Ddim allan eto ond yn meddwl dod allan yn fuan? Dyma erthygl ar wahân gydag awgrymiadau i chi.
Yn bennaf, bydd yr erthygl yn rhoi cyngor i bobl sydd yn gynnar yn y broses o drawsnewid a phobl sy’n ystyried dod allan yn fuan. Mae’r erthygl hon yn cynnwys cyngor gennyf i, fel unigolyn anneuaidd sydd wedi rhyngweithio am dros ddegawd â phobl draws ac anneuaidd, yn ogystal ag elusennau a gweithwyr proffesiynol sy’n cefnogi pobl draws ac yn eirioli drostyn nhw. Mae hefyd yn cynnwys cyngor a phrofiadau pobl draws+ sydd wedi rhoi eu llais i’r erthygl hon.
1. Mae’n iawn os nad ydych chi’n gwybod popeth am eich hunaniaeth ar unwaith
Mae’n iawn os nad ydych chi’n gwybod popeth am eich hunaniaeth ar unwaith. Os nad ydych chi’n siŵr ynglŷn â’r hyn rydych chi ei eisiau o ran trawsnewid – neu a ydych chi hyd yn oed am drawsnewid o gwbl – does dim angen i chi fynd i banig. Mae digon o adnoddau ar-lein a fydd yn dweud popeth wrthych chi am fod yn draws neu’n anneuaidd. Mae rhai o’r adnoddau hyn gan elusennau sy’n dweud wrthych chi sut i ofalu am eich iechyd meddwl, fel Student Minds, tra bod eraill yn cynnig cymorth penodol i bobl LHDTC+, fel Mermaids neu Gendered Intelligence.
Mae straeon pobl ynghylch eu profiadau o fod yn draws neu’n anneuaidd yn ffynhonnell arall o wybodaeth. Ar YouTube, mae pobl â chynulleidfaoedd o feintiau gwahanol wedi siarad am eu taith draws gyfan; o’r foment pan wnaethon nhw sylweddoli eu bod yn draws hyd heddiw. Mae’r rhain yn aml yn fyfyrdodau doniol a gonest o’u bywydau; y da a’r drwg, yr uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau, ac fel llawer o bobl eraill byddwch chi’n sylwi eich bod yn uniaethu â rhai o’r profiadau hyn. Mae fforymau ar-lein hefyd yn fannau lle y gall pobl rannu eu profiadau a gofyn cwestiynau ynglŷn â bod yn draws. Mae gan wefannau fel Reddit isfforymau penodol lle gall pobl draws ddangos undod â’i gilydd a rhannu gwybodaeth ddefnyddiol a chyngor.
Yn y byd go iawn, chwiliwch am gymunedau y mae pobl draws eraill yn perthyn iddyn nhw. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Rydyn ni ym mhobman. Mae llawer ohonon ni wedi llwyddo, o’r diwedd, i ddod yn ôl at ein coed, ac rydyn ni’n awyddus i’ch helpu chi os gwnewch chi’r ymdrech i chwilio amdanon ni. Efallai y byddwch chi hyd yn oed yn rhan o brofiad yr unigolyn hwnnw; felly, weithiau gall y trafodaethau hyn fod yn rhai addysgiadol iawn. Os nad ydych chi’n adnabod unrhyw un sy’n draws neu’n anneuaidd, gallwch chi ddod o hyd i gymdeithasau neu rwydweithiau myfyrwyr ar gyfer pobl LHDTC+ ar gampws eich prifysgol. Mae’r rhain yn cynnig cymorth ac yn fannau diogel ar gyfer myfyrwyr LHDTC+. Yn y mannau hyn, rydych chi’n debygol o ddod ar draws myfyrwyr traws ac anneuaidd a fydd yn barod i roi cyngor i chi. Yn wir, fe ges i lawer o’m cyngor i o’r mannau hyn, ac efallai y byddwch chi hyd yn oed yn gwneud ffrindiau LHDTC+ gydol oes a fyddai’n gallu eich cefnogi chi yn ystod y broses o drawsnewid.
Pan oeddwn i’n cwestiynu fy hunaniaeth i o ran rhywedd am y tro cyntaf, roeddwn i wedi dod allan fel unigolyn deurywiol ers blynyddoedd lawer. Felly, roeddwn i wedi bod yn rhan o’r gymuned LHDTC+ ers peth amser. Roeddwn i wedi fy amgylchynu gan bobl draws ac anneuaidd a oedd eisoes yn y broses o drawsnewid, ac yn deall y profiad o fod yn draws yn dda. Roeddwn i’n gweithio ac yn gwirfoddoli gyda phobl ifanc LHDTC+, felly roedd y profiad o fod yn draws yn rhywbeth roeddwn i’n ei drafod yn aml â phobl draws a’r gweithwyr proffesiynol a fyddai’n eu cefnogi. Felly, drwy osmosis, des i’n eithaf gwybodus am faterion yn ymwneud â bod yn draws.
