Osgoi llosgi allan fel actifydd traws
Mae Freddy yn rhannu awgrymiadau a chyngor ar osgoi llosgi allan fel actifydd traws.
Osgoi gorflinder fel unigolyn traws
Fel dyn traws rydw i wedi treulio llawer o’m amser yn eirioli dros fy nghymuned, yn rhedeg grwpiau myfyrwyr, ac yn gweithio gydag elusennau i geisio helpu fy nghymuned i wella. Wrth orffen fy mlwyddyn olaf yn y brifysgol dechreuais deimlo fy mod wedi fy llethu gan faint o waith gwirfoddol yr oeddwn yn ei wneud, ochr yn ochr â’m hastudiaethau a gwaith am dâl. Yn ogystal, roedd hyn ar ddechrau’r etholiad lle’r oedd llawer iawn o rethreg gwrth-draws yn cael ei rannu.
Penderfynais gymryd seibiant o ymgyrchu tra’n astudio fy ngradd Meistr i gymryd amser i ddod yn ôl at fy nghoed.
Er mwyn gwneud hyn, gwnes i’r canlynol:
Dileu pob ap newyddion am chwe mis
Dileu llawer o apiau cyfryngau cymdeithasol
Treulio amser mewn gardd gymunedol a chyda grŵp crefft ar gyfer unigolion cwiar
Treulio amser gyda ffrindiau i ffwrdd o ymgyrchu
Mynd i ofodau ar gyfer unigolion trawsryweddol, ond nid eu trefnu
Anelais at leihau faint o amser y byddwn yn eu dreulio yn rhyngweithio â lleisiau gwrth-draws, ac yn lle hynny canolbwyntiais arnaf fy hun a’m cymuned mewn ffyrdd eraill. Roedd bod mewn gofodau cyfeillgar a chefnogol ar gyfer unigolion cwiar, yn hytrach na chanolbwyntio ar faterion a phroblemau yn unig, yn fy ngalluogi i fod yn rhan o’r gymuned heb deimlo fy mod yn gweld pobl a oedd yn fy nghasáu yn gyson.
Gall camu i ffwrdd deimlo’n hunanol. Yn bendant, roeddwn i’n teimlo braidd yn euog. Gall fod yn aneglur pwy fydd yn gwneud rhai rolau yn eich lle, neu a fydd rhai mentrau yn parhau, ond yn y tymor hir mae’r cyfnod hwn o orffwys wedi fy ngalluogi i ganolbwyntio ar fy ymdrechion o’r newydd, ac i ddod yn eiriolwr gwell ac iachach ar gyfer fy nghymuned. Fe wnaeth rhai unigolion eraill gymryd yr awenau, a newidiodd rhai prosiectau. Daeth rhai o’r pethau y byddwn i’n ei wneud i ben, ond dechreuodd prosiectau newydd eraill.
Dychwelyd ac ail-werthuso
Wrth ddychwelyd at fy ngwaith eirioli datblygais ddull llawer mwy pwrpasol. I wneud hyn edrychais ar beth oedd yn cael yr effaith fwyaf negyddol ar fy iechyd meddwl, fel edrych ar adrannau sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol. Edrychais hefyd ar yr hyn a fyddai’n helpu fy iechyd meddwl, megis prosiectau meithrin perthynas cymunedol. Edrychais hefyd ar ble roeddwn i’n gorweithio, fel gwneud llawer o waith am ddim ar gyfer prosiectau amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant y brifysgol, pan ddylwn fod wedi cael fy nhalu.
Fy nghyngor i unrhyw ymgyrchydd sy’n gorweithio yw cymryd cam yn ôl a phwyso a mesur. Gall hyn fod yn benwythnos, ychydig o fisoedd, neu hyd yn oed ychydig o flynyddoedd. Roedd yn ddefnyddiol rhestru’r pethau roeddwn yn eu gwneud, ac yna eu rhoi mewn tri chategori.
Mae rhai pethau’n flinderus ond yn ddefnyddiol. Gwnewch y rhain mewn ffordd gynaliadwy, a gofynnwch am help os oes angen. Nid yw popeth yn flinderus a gall y pethau hynny helpu unigolion eraill. Gwnewch y rhain gymaint â phosibl. Mae rhai pethau’n flinderus ac nid ydynt yn ddefnyddiol i chi nac i unigolion eraill. Ceisiwch beidio â’u gwneud. Cadwch bethau dan reolaeth, a gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n gwneud mwy nag y gallwch chi ymdopi ag ef. Peidiwch â theimlo cywilydd am ddweud ‘na’.
Penderfynais wneud y canlynol:
Canolbwyntio fy ngwaith gwirfoddol ar ymdrechion cymunedol lleol sy’n cael effaith.
Parhau i ganolbwyntio ar ymchwil i helpu’r gymuned draws, gan ddechrau Doethuriaeth mewn gofal iechyd ar gyfer unigolion traws.
Peidio â derbyn gwaith eirioli di-dâl na fyddai’n cael ei wneud yn y gymuned. Ni fyddwn yn gweithio i gwmnïau neu reolwyr prifysgol am ddim.
Parhau i gyfyngu ar fy nefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol, a darllen mwy o lyfrau yn lle hynny i ehangu fy ngwybodaeth.
Cael fy newyddion o ffynonellau credadwy a chaniatáu fy hun i anwybyddu rhethreg gwrth-draws os byddai’n effeithio ar fy iechyd meddwl.
Parhau i ganolbwyntio ar fy iechyd meddwl gyda therapydd.
Gall fod yn hawdd teimlo eich bod wedi’ch llethu a’ch bod yn dioddef o orflinder. Gall rhoi o’ch amser i bwyso a mesur, i ganolbwyntio arnoch chi’ch hun a chamu i ffwrdd eich caniatáu i wneud cynllun a gweld ble mae’n well i chi ddefnyddio’ch egni. Os ydych chi’n teimlo eich bod yn dioddef o orflinder, wedi blino, neu wedi eich llorio, byddwn yn cymryd amser i weithio allan pa rannau o’ch bywyd sy’n gwneud i chi deimlo fel hyn. Rhowch lai o sylw i agweddau ar eich bywyd sy’n fwy negyddol na chadarnhaol.
Gofynnwch i chi’ch hun: A ydyw hyn yn werth fy amser a’m hegni?
Nid yw unigolion yn ffynonellau o egni di-baid sy’n gallu ymroi eu hunain o hyd. Mae gennym egni cyfyngedig y dylem ei roi â gofal a thosturi. Mae gwaith cymunedol yn hanfodol, ond mae’n rhaid inni ei wneud mewn ffordd sy’n gynaliadwy fel y gallwn barhau i’w wneud yn y dyfodol.