Helo, X ydw i, un o gyd-awduron yr erthygl hon. Rwy’n rhyweddhylifol, yn banrywiol ac yn defnyddio’r rhagenw ‘nhw’. Rwy’n unigolyn Du (o Nigeria, yn benodol), sy’n peri anawsterau ynddo’i hun. Ysgrifennwyd yr erthygl hon gennyf i a dau awdur arall sy’n anneuaidd. Roedden ni eisiau rhannu ein profiadau gwahanol a dangos, er ein bod ni i gyd yn fyfyrwyr anneuaidd, bod ein profiadau a’n hunaniaethau yn gallu golygu pethau gwahanol iawn. Rwy’n rhyweddhylifol (wedi fy mhennu’n fenyw adeg fy ngeni – AFAB), sy’n rhan o’r categori ‘anneuaidd’, ac mae hyn yn golygu nad yw fy rhywedd yn ‘sefydlog’. Mae’n newid llawer i mi, a phan wnes i ddarganfod gyntaf fy mod i’n rhyweddhylifol, roedd yn anodd imi ddeall y cyfan. Roedd egluro’r peth i bobl eraill yn anoddach fyth. Roedd gen i broblem enfawr gyda phethau fel rhagenwau, ynghyd â’r dysfforia a’r anesmwythder rwy’n dal i deimlo o bryd i’w gilydd hyd heddiw.
Yr hunaniaeth ‘anneuaidd’: llywio’r heriau a ddaw yn sgil bod yn fyfyriwr anneuaidd
Rhan un o gasgliad o erthyglau a ysgrifennwyd o safbwyntiau tri myfyriwr anneuaidd. Mae'r erthyglau'n trafod rhai o'r anawsterau a wynebir gan fyfyrwyr a all fod ar y sbectrwm anneuaidd a sut i ddelio â nhw.
Ffeithiau, ffigurau ac ystadegau
Mae adroddiadau arbenigol ar gael ar gyfer unigolion anneuaidd, er nad oes llawer ohonyn nhw. Yn eu plith, y mae’r adroddiad anneuaidd gan Scottish Trans Alliance. Defnyddiodd yr adroddiad ddata o arolwg a gwblhawyd yn 2015 gan unigolion anneuaidd yn y Deyrnas Unedig. Mae’r arolwg wedi taflu goleuni ar eu profiadau, ac mae rhai ystadegau yn tynnu sylw at y problemau a wynebir gan bobl anneuaidd. Er enghraifft, wrth gael mynediad at wasanaethau, fel cymorth iechyd, y profiadau mwyaf cyffredin a adroddwyd oedd y canlynol:
Unigolion anneuaidd yn teimlo bod yn rhaid iddyn nhw esgus bod yn wryw neu’n fenyw er mwyn cael eu derbyn gan bobl eraill (80.2%)
Yr enw a’r rhagenw anghywir yn cael eu defnyddio trwy gamgymeriad wrth gyfeirio atyn nhw (66.9%)
Cwestiynau yn cael eu gofyn iddyn nhw am bobl anneuaidd a oedd yn gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn addysgu pobl eraill (49.0%)
Mae’r rhain yn brofiadau cyffredin i bobl anneuaidd, hyd yn oed wrth gael mynediad at wasanaethau, ac mae hyn yn rhywbeth y mae pob un ohonom wedi’i drafod i raddau amrywiol. Efallai fod ein herthygl yn sôn am ein profiadau goddrychol fel unigolion anneuaidd, ond mae yna ffeithiau gwrthrychol sy’n dangos bod nifer o bobl anneuaidd yn cael profiadau a heriau tebyg iawn i’n rhai ni.
