. Mae hi'n angerddol am bopeth yn ymwneud â iechyd meddwl ac yn ymroddedig i wneud gwahaniaeth yn y maes hwn.

Ydych chi'n teimlo pwysau cymdeithasol i brofi'ch hun? A oes gennych chi ddisgwyliadau uchel i chi'ch hun neu a oes gan y rhai sy'n agos atoch ddisgwyliadau uchel ar eich cyfer chi? Mae Evangel yn trafod y diwylliant gor-gyflawni sy'n effeithio ar lawer o fyfyrwyr mewn cymunedau Du.neb heriau systemig.

Rwy’ wedi dod i sylweddoli bod myfyrwyr Du, yn y DU ac yn fyd-eang, wedi dangos gwytnwch a phenderfyniad rhyfeddol, ac yn parhau i’w dangos, yn wyneb heriau systemig. Mae’n penderfyniad i orgyflawni yn aml yn cael ei ysgogi gan gymysgedd cymhleth o ddisgwyliadau diwylliannol, uchelgais personol, a’r awydd i oresgyn rhwystrau cymdeithasol neu’r pwysau o orfod profi ein hunain yn gyson fel rhan o grŵp lleiafrifol yn y DU. Gadewch i ni archwilio’r ffactorau sy’n cyfrannu at y natur orgyflawni hon a’r goblygiadau ehangach i ni a’n cymunedau. Rwy’ wedi sylweddoli bod rhai o’r ffactorau sy’n gallu ein gwthio i orgyflawni yn cynnwys y canlynol:

Disgwyliadau diwylliannol a theuluol

Disgwyliadau uchel gan deuluoedd a chymunedau

Mae llawer ohonon ni yn cael ein magu gyda gwerthoedd diwylliannol cryf sy'n pwysleisio pwysigrwydd addysg fel llwybr i lwyddiant. Mae’n teuluoedd yn aml yn meithrin ymdeimlad dwfn o gyfrifoldeb a balchder mewn cyflawniadau academaidd. Mae’r pwyslais diwylliannol hwn ar addysg yn gymhelliant pwerus, sy’n ein gyrru i ragori er gwaethaf pob disgwyl.

Modelau rôl a chefnogaeth gymunedol

Yn aml, mae gennyn ni fynediad i rwydwaith o fodelau rôl o fewn ein cymunedau sydd wedi cyflawni llwyddiant academaidd a phroffesiynol. Mae’r modelau rôl hyn yn rhoi ysbrydoliaeth ac enghreifftiau diriaethol o’r hyn sy’n bosibl, gan ein hannog i anelu’n uchel ac i ddyfalbarhau.

Uchelgais personol a gwydnwch

Cymhelliant cynhenid

Mae gan lawer ohonon ni gymhelliant cynhenid cryf i lwyddo. Mae’r penderfyniad hwn yn aml yn cael ei danio gan uchelgais personol a’r awydd i greu gwell cyfleoedd i ni a’n teuluoedd. Mae'r penderfyniad i herio ystrydebau a phrofi grwgnachwyr yn anghywir yn cynyddu'r cymhelliant hwn ymhellach, o leiaf ar fy rhan i.

Gwydnwch yn wyneb trallod

Mae'r gallu i oresgyn trallod yn un o’r rhinweddau sydd gan lawer ohonom. Er gwaetha’r ffaith rydyn ni’n wynebu hiliaeth systemig, gwahaniaethu, a heriau economaidd-gymdeithasol, rydym yn datblygu gwydnwch a’r gallu i addasu. Mae’n profiadau yn aml yn ein gwneud yn fwy penderfynol o lwyddo a goresgyn y rhwystrau sydd wedi’u gosod o’n blaen gan gymdeithas.

Cyflawniadau a chydnabyddiaeth addysgol

Rhagoriaeth academaidd

Fel myfyrwyr Du, rydyn ni’n dangos yn gyson lefelau uchel o gyflawniad academaidd neu'n ymdrechu i gael lefelau penodol o gymwysterau a chyflawniadau academaidd, yn fwy oherwydd y math o gymdeithas rydyn ni’n dod ohoni. Yn y DU, er enghraifft, mae llawer ohonon ni yn rhagori mewn addysg uwchradd, ac yn aml yn ennill y graddau uchaf, gan sicrhau lleoedd mewn prifysgolion mawreddog. Mae'r duedd hon yn cael ei hadlewyrchu mewn gwledydd eraill, lle rydyn ni’n aml yn perfformio'n well na'n cyfoedion mewn amrywiol fetrigau academaidd.

Arweinyddiaeth a chymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol

Y tu hwnt i’r byd academaidd, rydyn ni’n aml yn awyddus i ymgymryd â rolau arwain mewn gweithgareddau allgyrsiol. Rydyn ni’n cael ein hystyried yn weithgar mewn meysydd megis llywodraeth myfyrwyr, chwaraeon, sefydliadau diwylliannol, a gwasanaeth cymunedol, gan arddangos ein doniau amlochrog a'n hymroddiad i gael effaith gadarnhaol.

