Sut bynnag rydych chi'n teimlo, mae help ac arweiniad ar gael. Edrychwch ar yr ystod o wybodaeth, gwasanaethau ac adnoddau y gellir ymddiried ynddynt i’ch helpu drwy ansicrwydd bywyd fel myfyriwr.
Mae Student Space yn gallu helpu mewn tair ffordd:
Gwybodaeth a chyngor i'ch helpu drwy heriau bywyd fel myfyriwr
Eich helpu i ddod o hyd i ba gymorth sydd ar gael yn eich prifysgol
Mynediad i wasanaethau cymorth pwrpasol i fyfyrwyr
Mae'r gefnogaeth a ddarperir gan Student Space yn ddiogel, yn gyfrinachol ac yn rhad ac am ddim. Fe’i datblygwyd drwy gydweithio â gwasanaethau, uwch-weithwyr addysg proffesiynol, ymchwilwyr a myfyrwyr i ategu’r gwasanaethau presennol sydd ar gael i fyfyrwyr.
Mae Student Space yn cael ei redeg gan Student Minds, elusen iechyd meddwl myfyrwyr y DU. Ariennir y rhaglen gan Office for Students a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Mae Student Space ar gael i bob myfyriwr addysg uwch ledled Cymru a Lloegr.
Mae Student Space yma i'ch cefnogi chi drwy ansicrwydd bywyd fel myfyriwr.