O ran myfyrwyr anneuaidd, roedd erthygl mewn cyfnodolyn wedi ymchwilio i brofiadau myfyrwyr anneuaidd mewn addysg uwch yn y DU, a rannodd rai ystadegau diddorol a oedd yn taro tant yn fawr. O ran gweinyddiaeth y brifysgol, soniodd myfyrwyr am rai problemau yr oedden nhw wedi dod ar eu traws:
Ymatebodd myfyrwyr eu bod am ddefnyddio dynodwyr rhywedd neu ragenwau priodol ond nad oedden nhw’n gallu gwneud hynny
Yn ogystal, nid oedd myfyrwyr yn gallu newid eu henwau na nodi pa enw a fyddai’n well ganddyn nhw
Dywedodd rhai myfyrwyr nad oedden nhw’n gallu newid eu teitlau i opsiwn o’u dewis, e.e. ‘Mx’, na hepgor y teitl yn gyfan gwbl
Roedd dyfyniadau yn yr erthygl yn taflu llawer o oleuni ar bethau, yn enwedig y rhai a oedd yn cyfleu’r teimlad bod y byd academaidd yn annilysu a dileu agweddau ar hunaniaeth bobl anneuaidd:
Yn bennaf, gadewais i’r brifysgol gan deimlo na fyddai fy rhywedd i byth yn cael ei gydnabod na’i ddilysu mewn unrhyw sefyllfa byd gwaith neu ‘swyddogol’, ac mai dim ond mewn sefyllfaoedd cymdeithasol, ymhlith pobl a oedd yn ymwybodol o faterion yn ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol y byddai hynny’n digwydd.
Fodd bynnag, roedd gan y myfyrwyr farn mwy cadarnhaol am y cymunedau a oedd yn cefnogi eu hunaniaeth:
Roeddwn i hefyd yn teimlo fy mod i wedi cael fy nilysu fwy nag erioed. Roedd dod o hyd i gymuned o unigolion o’r un anian a oedd yn fy nghefnogi i o ran fy hunaniaeth wedi fy ngwneud i gymaint yn fwy hyderus am bwy ydw i, ac am ba mor normal / hyfryd yw’r rhyweddau anneuaidd.
Mae’r profiad anneuaidd yn brofiad hynod o gymhleth ac, fel awduron yr erthygl hon, mae pob un ohonon ni wedi trafod ein profiadau gwahanol a’r heriau sy’n ein hwynebu oherwydd ein hunaniaeth o ran rhywedd. Ar gyfer darllenwyr anneuaidd, gobeithio y gallwch chi uniaethu â’n profiadau ni a bod ein cyngor a’n hadnoddau yn ddefnyddiol.
Rhyweddhylifol
Fel y soniais yn barod, mae fy rhywedd yn newid yn gyson. Wrth dyfu i fyny, doeddwn i byth yn teimlo fel “merch”, ac roeddwn i’n meddwl bod llawer o bethau “benywaidd” yn eithaf gwirion. Treuliais amser yn ymdrechu i fod yn debyg i’r merched yn fy ysgol, ond doeddwn i ddim yn hoff iawn o hyn, ac ar adegau, roeddwn i’n teimlo fy mod i’n esgus bod yn ferch. Wrth ddysgu am wahanol dermau trawsryweddol, des i i’r casgliad fy mod i’n anneuaidd, ond doeddwn i ddim yn teimlo mai hwnnw oedd y term gorau i ddisgrifio fy hun. Roedd ffrind imi yn meddwl fy mod i’n ddirywedd, ond doedd y term hwnnw ddim yn taro tant chwaith. Pan ddysgais i am yr hyn yr oedd yn ei olygu i fod yn rhyweddhylifol, roedd yn taro tant yn fawr i mi. Ers hynny, rydw i wedi defnyddio’r term hwnnw yn fwy nag unrhyw derm arall er mwyn disgrifio fy hunaniaeth i o ran rhywedd. Ar ôl sawl blwyddyn, mae bellach wedi dod yn derm rwy’n gyfforddus yn ei ddefnyddio os bydd unrhyw un yn gofyn. Ond, bu’n rhaid imi oresgyn llawer o heriau i gyrraedd y pwynt hwn:
Roedd rhagenwau yn her o’r cychwyn cyntaf. Oherwydd bod rhai cyfnodau pan oedd yn well gen i ddefnyddio ‘fe’, neu ‘hi/nhw’, neu dim ond ‘nhw’, ceisiais newid yr wybodaeth ar fy nghyfrifon cyfryngau cymdeithasol i adlewyrchu hynny, a rhoi gwybod i’m “cynghreiriaid” pa rai oedd orau gen i. Ces i gŵynion gan y ffrindiau y soniais i amdanyn nhw eisoes am ba mor anodd oedd hi i gadw’n gyfredol â’m rhagenwau i, ac arweiniodd hyn at lawer o gamryweddu.
