Cefnogaeth i fyfyrwyr Du
Gall dod o hyd i'r bwyd, gofal gwallt ac adloniant cywir fod yn anodd i fyfyrwyr o gefndiroedd Du. Dewch o hyd i'r gwasanaethau sydd eu hangen arnoch i deimlo'n gartrefol tra'n byw yn y brifysgol.
Cyfeiriadur Gwasanaethau Du
About the Black Services Directory
Ysgrifennwyd gan: Nanu Viatoshir, Tîm Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwysiant yn Natixis Investment Managers, a raddiodd o Ysgol Economeg Llundain yn 2023
Mewn unrhyw amgylchedd, rydym i gyd eisiau teimlo ein bod yn cael ein clywed, ein gweld a’n
croesawu, a dyna pam mae gwasanaeth y Cyfeiriadur Du yn adnodd gweddnewidiol i gynnal llesiant
myfyrwyr Du mewn addysg uwch.
Mae yna lawer o resymau pam mae myfyriwr yn dewis prifysgol, ond yn aml mae un ffactor allweddol
yn amlwg. I fi, fel menyw Ddu, y cwestiwn oedd a fyddwn i’n teimlo’n gyfforddus fel unigolyn Du. Gyda
hyn mewn golwg, dewisais fy mhrifysgol ar sail y sicrwydd y gallwn aros mewn cysylltiad â’m
diwylliant a chofleidio fy hunaniaeth Ddu. Roedd y cyffro o allu neidio ar fws i gael bwyd blasus
Affricanaidd, llenwi fy nghegin â sbeisys cyfarwydd, neu ailstocio fy nghynnyrch gwallt yn wirioneddol
fendigedig!
Gwnaeth hyn fy helpu i fwynhau fy mhrofiad yn y brifysgol, ac i wneud y gorau ohono, ac ni fyddwn
wedi gwneud pethau’n wahanol. Fodd bynnag, roedd yna elfen o gael fy nghyfyngu o ran fy
newisiadau yn ystod y chweched dosbarth oherwydd yr ofn na fyddai gennyf ymdeimlad o berthyn
rywle arall. Ni ddylai lliw croen fod yn rhwystr i bobl ifanc wireddu eu dyheadau neu freuddwydion, a
phe bai gennyf adnodd y Cyfeiriadur Du yn ystod fy mhroses ymgeisio, byddwn wedi bod yn fwy
agored i brifysgolion mewn gwahanol ranbarthau, a byddai wedi teimlo’n dda gwybod bod gen i
opsiynau. Mae’r Cyfeiriadur Du yn arf trawsffurfiannol i fyfyrwyr eraill wrth iddynt fynd i mewn i’r
bennod newydd hon yn eu bywyd. Bydd yn anhygoel iddyn nhw beidio â gorfod newid eu hunaniaeth
a’i theilwra’n llwyr ar gyfer realiti dieithr am nad yw eu hanghenion diwylliannol yn cael eu diwallu, ac
yn hytrach yn cael eu grymuso i wneud penderfyniadau gwybodus i gofleidio eu hunain yn llawn.
Mae’r brifysgol yn cynnig profiad hollol newydd a chyfnewidiol, ac fel unigolyn ifanc mae’n bwysig
lleihau unrhyw heriau a allai achosi straen, sy’n dda i ddim. Mae’n wirioneddol galonogol gweld
adnodd wedi’i ddatblygu gan fyfyrwyr Du, yn benodol ar gyfer myfyrwyr Du, i’w helpu i deimlo’n
gyfforddus yn y prifysgolion y maen nhw wedi’u dewis. Rydw i’n falch iawn fy mod i’n rhan o’r tîm a
helpodd i greu’r adnodd hwn, ac roedd yn gymaint o ryddhad gwybod bod camau’n cael eu cymryd i
sicrhau nad yw myfyrwyr Duon yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser, wrth wneud eu ceisiadau UCAS
neu wrth chwilio am brifysgol, yn chwilio drwy Google Maps yn bryderus am le a all wneud i’w gwallt
edrych yn wych!
Credaf y bydd yr offeryn hwn yn trawsnewid yn sylweddol sut rydym yn ymgysylltu â’r ffactorau
amrywiol sy’n effeithio ar lesiant myfyrwyr. Gall y brifysgol fod yn daith anhygoel, yn enwedig pan fydd
gennych ymdeimlad o berthyn ac nad ydych chi’n teimlo syndrom y ffugiwr, sy’n gallu bod yn feichus.
Mae cael lle sy’n teimlo fel cartref oddi cartref yn brofiad hyfryd a chysurus.