Nid yw bod yn draws yn y brifysgol bob amser yn brofiad hawdd. Weithiau, rydyn ni’n canfod ein hunain mewn sefyllfaoedd lle mae’r pwnc o bobl draws yn codi – boed fel testun trafod, neu wrth siarad am ein profiadau personol.
Gall hyn fod yn arbennig o anodd os nad yw staff neu gyd-fyfyrwyr yn y brifysgol yn ymwybodol o brofiadau pobl draws neu os nad ydynt wedi cael eu haddysgu am y pwnc yn gyffredinol.
Gall hyn fod yn anodd hefyd pan fydd yn effeithio arnom ni’n uniongyrchol. Er enghraifft, pan nad yw pobl yn defnyddio’r rhagenwau, enwau neu derminoleg gywir wrth gyfeirio atom ni.
Y peth pwysicaf i’w gofio yw amddiffyn eich llesiant eich hun, a chofio nad yw safbwyntiau a barn pobl eraill yn newid pwy ydych chi, neu eich profiadau fel unigolyn traws.
Mae’n bwysig nodi nad oes rhaid i chi fod yn llefarydd ar ran pobl draws neu hawliau traws, ac nid oes rhaid i chi dreulio’ch amser yn y brifysgol yn gwneud hyn. Gall hyn fod yn anodd weithiau, er enghraifft, pan fyddwch yn digwydd clywed sylwadau mewn sgwrs neu pan fydd darlithydd yn dweud rhywbeth sarhaus neu anghywir. Ond, weithiau, mae’n bwysig dewis pryd i ymyrryd a phryd i beidio.
Gall fod yn anodd iawn eirioli drosoch eich hun yn gyson. Os ydych chi’n cael trafferth, efallai y byddai’n ddefnyddiol cysylltu â gwasanaeth llesiant myfyrwyr eich prifysgol. Fel arall, gall myfyrwyr ofyn am gyngor eu hundeb myfyrwyr. Gall eich undeb myfyrwyr hefyd eich helpu i lywio materion a chwynion yn annibynnol ar y brifysgol a’i staff. Hefyd, bydd gan y mwyafrif o brifysgolion gymdeithas LHDTCRhA+, a fydd yn aml yn gwybod pa leoedd yw’r gorau i droi atynt.
Mae rhagenwau ac enwau yn bwysig i bob un ohonom – dyna sut yr hoffem gael ein cyfeirio atom, yn ogystal â sut yr ydym yn cyfeirio at bobl eraill. Pan fydd pobl draws yn trawsnewid, rydym yn tueddu i newid un ai ein rhagenw, ein henw, neu’r ddau, ac felly rydym yn gofyn i’r bobl o’n cwmpas i ddefnyddio’r termau newydd hefyd. Efallai na fydd y bobl o’n cwmpas bob amser yn defnyddio’r termau cywir ar y dechrau, ond bydd y mwyafrif yn gwneud hyn yn y pen draw.
Gall hyn fod yn anodd yn y brifysgol, yn enwedig os yw eich cyd-fyfyrwyr ac athrawon yn eich camryweddu neu’n eich camenwi. Pan fydd hyn yn digwydd y peth gorau i’w wneud yw eu cywiro mewn ffordd gwrtais a’u hatgoffa o’r rhagenw neu’r enw cywir. Gall hyn fod yn hynod rwystredig a niweidiol. Mae’n bwysig cydnabod hyn, felly, gan wneud yn siŵr bod pobl yn deall yr effaith y gall hyn ei chael arnoch chi. Gall esbonio iddynt fod hyn yn peri loes i chi, ac yn amharchus, helpu i’w hatgoffa o bwysigrwydd defnyddio’r termau cywir.
Os bydd hyn yn dechrau digwydd yn gyson, yn enwedig os yw’n ddarlithydd neu’n aelod o staff, dylech gysylltu â’r gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr a gofyn iddynt am gymorth. Mae gennych chi hawl i gael eich parchu yn y brifysgol fel pwy ydych chi, ac mae’n rhaid i ddarlithwyr a staff eraill barchu pwy ydych chi a’r ffordd yr hoffech chi gael eich cyfeirio ato.
Sgyrsiau bob dydd anodd yn y brifysgol
Weithiau bydd pobl o’n cwmpas yn dweud pethau anghywir, anwybodus, neu hyd yn oed niweidiol am bobl draws. Gall hyn fod yn anodd, ac mae mynd i’r afael â sefyllfa o’r fath yn gofyn am lawer o ymdrech ac yn gallu achosi llawer o straen.
Y peth pwysicaf i chi yw amddiffyn eich llesiant eich hun. Weithiau rydym yn teimlo’n ddigon cryf i wynebu sefyllfaoedd o’r fath yn uniongyrchol, ond yn aml mae’n cymryd llawer o egni ac ymdrech i wneud hynny, yn enwedig os nad yw pobl yn agored i’n cywiriadau a’n safbwyntiau.
Weithiau gall dweud dim ond un peth newid deinameg sefyllfa – hyd yn oed os mai dim ond ymadrodd syml ydyw. Gallai fod yn rhywbeth tebyg i: “Dydw i ddim yn cytuno â hynny” neu “fel unigolyn traws rwy’n ystyried yr hyn wnaethoch chi ddweud yn sarhaus iawn” neu “nid yw hynny’n wir mewn gwirionedd; o ble cawsoch chi’r wybodaeth honno?”.
Athrawon ac aelodau staff
Os byddwch yn dod yn ymwybodol bod darlithydd neu aelod o staff yn dweud pethau negyddol, anghywir neu hyd yn oed niweidiol am bobl draws yn y brifysgol neu yn yr ystafell ddosbarth, mae hyn yn rhywbeth y mae angen rhoi gwybod i’r gwasanaethau perthnasol amdano, megis y gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr.
Mynediad i doiledau niwtral o ran rhywedd
Mae mynediad i doiledau yn rhywbeth y mae llawer o bobl draws yn poeni amdano yn gyffredinol. Felly, os ydych chi’n teimlo’n nerfus neu’n bryderus am y pwnc hwn, nid ydych chi ar eich pen eich hun. Mae’n bwysig nodi bod gan bobl draws yr hawl, yn ôl y gyfraith, i ddefnyddio cyfleusterau yn unol â’u hunaniaeth o ran rhywedd. Dylent hefyd gael eu parchu a’u cefnogi yn hyn o beth gan y brifysgol a staff. Fodd bynnag, rydym yn gwerthfawrogi y gall hwn fod yn brofiad nerfus, ac y gallai pobl barhau i fod ag ofn cael eu haflonyddu. Os ydych chi’n poeni am hyn, efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi gysylltu â chymorth llesiant myfyrwyr, neu’ch cymdeithas LHDTCRhA+ yn y brifysgol.
Bydd gan fwyafrif y prifysgolion wybodaeth am ble y gallwch ddod o hyd i doiledau sy’n niwtral o ran rhywedd / toiledau ar gyfer pob rhywedd. Felly, y peth cyntaf i’w wneud byddai gofyn ble y gallwch ddod o hyd iddynt, ac a oes dogfen ar gael sy’n rhestru’r holl gyfleusterau o’r fath. Os nad oes un yn bodoli eisoes, gallwch awgrymu bod dogfen o’r fath yn cael ei llunio. Efallai y gallech weithio gyda’ch grŵp myfyrwyr LHDTCRhA+ i eirioli dros hynny.