Cefnogaeth i fyfyrwyr dosbarth gweithiol

Cyfres o weminarau a phodlediadau misol sy'n edrych ar yr heriau mae myfyrwyr o gefndiroedd dosbarth gweithiol yn eu hwynebu yn ystod y pandemig.

Os ydych chi’n fyfyriwr dosbarth gweithiol, efallai eich bod wedi cael rhai anawsterau unigryw eleni. Gallai hyn gynnwys heriau o ran ffitio i mewn neu orfod newid cod, rheoli eich iechyd meddwl neu roi sylw i natur gysylltiedig hil a dosbarth.

Dyma pam rydyn ni wedi ffurfio partneriaeth gyda RECLAIM i gyflwyno rhaglen o weminarau a phodlediadau i gefnogi myfyrwyr o gefndiroedd dosbarth gweithiol.

Mae’r rhaglen yma’n cael ei chyflwyno gan RECLAIM, elusen sy'n cefnogi ac yn cryfhau lleisiau pobl ifanc dosbarth gweithiol.

Cyfres o weminarau

Bydd ein cyfres o weminarau’n edrych ar yr heriau mae myfyrwyr dosbarth gweithiol wedi'u hwynebu yn ystod y pandemig.

Bydd pob gweminar yn seiliedig ar thema benodol o brofiadau myfyrwyr dosbarth gweithiol. Byddant yn cynnwys y canlynol:

  • Cyfraniadau gan fyfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr
  • Awgrymiadau a chyngor ar gyfer goresgyn heriau sy'n gysylltiedig â bywyd myfyrwyr dosbarth gweithiol
  • Cyfleoedd i gymryd rhan mewn sesiynau holi ac ateb a thrafod