Heriau a systemau cymorth

Byddai rhywun yn meddwl, oherwydd yr ymdrech a'r cryfder rydyn ni’n eu harddangos wrth gasglu'r cyflawniadau a'r cymwysterau hyn, y dylai rhai trafodaethau penodol sy’n parhau i’n hwynebu fod wedi diflannu. Neu dylai fod wedi mynd i’r afael yn llwyr â rhai o’r heriau rydyn ni wedi’u hwynebu o’r blaen erbyn hyn. Ond eto! Rydyn ni’n parhau i drafod rhai heriau a rhwystrau megis:

Rhwystrau systemig

Er gwaethaf ein cyflawniadau, rydyn ni’n aml yn wynebu rhwystrau systemig o bwys, gan gynnwys rhagfarn ar sail hil, diffyg cynrychiolaeth, a mynediad cyfyngedig i adnoddau. Pam felly ydyn ni'n ymdrechu cymaint? Gall yr heriau hyn wneud ein teithiau academaidd yn fwy anodd ac yn llawn straen, gan amlygu’r angen am amgylcheddau addysgol sy’n fwy cefnogol a chynhwysol.

Rhwydweithiau cymorth a mentoriaeth

Mae rhwydweithiau cymorth a rhaglenni mentora effeithiol yn hanfodol i'n helpu i ymdopi â'r heriau hyn. Gall rhaglenni sy'n darparu cefnogaeth academaidd, meithrin sgiliau rheoli amser effeithiol, cyfarwyddyd gyrfaoedd, ac adnoddau iechyd meddwl wneud gwahaniaeth sylweddol yn ein bywydau. Dylai sefydliadau fuddsoddi mewn creu a chynnal y mathau hyn o systemau cymorth i sicrhau llwyddiant pob myfyriwr.

Yr effaith ehangach

Ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol

Mae cyflawniadau myfyrwyr Du sy'n gorgyflawni yn cael effaith ganlyniadol, gan ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol i ddilyn eu nodau academaidd a phroffesiynol. Bydd hyn, fwy na thebyg, yn cynnal y pwysau i orgyflawni yn fyw yng nghenedlaethau'r dyfodol. Nid yw hynny’n golygu o reidrwydd bod hyn yn beth drwg gan fod angen y pwysau hyn weithiau i gynnal y cydbwysedd a’r ddelwedd, ond mae gormod o unrhyw beth yn ddrwg, fel y dywedir yn aml. Mae’n storïau o lwyddiant yn herio ystrydebau negyddol ac yn cynnig naratif amgen sy’n gwrthwynebu’r rhain ac sy'n amlygu potensial a galluoedd yr holl fyfyrwyr Du.

Cyfrannu at newid cymdeithasol

Trwy ragori yn ein gweithgareddau academaidd a phroffesiynol, mae myfyrwyr Du yn cyfrannu at newid cymdeithasol ehangach. Rydyn ni'n dod yn arweinwyr, yn arloeswyr ac yn eiriolwyr sy’n sbarduno cynnydd mewn amrywiol feysydd. Mae’n cyfraniadau yn helpu i greu cymdeithas decach a mwy cyfiawn i bawb.

Strategaethau i fyfyrwyr i ymdopi â'r pwysau o fod yn orgyflawnwyr

Blaenoriaethu iechyd meddwl a hunanofal

Rwy’ wedi sylwi bod cymryd rhan mewn gweithgareddau hunanofal rheolaidd, megis ymarfer corff, cymryd egwyliau a hobïau angenrheidiol, a chael amser i ymlacio a dadflino, yn bwysig ar gyfer gofalu am lesiant fy meddwl ac i atal gorflinder.

Cofiwch geisio cymorth gan wasanaethau cwnsela neu iechyd meddwl sy’n cael eu cynnig gan y brifysgol neu gyrff amrywiol. Gall siarad â gweithiwr proffesiynol ddarparu strategaethau ac opsiynau iach gwell i reoli straen a chynnal cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith.

University support icon
Gosod nodau a disgwyliadau realistig

Torrwch. Dasgau. Yn ddarnau llai. Yn hytrach na chanolbwyntio ar un nod mawr, torrwch y nod yn dasgau llai y gellir eu rheoli. Mae'r dull hwn yn fy helpu i weld tasgau brawychus fel rhai sy’n fwy cyraeddadwy ac yn lleihau fy mhryder ar y cychwyn.

Rwy'n meddwl mai'r peth pwysicaf yw bod yn garedig i chi'ch hun. Byddai cydnabod eich cyflawniadau a deall ei bod yn iawn peidio â bod yn berffaith yn eich helpu i gydnabod bod rhwystrau yn rhan o'r broses ddysgu ac mae’r ffordd rydych chi’n rhoi gwedd fwy cadarnhaol arnyn nhw neu’n eu hystyried fel cyfleoedd yn rhan o’ch proses dyfu gymaint â’r methiant ei hun.