Yn y diwedd, penderfynais mai ‘nhw’ oedd yr unig ragenw roeddwn i wir yn hoff o’i ddefnyddio drwy’r amser, gan mai hwnnw oedd y rhagenw roeddwn i fwyaf cyfforddus yn ei ddefnyddio.
Roeddwn i’n arfer gwisgo dillad gwrywaidd, benywaidd ac androgynaidd, a fyddai’n fy helpu i deimlo’n fwy cyfforddus waeth beth fyddai barn y bobl eraill o’m cwmpas.
Syniad arall roeddwn i’n ei hoffi, ac wedi rhoi cynnig arno, oedd gwisgo breichledau o wahanol liwiau a oedd yn cynrychioli pa ragenwau oedd gen i ar ddiwrnod penodol. Mae’n debyg mai dim ond gydag ychydig bobl y byddai’n gweithio, ond fel arall, gallwn fod wedi defnyddio bathodynnau i nodi fy rhagenwau.
Dydw i ddim yn hoff iawn o wisgo bathodynnau, oherwydd nid wyf yn gallu bod mor agored am fy hunaniaeth i o ran rhywedd. Felly, yn y diwedd, roedd defnyddio’r rhagenw ‘nhw’ a gwisgo mewn steil benodol wedi helpu i liniaru’r broblem hon.
Esbonio fy rhyw i eraill
Yr her nesaf i mi oedd esbonio fy rhywedd i bobl. Nid oedd llawer o bobl yn gyfarwydd â’r term. Yn gyffredinol, mae bod yn anneuaidd yn gallu creu tipyn o feirniadaeth. Yn anffodus, gall hyn fod yn wir ar ddwy ochr y geiniog. Pobl gisryweddol heterorywiol fyddai’n gyfrifol ran fynychaf, ond hyd yn oed yn y gymuned LHDTC+ mae rhai unigolion yn benderfynol o roi’r argraff nad yw’n hunaniaethau yn rhai go iawn, ac nad ydyn nhw’n bodoli.
Dydw i ddim yn gwbl agored am fy rhywedd oherwydd gallai hyn greu risgiau imi gan fod fy nheulu i’n homoffobig a thrawsffobig. Felly, rwy’n ceisio peidio â dweud wrth bobl beth yw fy hunaniaeth i o ran rhywedd oni bai eu bod yn gofyn i mi. (Rydw i hefyd wedi defnyddio enw arall, sef ‘X’, ar gyfer yr erthygl hon oherwydd y rheswm hwnnw.)
Os bydd unrhyw un yn gofyn pa ragenw rwy’n hoffi eu defnyddio, mae’n hawdd i mi ddweud ‘nhw’ os ydyn nhw’n unigolion LHDTC+ neu’n gynghreiriaid. Os ydyn nhw’n gofyn am fy hunaniaeth o ran rhywedd, rwy’n hoffi dweud wrthyn nhw fy mod i’n anneuaidd neu’n rhyweddhylifol.
Er gwaetha’r hyn a ddywedais i’n gynharach, mae rhwydweithiau LHDTC+ yn y brifysgol fel arfer yn ofodau diogel. Rydw i hefyd wedi cyfarfod â rhai myfyrwyr trawsryweddol anhygoel yn fy mhrifysgol, mewn rhwydweithiau, digwyddiadau a gofodau traws / anneuaidd, ac wedi dod yn ffrindiau gyda nhw.
Ar y dechrau, roeddwn i’n teimlo bod yn rhaid i mi esbonio fy hun i bobl, ond gydag amser daeth yn haws cadw fy hunaniaeth o ran rhywedd yn breifat. Rwy’n hoffi dweud wrth bobl rwy’n agos iddyn nhw, ond rwy’n gweld fy mod i’n amddiffyn y cysyniad yn llai ac yn llai. Mae’n teimlo’n sarhaus, yn ddiraddiol ac yn flinedig amddiffyn eich hun yn gyson pan mai dim ond unigolyn ydych chi, fel pawb arall.