2. Cymerwch yr holl amser y mae ei angen arnoch chi
Mae’r pwynt cyntaf a’r pwynt hwn yn mynd law yn llaw. Mae trawsnewid yn cymryd amser. Does dim un unigolyn traws, neu anneuaidd, erioed wedi dechrau a gorffen trawsnewid mewn chwinciad chwannen. Cymerwch yr holl amser y mae ei angen arnoch chi i benderfynu’r hyn sydd orau i chi. Does dim brys i ddarganfod pwy ydych chi neu fynd ati i drawsnewid.
Mae’r broses o drawsnewid yn cymryd amser. Mae dadadeiladu eich hun yn cymryd amser. Mae therapi hormonau’n cymryd amser (mae hyn, yn rhannol, o ganlyniad i’r rhestrau aros hir). Dylech roi cynnig ar wahanol opsiynau cymorth a gweld beth rydych chi’n ei hoffi a ddim yn ei hoffi. Ewch ar y cyflymder sy’n gyfforddus i chi, gan ddechrau gyda’r pethau bach.
Mae trawsnewid yn daith hir, ond deuparth gwaith yw ei ddechrau. Mae gennych chi fywyd hir o’ch blaen. Cyn pen dim, byddwch chi’n edrych yn ôl ar y blynyddoedd cynnar yn eich taith ac yn meddwl, ‘Waw, fe wnes i lwyddo; dwi’n ‘fi’ o’r diwedd’. Gallwch fod yn sicr, ni waeth pa mor hir y mae’r daith yn ei chymryd, y byddwch yn cyrraedd eich nod yn y pen draw.
*‘Dadadeiladu eich hun’ yw’r weithred o archwilio a chwestiynu’r lluniadau cymdeithasol o ran rhywedd a bennwyd i chi. Gall hyn, o bosibl, arwain at ddealltwriaeth ddyfnach o’ch hunaniaeth o ran eich rhywedd eich hun, y tu hwnt i’r categorïau deuaidd traddodiadol. Yn aml, mae’r broses yn golygu herio trawsffobia mewnol ac archwilio hunaniaethau anneuaidd neu gwiar-ryweddol.
3. Trawsnewid cymdeithasol
Cyn mynd ati i drawsnewid trwy broses feddygol, mae’r mwyafrif o bobl yn trawsnewid yn gymdeithasol i ddechrau. Mae hon yn ffordd wych o archwilio eich hunaniaeth yn gynnar. Mae rhoi cynnig ar wahanol enwau a rhagenwau i weld pa rai sy’n gweithio orau i chi yn ffordd wych o gychwyn arni. Os oes gennych chi bobl gefnogol yn eich bywyd, gallwch chi gael sgyrsiau gonest â nhw, gan ofyn iddyn nhw i’ch cyfarch chi gan ddefnyddio’r enw a’r rhagenwau sydd orau gennych chi. Os nad ydych chi’n gallu gofyn i rywun yn eich bywyd i’ch cyfarch chi mewn ffordd wahanol, gallwch chi droi at fan diogel ar-lein. Mae’r wefan Pronoun Dressing Room a’r subreddit r/TransTryouts ill dau yn adnoddau gwych ar gyfer hyn. Gallwch chi hefyd arbrofi gyda gwahanol ffyrdd o gyflwyno eich hun, os yw’n ddiogel i chi wneud hynny. Mae toriadau gwallt, dillad, colur, gemwaith ac ati yn gallu bod yn ewfforig iawn, ac yn gallu’ch helpu chi i ddarganfod yr hyn rydych chi’n ei hoffi a ddim yn ei hoffi.
Mae’r brifysgol yn aml yn lle gwych i drawsnewid yn gymdeithasol. Efallai eich bod chi’n byw’n annibynnol ac yn cwrdd â llawer o bobl newydd. Gallwch chi roi cynnig ar enwau a rhagenwau newydd gyda’r bobl newydd rydych chi’n cwrdd â nhw, a gallwch chi ofyn i’ch prifysgol newid eich enw ar y system i’r enw a ffefrir gennych chi.
4. Cynhyrchion sy’n cadarnhau eich rhywedd
Mae cynhyrchion sy’n cadarnhau eich rhywedd yn ffordd wych o’ch helpu chi i liniaru dysfforia rhywedd. Mae’r rhain yn cynnwys rhwymwyr, tâp i bobl draws, pacwyr, gaffiau, padiau ar gyfer eich bra, deunydd siâp bronnau, dillad sy’n gwneud eich corff yn fwy lluniaidd, a mwy. Mae’n bwysig ymchwilio i’r cynhyrchion hyn cyn eu defnyddio er mwyn sicrhau eich bod yn eu defnyddio’n gywir ac yn ddiogel. Mae’n bosibl y gallwch chi wneud niwed i’r corff drwy ddefnyddio rhai o’r cynhyrchion hyn yn anghywir. Wrth ystyried cynhyrchion o’r fath, gall fod yn ddeniadol dewis y cynhyrchion rhataf, ond mewn rhai achosion, dyma’r cynhyrchion sy’n achosi mwy o broblemau yn yr hirdymor. Yn lle hynny, ystyriwch arbed ychydig mwy o arian i brynu cynhyrchion o ansawdd uwch, oherwydd mae’n debygol y byddan nhw wedi’u crefftio’n well ac yn eich cynnal chi’n well.
