Mae’r gyfres hon o sesiynau gweithdy ar-lein ar gyfer myfyrwyr LDHTQ+ a’u cyfeillion yn darparu man diogel sy’n edrych ar sut i wella diogelwch myfyrwyr LDHTQ+ a’u grymuso â gwybodaeth ymarferol.
Mae’r sesiynau hyn yn cael eu cynnal gan Galop, elusen sy’n darparu cefnogaeth ar gyfer y gymuned LDHTQ+ ar therapi trosi, troseddau casineb, trais rhywiol, cam-drin domestig, a mathau eraill o gam-drin.
Pynciau Gweithdy
Rydym yn cynnal gweithdai ar dri phwnc:
Troseddau casineb gwrth-LHDT+: gan gynnwys troseddau casineb yn y DU, y gyfraith, effeithiau, rhwystrau croestoriadol o ran cael cefnogaeth, ac arferion gorau ar gyfer cefnogi myfyrwyr sy'n profi troseddau casineb Gwrth-LHDT+.
Cam-drin a thrais o fewn perthnasoedd LHDTQ+: gan gynnwys gosod ffiniau, rheolaeth orfodol wrth gyfathrebu ac ymddygiad sy’n cam-drin, a ble i gael mwy o wybodaeth a chefnogaeth.
Therapi trosi: yn canolbwyntio ar brofiadau cyfredol o'r hyn a elwir yn “therapi trosi”, y bwriadau y tu ôl i'r arfer, a sut i wneud cefnogaeth yn hygyrch i ddioddefwyr a goroeswyr.
Sut i gofrestru
Gallwch ddod o hyd i ddyddiadau ac amseroedd y sesiynau, a chofrestru ar gyfer y gweithdai, gan ddefnyddio ffurflen Gallop ar y we. Cofrestrwch ar gyfer y pynciau y mae gennych ddiddordeb ynddynt. Bydd Galop yn gallu argymell gwasanaethau ar gyfer pob rhanbarth unigol, ond mae croeso i chi ymuno â sesiynau mewn unrhyw ranbarth.
Cofrestru ar gyfer gweithdy
Beth sy’n digwydd yn y gweithdy?
Mae Galop yn cynnig y gyfres hon i wella gallu myfyrwyr LHDT+ i adnabod cam-drin, dysgu ble a sut i gael cefnogaeth, a theimlo wedi'u grymuso i gefnogi ei gilydd.
Bydd pob sesiwn yn darparu man diogel i edrych ar y profiadau unigryw sydd gennych chi fel myfyriwr LHDT+ yn y brifysgol, a chynnig technegau i reoli’r heriau y gallech chi neu’ch ffrindiau LHDTQ+ eu hwynebu.
Mae’r sesiynau’n cael eu harwain gan hyfforddwr LHDTQ+ arbenigol, sy'n gwybod am drawma.
Sut i ymuno â sesiwn
Bydd y sesiynau gweithdy am ddim hyn yn cael eu cynnal ar-lein. Gallwch ymuno â sesiwn gyda myfyrwyr LHDTQ+ a chyfeillion o'ch prifysgol eich hun, neu sesiwn agored gyda myfyrwyr LHDTQ+ a chyfeillion o wahanol brifysgolion ledled y wlad.
- Ydi’r gwasanaeth yn gyfrinachol?
Mae’r gweithdai yn ofod cyfrinachol, a bydd yr hwylusydd yn gosod rheolau sylfaenol gan annog parch a chyfrinachedd ar ddechrau pob sesiwn. Mae croeso i fyfyrwyr gadw eu camera i ffwrdd neu newid eu henw ar zoom er mwyn cael preifatrwydd pellach os ydynt yn dymuno.
Mae'r sesiynau gweithdy hyn yn cael eu cynnal gan hwyluswyr sydd wedi'u hyfforddi mewn diogelu a chyfrinachedd.
Gall hyfforddwyr gasglu data demograffig ar gyfer adrodd, fodd bynnag, bydd y data’n ddienw ac ni fydd modd adnabod cyfranogwyr yn bersonol.
- Ydi’r gwasanaeth am ddim?
Ydi, mae’r sesiynau hyn am ddim.
- Ydw i’n gallu cofrestru am fwy nag un sesiwn?
Ydych, gallwch gofrestru am fwy nag un sesiwn os oes gennych chi ddiddordeb mewn mwy nag un pwnc.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach, mae croeso i chi anfon e-bost i training@galop.org.uk
- Allwch chi ddarparu ar gyfer anghenion mynediad?
Rydyn ni'n hapus i ddarparu ar gyfer eich anghenion mynediad, gan gynnwys cyfieithu gydag Iaith Arwyddion Prydain.
Nodwch eich anghenion mynediad ar y ffurflen gofrestru a bydd aelod o'n tîm yn cysylltu â chi i drafod.