Helo, Harry ydw i (‘nhw’), cyd-awdur arall yr erthygl hon. Rwy’n fyfyriwr cwiar sy’n astudio gradd Meistr trwy wneud gwaith ymchwil, ac mae gennyf frwdfrydedd mawr dros ddyrchafu lleisiau pobl LHDTC+ gyda’r nod o wella’u bywydau. Ces i fy mhennu’n wryw adeg geni, felly mae fy safbwynt i o fod yn anneuaidd yn cael ei ddylanwadu gan y ffordd rwy’n llywio’r hunaniaeth anneuaidd, a gofodau cwiar, fel rhywun sy’n aml yn cael ei ystyried yn wryw, a’r anawsterau y gall pobl fel fi eu hwynebu.
Mae bod yn anneuaidd a’r hunaniaeth anneuaidd yn gymhleth, ond mae’n rhywbeth hynod o arbennig. I mi, mae’n ymwneud â pheidio â pherthyn i’r categorïau traddodiadol deuaidd o rywedd. Dydw i ddim yn wryw, a dydw i ddim yn fenyw. Rwyf i rywle yn y canol, ac rwy’n hapus â hynny. I eraill, mae eu safbwyntiau ar hunaniaethau anneuaidd yn fwy cymhleth. Mae’n llawer anoddach egluro i rywun nad yw eich hunaniaeth o ran rhywedd yn cyd-fynd â’r categorïau traddodiadol deuaidd o ran rhywedd oherwydd bod cymdeithas wedi atgyfnerthu canfyddiad penodol iawn o rywedd dros filoedd o flynyddoedd.
Syndrom y ffugiwr
Wrth siarad â phobl, rwy’n gwybod bod syndrom y ffugiwr yn broblem y mae nifer o fyfyrwyr anneuaidd yn ei hwynebu. Caiff syndrom y ffugiwr ei ddiffinio fel ‘patrwm o brofiadau seicolegol lle mae unigolyn yn amau ei gyflawniadau a’i brofiadau, ac mae ganddo deimladau mewnol parhaus o gael ei ddatgelu fel ffugiwr’ (Langford a Rose Clance, 1993; Mak, ac eraill, 2019). I fi, mae syndrom y ffugiwr yn aml yn teimlo fel peidio â bod yn “ddigon traws” i fod yn draws, nac yn “ddigon cisryweddol” i fod yn gisryweddol, ac mae sawl rheswm sy’n ysgogi’r teimlad hwnnw.
Yn gyntaf, mae cymdeithas yn ystyried hunaniaeth cisryweddol a thraws fel rhywbeth deuaidd. Mae yna gred gyffredin bod pobl draws anneuaidd wedi cael eu “geni yn y corff anghywir”. Mae’r syniad hwn yn helpu llawer o bobl gisryweddol (pobl y mae eu hunaniaeth o ran rhywedd yn cyfateb â’r rhywedd a bennwyd iddynt adeg geni) i ddeall y profiad traws yn well, fel unigolyn sydd am newid i rywedd sy’n cyd-fynd yn well â sut maen nhw’n teimlo “ar y tu mewn”. Mewn gwirionedd, mae’r naratif hwn yn eithaf niweidiol i bobl draws a phobl anneuaidd. Mae’n ei gwneud hi’n anoddach uniaethu fel unigolyn traws, gan fod llawer o bobl anneuaidd yn teimlo eu bod wedi’u gwahanu oddi wrth y rhywedd a bennwyd iddynt adeg geni, ond nad ydyn nhw byth yn teimlo’n “ddigon traws” gan nad ydyn nhw’n teimlo’r “awydd” i gyd-fynd â’r system ddeuaidd draddodiadol o ran rhywedd, ond yn hapus i fod rhywle yn y canol yn lle hynny. Mae hefyd yn anoddach esbonio eich hunaniaeth i rywun sy’n deall rhywedd fel rhywedd deuaidd. Mae’n rhaid i chi ddechrau trwy egluro nad yw rhywedd yn ddeuaidd. Wedyn, gallwch esbonio bod eich hunaniaeth yn disgyn y tu allan i’r system ddeuaidd, ac mewn gwirionedd ar sbectrwm rhywedd sy’n fwy hyblyg.
