Yn ôl ar ôl blwyddyn i ffwrdd ac mae fy ffrindiau eisoes wedi graddio

Gareth Hughes

Gareth Hughes yw Arweinydd Clinigol Student Space ac mae'n seicotherapydd, ymchwilydd ac awdur ar lesiant myfyrwyr, gan gynnwys y llyfr Be Well, Learn Well.

Os ydych chi wedi bod i ffwrdd am flwyddyn ar leoliad, blwyddyn dramor neu absenoldeb awdurdodedig oherwydd salwch neu amgylchiadau eraill, un o'r heriau allweddol fydd yn eich wynebu pan fyddwch yn dychwelyd yw y bydd llawer o'ch ffrindiau wedi cwblhau eu gradd ac wedi graddio tra oeddech i ffwrdd. Er y bydd hyn yn rhoi profiad prifysgol gwahanol iawn i chi, gall fod yn brofiad pleserus a boddhaus.

Gall y ffrindiau sydd gennym ni yn y brifysgol ddiffinio rhan fawr o'n profiad. Felly nid yw'n syndod y gall bod yn ôl yn y brifysgol deimlo'n rhyfedd a chymaint o'r ffrindiau hynny wedi gadael. Efallai y byddwch hefyd yn hiraethu am rai o'ch ffrindiau, a bod yn y lleoliadau a'r amgylcheddau roeddech chi'n arfer eu rhannu yn cryfhau'r teimlad hwnnw.

Ar ôl treulio fy mlwyddyn academaidd ar leoliad dramor yn yr Almaen, byddaf yn gadael y ffordd o fyw a'r drefn rydw i wedi arfer hefo hi, a'r cartref newydd rydw i wedi'i wneud i mi fy hun. Rwyf bob amser yn ei weld yn chwerw-felys fy mod yn gwybod mai cyfnod byrhoedlog yn unig yw hwn.

Er bod hwn yn brofiad cyffredin i'r rhai sydd wedi bod i ffwrdd am flwyddyn academaidd, nid yw'n golygu y bydd yn llywio'ch profiad cyfan. Gallwch gymryd rheolaeth dros eich rhwydwaith cymdeithasol i sicrhau bod eich amser yn parhau i fod yn llawn hwyl, yn foddhaus ac yn bleserus.

Cofiwch, mae gennych chi amrywiaeth o sgiliau a phrofiadau i'w defnyddio – o gwblhau'r cyfnod pontio i'r brifysgol yn y flwyddyn gyntaf ac amser ar leoliad o bosibl neu flwyddyn dramor.

Os ydych yn mabwysiadu dull strwythuredig o wneud ffrindiau ac adeiladu eich bywyd cymdeithasol nawr, mae gennych gyfle i ehangu eich cylch cymdeithasol, cryfhau cydberthnasau presennol a gwneud ffrindiau newydd. Y peth pwysicaf i'w wneud yw rhoi cymaint o gyfleoedd â phosibl i chi'ch hun i ddod o hyd i gylch cymdeithasol sy'n gweithio i chi.

Dyma rai pethau yr hoffech eu hystyried efallai.

Efallai fod rhai o'ch hen ffrindiau o gwmpas o hyd

Er bod rhai o'ch ffrindiau wedi graddio o bosibl, efallai eu bod yn dal i fyw yn yr ardal leol ac yn hapus i gwrdd yn rheolaidd. Er y gallai hyn olygu y bydd eich perthynas yn gweithio'n wahanol ac y bydd rhaid i chi gynllunio mwy, mae yna gyfle o hyd i chi ailgysylltu ac ailgynnau'ch cyfeillgarwch. Efallai y gallwch barhau â'ch cyfeillgarwch â'r rhai sydd wedi symud i ffwrdd yn gorfforol, gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau ar-lein.

Dewch o hyd i ffrindiau sy'n rhannu'r un profiad â chi

Bydd myfyrwyr eraill o'ch cwmpas a gafodd brofiadau tebyg i chi'r flwyddyn ddiwethaf. Efallai eich bod yn adnabod rhai yn barod. Gallwch ddod o hyd i eraill trwy fforymau neu gymdeithasau ar-lein undeb y myfyrwyr neu’r urdd.

Siaradwch â staff yn eich undeb myfyrwyr neu urdd a phostiwch gwestiwn ar fforwm ar-lein. Mae rhai prifysgolion hefyd yn cynnig digwyddiadau croeso’n ôl a chyfleoedd i ail-ymgartrefu yn y brifysgol - gall hyn fod yn gyfle cymdeithasol gwych i chi.

Edrychwch o fewn eich cwrs

Oedd, roedd llawer o'r bobl sydd ar eich cwrs mewn blwyddyn wahanol i chi y llynedd – ond nid yw hynny'n golygu na allant fod neu na fyddant yn ffrind da i chi.

Mae cydberthnasau yn y brifysgol yn aml yn gyfnewidiol. Mae grwpiau cymdeithasol yn newid ac mae pobl yn barod i wneud ffrindiau newydd fel arfer. Mae'r myfyrwyr yn eich ystafell ddosbarth wedi dewis astudio'r un pwnc, felly mae'n debyg y bydd gennych rai pethau yn gyffredin.

Ceisiwch gyflwyno eich hun i eraill yn eich dosbarth – efallai y gall eich tiwtor eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd o gysylltu â myfyrwyr eraill ar eich rhaglen.

Clybiau a chymdeithasau

Nid dim ond ar gyfer myfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf mae clybiau a chymdeithasau undeb y myfyrwyr neu'r urdd. Efallai fod y profiadau a gawsoch tra oeddech i ffwrdd o'r brifysgol wedi rhoi diddordebau newydd i chi. Efallai yr hoffech archwilio rhywbeth newydd, neu efallai fod clwb yr oeddech wedi meddwl ymuno ag ef o'r blaen ond heb fentro.

Defnyddiwch gymorth

Os ydych yn gweld pethau'n anodd ar ôl dychwelyd, gall cael mynediad at gymorth eich helpu. <cymorth prifysgol.>

University support icon

Dod o hyd i wasanaethau cymorth sy'n cael eu darparu gan eich sefydliad addysg.