Os nad yw eich teulu yn eich cefnogi, ond bod ffrind yn gwneud hynny, gallwch chi ofyn i’ch ffrind a allwch chi anfon unrhyw gynhyrchion sy’n cadarnhau eich rhywedd i’w cyfeiriad nhw fel na fydd eich teulu’n gweld y pecyn. Os nad oes gennych chi gyfrif banc, neu os oes gan eich rhieni fynediad i’ch cyfrif chi, gallwch chi roi’r arian ar gerdyn rhodd fel na fydd yn ymddangos ar y cyfriflenni banc. Mae hefyd ffyrdd i ddynwared rhai o’r cynhyrchion ar y rhestr uchod heb orfod prynu’r cynnyrch penodol. Mae tiwtorialau ar sut i wisgo sawl bra chwaraeon i greu rhwymydd, defnyddio bandiau dillad isaf a sanau i greu gaffiau, defnyddio sanau i greu paciwr, creu deunydd padio ar gyfer eich bra a’ch cluniau, ac ati. Gall hyn oll fod yn ddefnyddiol iawn os na allwch chi drawsnewid, neu os nad ydych chi am drawsnewid yn feddygol.
5. Therapïau neu lawdriniaethau hormonau
Os ydych chi’n penderfynu eich bod am ddechrau ar ddulliau cadarnhau rhywedd fel therapi amnewid hormonau (HRT) neu lawdriniaeth, gall fod yn broses hir. Yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw, gall fod yn anodd cael mynediad i’r opsiynau hyn. Bydd ymchwilio i’r gofynion a’r adnoddau sydd ar gael yn eich ardal benodol yn rhoi’r syniad gorau i chi o’r camau y mae angen eu cymryd. I lawer o bobl, mae’n dechrau trwy ddweud wrth eich meddyg, neu weithiwr meddygol proffesiynol arall, eich bod chi’n meddwl y gallech chi fod yn draws. Byddan nhw’n cael trafodaethau â chi am hyn, ac efallai y byddan nhw’n eich annog i geisio diagnosis ganddyn nhw i weld a oes gennych chi ddysfforia rhywedd, neu’n argymell eich bod yn cael diagnosis gan seiciatrydd.
Bydd angen y diagnosis hwn cyn y gallwch chi fynd at endocrinolegydd (meddyg hormonau) a chael presgripsiwn am hormonau. Unwaith y byddwch chi’n dechrau’r broses o amnewid hormonau, mae’n bwysig trefnu profion gwaed rheolaidd gyda’ch meddyg teulu i fonitro eich iechyd.
Pan fyddwch chi’n dechrau cael trafodaethau â’ch meddyg, gofynnwch iddo eich rhoi ar y rhestr aros ar gyfer y clinig rhywedd agosaf atoch chi. Mae’r rhestrau aros presennol yn hir iawn, ond mae hynny’n rhoi digon o amser i chi feddwl am eich penderfyniad. Hefyd, gallwch chi newid eich meddwl unrhyw bryd, a thynnu eich enw oddi ar y rhestr aros os ydych chi’n penderfynu nad yw trawsnewid meddygol yn addas i chi.
6. Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol
Yn achos rhai myfyrwyr rhyngwladol, efallai na fydd eich mamwlad yr un mor oddefgar o hunaniaethau traws, ac yn aml gall hyn ei gwneud hi’n anodd, neu hyd yn oed yn amhosibl, i fynd ati i drawsnewid yn gymdeithasol ac yn feddygol. Yr hyn sy’n bwysig i’w wneud yw. Er gwaethaf hyn, mae’n dal yn bosibl trawsnewid wrth astudio yn y DU.
Mae’r brifysgol hefyd yn lle gwych i drawsnewid yn gymdeithasol gan eich bod chi wedi’ch amgylchynu gan bobl a systemau a fydd yn cefnogi eich trawsnewid cymdeithasol, a gallwch chi ddefnyddio eich enw a’ch rhagenwau newydd. Os byddwch chi byth yn teimlo eich bod chi ar eich pen eich hun wrth drawsnewid, cofiwch nad yw hyn yn wir. Cysylltwch â rhwydweithiau myfyrwyr ar gyfer pobl LHDTC+ neu fyfyrwyr rhyngwladol a gallwch chi gael cymorth yno.