Yn ail, mae yna gred gyffredin bod pobl draws yn newid eu henwau, yn casáu eu cyrff, ac eisiau eu cuddio neu eu newid, sy’n achosi trallod iddyn nhw. Y term ar gyfer hyn yw dysfforia rhywedd. Er bod hyn yn wir am rai pobl anneuaidd, gall y bobl anneuaidd hynny sy’n dewis peidio â newid eu henwau, neu nad ydyn nhw’n teimlo dysfforia (neu sy’n teimlo rhywfaint o ddysfforia) deimlo nad ydyn nhw’n “ddigon traws”, oherwydd efallai y byddan nhw’n teimlo nad ydyn nhw’n cyd-fynd â’r hyn y mae cymdeithas yn disgwyl i unigolyn anneuaidd ac unigolyn traws deimlo am ei hun. Mae’n anodd hefyd osgoi’r ddau gategori rhywedd traddodiadol pan fo enwau’n tueddu i fod yn benodol i rywedd penodol. Mae pobl yn aml yn rhagdybio eich rhywedd yn seiliedig ar eich enw, ac mae’n rhaid ichi oresgyn y camsyniad hwn cyn cyflwyno’ch hun hyd yn oed.
Eto, i fi, fel rhywun sydd â dim ond ychydig bach o ddysfforia nad yw’n aml yn amlwg o ddydd i ddydd, rydw i’n gallu gwisgo, fwy neu lai, pa ddillad bynnag rydw i eisiau eu gwisgo a pheidio â phoeni gormod am sut y gallai hyn effeithio ar fy nysfforia i. Fodd bynnag, mae hyn yn gwaethygu fy mhrofiad o syndrom y ffugiwr oherwydd rwy’n clywed pobl drawsrywiol ac anneuaidd eraill yn siarad am eu dysfforia a sut maent yn cael trafferth i’w oresgyn. O’i gymharu â’u profiadau nhw, fel y soniais yn gynharach, rwy’n aml yn teimlo “ddim yn ddigon traws” gan fod fy nysfforia yn effeithio llai arna i. Mae’n wir y gall unrhyw faint o ddysfforia y mae rhywun yn ei deimlo fod yn ddilys, ac nid yw’n annilysu eich hunaniaeth fel unigolyn anneuaidd.
Yn drydydd, disgwylir bod pobl anneuaidd yn gwisgo mewn steil androgynaidd i gyd-fynd â’r ystrydeb bod pobl anneuaidd rhywle yng nghanol y sbectrwm ‘deuaidd’, a phan nad ydych chi’n gwisgo mewn ffordd benodol, dydych chi ddim “yn ymdrechu’n ddigon caled” i “edrych fel rhywun anneuaidd”. Mae cymharu eich hun ag eraill hefyd yn gallu ysgogi syndrom y ffugiwr. Pan fyddwch chi’n gweld pobl anneuaidd eraill sy’n “fwy androgynaidd”, efallai y bydd hyn yn eich ysgogi i feddwl y gallech chi fod yn fwy androgynaidd eich hun er mwyn mynegi eich hun yn well fel unigolyn anneuaidd. Mewn gwirionedd, ni ddylai pobl anneuaidd orfod gwisgo mewn steil androgynaidd er lles unrhyw un, a dylen ni fod yn gyfforddus yn cyflwyno ein hun ym mha bynnag ffordd rydyn ni am wneud hynny, a bod yn hapus â hynny.
Yn bedwerydd, mae rhai carfanau o gymdeithas yn credu nad yw pobl draws, mewn gwirionedd, yn perthyn i’r rhywedd a ddewiswyd ganddyn nhw, a’u bod yn “ffugio”, neu ddim yn bodloni’r ystrydebau gofynnol o ran rhywedd, i gael eu hystyried fel yr hunaniaeth a ddewiswyd ganddyn nhw. Mae hyn yn gallu creu llawer o hunan-amheuaeth ynghylch pa mor ddilys yw eich hunaniaeth, ac mae’n gallu bod yn niweidiol i bobl gisryweddol a thraws, gan gynnwys pobl anneuaidd. A ydych chi’n bodloni’r disgwyliad hwnnw o fod yn ddigon pell oddi wrth y categorïau rhywedd traddodiadol i gael eich ystyried yn drawsryweddol a/neu anneuaidd? Mae’r teimlad hwn yn fwy amlwg mewn gofodau ar gyfer menywod ac unigolion sy’n meddu ar hunaniaethau o ran rhywedd lleiafrifol. Fel unigolyn a gafodd ei bennu’n wryw adeg geni, ac yn unigolyn gwrywaidd anneuaidd, weithiau rwy’n gallu teimlo nad ydw i’n perthyn ac yn cwestiynu dilysrwydd fy hunaniaeth i. Mae’r gofodau hyn ar gyfer pobl sy’n aml yn cael eu gormesu gan y patriarchaeth mewn ffordd systematig, ond fel unigolyn gwrywaidd anneuaidd, rwy’n elwa’n anfwriadol ar y patriarchaeth gan fy mod wedi cael fy mhennu’n wryw adeg geni. Ar yr un pryd, trwy uniaethu fel unigolyn anneuaidd, rydych chi’n cael eich gwthio i’r cyrion gan y patriarchaeth drwy ildio eich hunaniaeth fel gwryw. Felly, efallai fod y gofodau hyn yn addas i fi wedi’r cyfan (wrth gwrs eu bod nhw!).
