Gall bywyd yn y brifysgol fod yn anodd os oes gennych chi OCD neu BDD, yn enwedig yn ystod pandemig. Ymunwch ag amgylchedd ar-lein diogel ac agored, sydd wedi’i greu’n benodol ar gyfer myfyrwyr, i archwilio a thrafod yr hyn rydych chi'n ei brofi.
Mae'r pecyn cefnogi ar-lein yn cynnwys:
- Dau grŵpcefnogi y mis
- Sesiwn Gwasanaethau Llywio misol
- Sesiwn siaradwr misol gyda chlinigydd blaenllaw
Darperir y grwpiau cefnogi a'r sesiynau gwybodaeth gan OCD Action, elusen sy'n cefnogi pobl ag OCD a chyflyrau cysylltiedig.
Beth sy'n digwydd yn y grŵp cefnogi?
Mae'r grŵp cefnogi yn lle agored, cefnogol i chi a myfyrwyr eraill siarad am eich profiad o fyw gydag OCD, BDD neu gyflyrau cysylltiedig, a chwrdd a chysylltu â phobl sy'n mynd drwy bethau tebyg.
Mae’r grwpiau’n cael eu harwain gan hwyluswyr gwirfoddol cymwys sydd â phrofiad byw o fod yn fyfyrwyr gydag OCD, BDD neu gyflwr cysylltiedig.
Beth sy'n digwydd yn y sesiynau gwybodaeth?
Yn ogystal â dau grŵp cefnogi y mis, byddwch hefyd yn cael mynediad i sesiwn siaradwr misol gyda chlinigydd blaenllaw yn y maes a sesiwn gwybodaeth Llywio Gwasanaethau misol lle gallwch ddysgu am gael triniaeth ar gyfer OCD, BDD a chyflyrau cysylltiedig.
Mwy o wybodaeth a chofrestru