Adeiladu rhwydwaith cefnogol

Byddwch yn rhan o grwpiau astudio a rhwydweithiau cymorth neu ffurfiwch nhw. Rwy’ wedi darganfod bod rhannu profiadau a heriau gyda chyd-fyfyrwyr yn gallu creu ymdeimlad o gyfeillgarwch a lleihau’r teimladau bod yn rhaid i chi bontio bwlch penodol o ran cyrhaeddiad academaidd a phroffesiynol.

Mentoriaeth: Chwiliwch am fentoriaid a all gynnig arweiniad a chefnogaeth. Gall mentoriaid gynnig mewnwelediadau gwerthfawr, helpu i lywio heriau academaidd a phroffesiynol, a chynnig anogaeth.

Ymarfer rheolaeth amser effeithiol

Creu amserlen

Rwy'n sylwi bod cael amserlen yn lleddfol. Byddai datblygu amserlen realistig a strwythuredig sy'n cydbwyso cyfrifoldebau academaidd â gweithgareddau hamdden yn ffordd effeithiol iawn o reoli amser. Rwy’ fel arfer yn neilltuo ychydig o amser ar gyfer digwyddiadau nad ydyn nhw wedi’u cynllunio ymlaen llaw, oherwydd mae pethau annisgwyl yn gallu ymddangos o unman hyd yn oed gyda’r cynllunwyr a'r rheolwyr amser gorau. Gall rheoli amser yn effeithiol helpu i atal rhuthro munud olaf a lleihau straen yn enwedig.

Rwy’ hefyd wedi dysgu cyflawni tasgau yn nhrefn blaenoriaeth. Mae ymgymryd â thasgau yn seiliedig ar derfynau amser neu bwysigrwydd, neu’r rhai sydd â blaenoriaeth uchel yn gyntaf, yn helpu i reoli’r llwyth gwaith yn effeithlon ac osgoi’r teimlad fy mod i wedi fy llethu.

Cymryd rhan mewn arferion myfyriol

Cadw dyddiadur

Fe wnaeth cadw dyddiadur fy helpu i fyfyrio ar fy mhrofiadau, adnabod fy mhatrymau straen, a nodi fy strategaethau ar gyfer ymdopi. Roedd ysgrifennu myfyriol hefyd yn arf ar gyfer fy nhwf personol a’m hunanymwybyddiaeth. Roedd bod yn feddylgar ac yn ddiolchgar am fy nhaith yn fy helpu i aros yn bresennol a lleihau gorbryder. Sylweddolais yn ddigon cyflym fy mod i’n gwneud fy ngorau glas ac na alla’ i wneud pob dim. Fe wnaeth yr arferion hyn fy helpu i dawelu fy meddwl, pan ddechreuais feirniadu fy hun yn hallt neu gymharu fy hun ag eraill. Fe wnaeth hefyd wella fy ngallu i ganolbwyntio a’m cynhyrchiant, gan fy atgoffa i y bydd cymharu fy hun ag eraill yn lleihau fy llawenydd.

Ceisio cydbwysedd rhwng eich bywyd academaidd a’ch bywyd personol

Ymgymryd â hobïau a diddordebau

Cymerwch ran mewn gweithgareddau y tu allan i’r byd academaidd sy'n dod â llawenydd ac sy’n eich ymlacio. Mae ymgymryd â hobïau wedi bod yn ffordd dda i mi leddfu straen a dod yn ôl at fy nghoed.

Sylwais hefyd fod cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau, a chynnal cysylltiadau cryf â’m systemau cymorth, yn darparu’r holl gefnogaeth emosiynol a’r ymdeimlad o berthyn yr oedd eu hangen arna’ i, gan wrthbwyso fy nhuedd i orgyflawni. Fe helpodd fi i sylweddoli bod rhai o’r cyflawniadau roeddwn i’n meddwl eu bod nhw’n disgwyl ohono’ i yn bethau gwnes i eu dyfalu yn llwyr. Rwy’n cydnabod y gallai’r sefyllfa fod i’r gwrthwyneb i rai pobl. Yn yr achos hwn, mae’n disgyn arnoch chi i roi gwybod iddyn nhw eich bod chi’n trio eich gorau glas yn barod, a dylen nhw fod yn fwy caredig â’u disgwyliadau felly.

Casgliad

Mae natur gorgyflawni myfyrwyr Du yn y DU a thu hwnt yn dyst i’n gwydnwch, ein huchelgais, a’r systemau cymorth cryf sydd gennyn ni yn ein cymunedau. Er ein bod yn parhau i wynebu heriau systemig, mae’r penderfyniad i ragori a chael effaith gadarnhaol yn parhau’n ddiwyro. Mae’n hollbwysig i sefydliadau addysgol a chymdeithas ein cydnabod fel myfyrwyr a’n cefnogi, gan sicrhau bod gennyn ni’r adnoddau a’r cyfleoedd sydd eu hangen arnon ni i lwyddo. Trwy ddathlu a chefnogi cyflawniadau myfyrwyr Du, rydyn ni nid yn unig yn anrhydeddu ein hymdrechion unigol, ond hefyd yn symud tuag at ddyfodol mwy cynhwysol a theg.

Adolygwyd ddiwethaf: Gorffennaf 2024