Yn olaf, fel unigolyn anneuaidd a bennwyd yn wryw adeg geni, mae gwrywdod gwenwynig yn gallu bod yn broblem. Mae yna lawer o bwysau mewn cymdeithas i “fod yn ddyn”, ac i rai unigolion a bennwyd yn wrywod adeg geni, gall fod yn anodd cael y cyfle i archwilio eich hunaniaeth yn ddiogel pan fo disgwyliad bod yn rhaid i chi gymryd eich lle mewn cymdeithas “fel dyn”. Yn gyffredinol, mae yna hefyd ddiffyg difrifol o ran cynrychiolaeth gwrywaidd anneuaidd yn ymwneud ag unigolion a bennwyd yn wrywod adeg geni. Mae hyn yn golygu bod llawer o bobl anneuaidd wrywaidd, a bennwyd yn wrywod adeg geni, yn aml ddim yn teimlo’n “ddigon traws” oherwydd “nid yw pobl fel fi yn gallu bodoli” neu “dim ond dyn benywaidd ydw i”. Pan fydd unigolyn anneuaidd a bennwyd yn wryw adeg geni yn ceisio cyflwyno delwedd o’i hun sy’n wahanol i’r ddelwedd wrywaidd ystrydebol, trwy gyflwyno delwedd o’i hun fel unigolyn mwy androgynaidd trwy wisgo dillad a cholur penodol, mae’n aml yn cael ei ystyried yn ddyn hoyw cisryweddol neu’n fenyw draws. O’m profiadau personol i fel rhywun â gwallt hir, sy’n mwynhau gwisgo sgertiau a ffrogiau, ac sy’n paentio fy ewinedd neu’n steilio fy ngwallt, rwy’n aml yn cael fy ystyried yn ddyn hoyw cisryweddol yn hytrach nag unigolyn anneuaidd sy’n mynegi ei hunaniaeth drwy wisgo’r dillad rydw i am eu gwisgo.
Datrysiadau
Er gwaethaf yr holl ffactorau hyn sy’n tanategu syndrom y ffugiwr, rydyn ni, fel cymuned anneuaidd, yn dal i fynd! Mae hyn oherwydd bod ein hunaniaeth yn ddilys, ni waeth sut rydyn ni’n dewis uniaethu.
Mae’n bwysig cofio nad yw pobl gisryweddol yn teimlo eu bod wedi’u datgysylltu o’r rhywedd a bennwyd iddynt adeg geni, yn wahanol i bobl draws. Bydd y mwyafrif o bobl gisryweddol yn pendroni am eu hunaniaeth o ran rhywedd, yn cydnabod nad yw’n rhywbeth sy’n wahanol i’r ffordd y maen nhw’n teimlo, ac felly byddan nhw ddim yn meddwl am y peth eto. Os ydych chi’n teimlo nad ydych chi’n meddu ar hunaniaeth ddeuaidd, dydych chi ddim yn meddu ar hunaniaeth ddeuaidd. Os ydych chi’n teimlo eich bod chi’n meddu ar hunaniaeth anneuaidd, rydych chi’n anneuaidd.
Yn gymdeithasol, mae’n bwysig amgylchynu’ch hun gan y bobl hynny sy’n derbyn ac yn dathlu eich hunaniaeth. Rhai o’m hadegau mwyaf hapus i yw’r rhai lle rydw i wedi fy amgylchynu gan bobl LHDTC+ sy’n gwneud i mi deimlo’n hapus ac yn hyderus am fy hun ni waeth beth! Mae modd cwrdd â phobl o’r fath ar gampws y brifysgol mewn gofodau ar gyfer myfyrwyr LHDTC+, fel cymdeithasau LHDTC+, rhwydweithiau myfyrwyr, ac oddi ar y campws hefyd, mewn grwpiau lleol ar gyfer pobl draws.