Leave this site now

Cyngor i pobl sy’n bwriadu dod allan cyn bo hir

Mae Harry Duggan (nhw / nhwythau)

Mae Harry Duggan (nhw / nhwythau) yn fyfyriwr ôl-raddedig cwiar anneuaidd, yn ymchwilydd mewn seicoleg, ac yn weithiwr llais a dylanwad arobryn.

Bydd yr adran hon yn archwilio rhai o’r cynghorion i’r bobl hynny sy’n ystyried dod allan cyn bo hir.

Ydych chi'n gynnar yn eich cyfnod pontio? Dyma erthygl ar wahân gydag awgrymiadau i chi.

Mae cymdeithas yn ddeuaidd iawn, ac mae pobl bob amser yn chwilio am feini prawf a nodweddion i’ch rhoi chi mewn un o’r ddau gategori. Pan fyddan nhw’n cwrdd â chi maen nhw’n debygol o geisio dod o hyd i nodweddion sy’n eich rhoi chi mewn un o’r ddau gategori deuol. Mae hyn yn broblematig i bobl anneuaidd y mae eu hunaniaeth yng nghanol y ddau gategori hyn.

Yn dibynnu ar y ffordd rydych chi’n dewis cyflwyno’ch hun yn gyfforddus, gall hwn fod yn fater nad yw byth yn diflannu’n llwyr. Rwy’n meddwl ei fod yn rhywbeth y mae pobl anneuaidd yn dysgu byw ag ef. Bydd yn cymryd amser, ond rwy’n meddwl eich bod chi’n dod yn unigolyn cryfach o gael eich camryweddu. Ar nodyn cadarnhaol, mae mwy o gydnabyddiaeth o hunaniaethau anneuaidd.

Mae cywiro pobl am eich hunaniaeth yn gallu bod yn flinderus iawn.

Os na fydd pethau’n mynd yn gywir y tro cyntaf, peidiwch â rhoi’r ffidil yn y to. Taith yw hi.

Does byth brys i ddod allan.

Os gwnewch chi gofio unrhyw beth o’r erthygl hon, cofiwch hyn:

  • Mae trawsnewid a dod allan yn daith bwysig

  • Cymerwch eich amser, does dim brys o gwbl

  • Gall fod yn daith anodd, ond byddwch chi’n bennu lan yn gryfach ac yn hapusach o ganlyniad iddi

  • Mae’n iawn gwneud camgymeriadau neu newid eich meddwl ar bethau

  • Byddwch yn garedig tuag atoch chi’ch hun

  • Byddwch yn ddiogel

  • Does dim un ffordd gywir o drawsnewid

1. Pwyso a mesur barn pobl eraill

Mae’n bwysig pwyso a mesur a ydyw’n ddiogel dod allan ai peidio cyn i chi benderfynu gwneud hynny. Gall gofyn cwestiynau cynnil, neu wneud sylwadau sy’n datgelu pa mor oddefgar yw unigolyn, fod yn ffordd dda o wneud hyn. Rhai enghreifftiau fyddai, ‘Roedd rhywun wedi dod allan fel unigolyn traws / anneuaidd yn fy ysgol / gweithle i, a dydw i ddim yn gwybod sut i deimlo am y peth. Beth wyt ti’n ei feddwl?’, neu ‘Mae llawer o sôn wedi bod am bobl draws yn y newyddion yn ddiweddar?’. Gallai brawddegau o’r fath ysgogi unigolyn i rannu ei farn ar y gymuned draws. Cofiwch, os byddai dod allan yn achosi niwed i chi mewn unrhyw ffordd, does dim angen i chi ddod allan eto. Does dim rhaid i chi esbonio pwy ydych chi i neb.

2. Dod allan go iawn

Unwaith y byddwch chi wedi penderfynu a ydyw’n ddiogel dod allan ai peidio, gallwch chi benderfynu sut yr hoffech chi ddod allan. Gall hon fod yn sgwrs anodd, hyd yn oed os ydych chi’n gwybod y bydd pobl yn eich derbyn chi fel yr ydych chi. Os byddai’n anodd cael y sgwrs ar goedd am ba reswm bynnag, gallwch chi ysgrifennu llythyr yn lle hynny. Gall hyn fod yn ffordd haws o ddweud popeth rydych chi am ei ddweud heb ymyrraeth.

Peidiwch â dod allan i bawb ar yr un pryd. Dewch allan yn raddol. Dechreuwch drwy ddweud wrth y bobl rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw fwyaf, a gorffennwch drwy ddod allan i bawb. Os ydych chi’n teimlo nad yw hynny’n gwbl ddiogel, does dim rhaid ichi ddod allan yn gyfan gwbl. Yn lle hynny, dewiswch enw niwtral a dywedwch ei fod yn llysenw y mae eich ffrindiau’n ei ddefnyddio ar eich cyfer. Os ydych chi’n ddibynnol ar rywun, crëwch grŵp cymorth mwy i chi’ch hun. Os ydych chi’n dod allan i’ch teulu, gwnewch gynlluniau rhag ofn nad ydyn nhw’n eich cefnogi.

Mae’n bwysig pwysleisio y gall dod allan fod yn hwyl hefyd os ydych chi yng nghwmni’r bobl gywir. Gallwch chi greu arddangosfa greadigol, cerdyn, cacen ac ati i roi gwybod i bobl am eich hunaniaeth. Mae llawer o wahanol ffyrdd i chi allu dod allan, ac mae pob un ffordd yn ddilys. Chi sydd i benderfynu ar y ffordd orau i ddod allan o ystyried eich sefyllfa chi.

3. Bywyd ar ôl dod allan

Ar ôl dod allan, gallwch chi ddisgwyl bod gan bobl gwestiynau am eich hunaniaeth. Chi ddylai benderfynu faint o wybodaeth rydych chi am ei rhannu. Os bydd cwestiwn yn eich gwneud chi’n anghyfforddus, nid oes angen i chi ei ateb. Mae llawer o bobl draws ac anneuaidd mewn sefyllfa lle maen nhw’n dod allan yn gyson i bobl newydd sydd o’u cwmpas wrth gyflwyno’u hunain.

Casgliad

Os ydych chi wedi cyrraedd mor bell â hyn, gobeithio bod yr erthygl wedi bod yn ddefnyddiol i chi. Yn ddi-os, mae’n debygol nad ydw i wedi cynnwys yr holl gyngor posibl sydd i’w gael i bobl draws sydd yn gynnar yn y broses o drawsnewid, neu sy’n ystyried dod allan cyn bo hir. Wedi dweud hynny, dwi’n meddwl mai ychydig iawn o adnoddau (neu ddim o gwbl) sy’n llwyddo i gwmpasu popeth. Yn hytrach, mae’r cyngor y mae pobl yn ei ddefnyddio yn y broses o drawsnewid yn deillio o gymaint o ffynonellau gwahanol. Mae’r holl gyngor wedi’i greu gan gynifer o bobl wahanol, ac yn cwmpasu cymaint o wahanol brofiadau o fod yn draws ac yn anneuaidd. Felly, dwi’n ymbil arnoch chi i gael cyngor gan gynifer o ffynonellau gwahanol â phosibl er mwyn dysgu gwersi o amrywiaeth eang o brofiadau, nid yn unig i’ch cynorthwyo chi, ond hefyd i wneud i chi deimlo’n fwy cysylltiedig â’r gymuned.

Adolygwyd ddiwethaf: Chwefror 2025
Adolygwyd y dudalen ddiwethaf: Chwefror 2025