Ystyried fy hunaniaeth
Treuliais dipyn o amser yn cwestiynu beth yn union oedd fy hunaniaeth i o ran rhywedd. Gwnes i ystyried nifer o labeli, a dewisais i’r term ‘rhyweddhylifol’ gan ei fod yn wir yn teimlo fel y term mwyaf addas i mi. Serch hynny, treuliais lawer o’m hamser yn cwestiynu fy hunan hefyd.
Bydd fy nghyd-awduron yn trafod y pwnc hwn yn fwy manwl yn nes ymlaen, ond bu syndrom y ffugiwr yn ddi-baid am gyfnod. Bob tro y byddwn i’n meddwl bod y teimlad hwnnw wedi diflannu, byddai’n dychwelyd fel annwyd trwm, a byddwn i’n mynd yn sownd eto yn amau fy hun drosodd a throsodd.
O ran fy hunaniaeth rhyweddhylifol, byddwn i’n mynd trwy gyfnodau hir pan fyddwn yn teimlo’n fwy gwrywaidd, ac yn poeni efallai nad oeddwn i’n anneuaidd wedi’r cyfan. Byddai’r pryder yn fy amgylchynu i, ac roedd y labeli’n fy helpu i deimlo’n fwy pendant a sicr am fy hunaniaeth.
Ar adegau eraill, byddwn yn teimlo “dim byd o gwbl”, sef y ffordd y byddwn i’n hoffi disgrifio’r teimlad. Doeddwn i ddim yn teimlo’n wrywaidd nac yn fenywaidd, a byddai hynny’n gwneud i’m hamheuon ailymddangos.
Wrth ddysgu mwy am hunaniaeth rhyweddhylifol, sylweddolais fod teimlo’n ddirywedd ar un diwrnod, neu’n rhywedd arall ar ddiwrnod gwahanol, yn brofiad cwbl normal (er ei fod yn ddryslyd!).
Roedd siarad â ffrindiau anneuaidd am fy nheimladau hefyd yn gymorth mawr gan fod llawer ohonyn nhw hefyd wedi wynebu’r teimladau hyn o amheuaeth yn ddirfawr.
Mae i’r broblem olaf ddwy ran. Yr awydd i feddu ar hunaniaeth hylifol, a’r dysfforia sy’n deillio o fethu â chyflawni hynny. Er nad yw’r profiad hwn efallai yn rhywbeth sy’n gyffredin ymhlith pob unigolyn rhyweddhylifol, mae’n bendant yn rhywbeth anodd i mi.
Rwy’n edrych yn eithaf androgynaidd ar hyn o bryd, sy’n wych, ond rwy’n dal i gael y teimlad hwnnw roeddwn i’n ei deimlo am flynyddoedd pan fyddaf yn gwisgo’n wrywaidd neu’n fenywaidd. Weithiau byddaf yn teimlo fel petawn i’n esgus bod yn fenyw, ac yn gwisgo lan. Ar adegau eraill, mae’n teimlo fel petawn yn ymdrechu’n rhy galed i esgus bod yn ddyn.
Byddaf yn treulio hydoedd o flaen y drych, yn teimlo rhwystredigaeth gan nad yw fy ngwisgoedd yn teimlo’n iawn neu’n addas, ac rwy’n teimlo’n eithaf ofnadwy o ganlyniad.
Yn anffodus, ni wnaeth y sefyllfa hon wella rhyw lawer gydag amser, ond fe ddes i arfer â’r broses. Pe na fyddai gwisg fenywaidd yn teimlo’n gyfforddus, byddwn yn ei thynnu i ffwrdd ac yn rhoi cynnig ar wisg newydd. Byddwn i hefyd yn gwneud yr un peth o ran gwisgoedd gwrywaidd.
Gwnes i eillio fy ngwallt ychydig flynyddoedd yn ôl, a fu’n help aruthrol gyda’r teimlad o ddysfforia, er nad oedd fy rhieni’n hapus iawn â hyn. Gwnes i esgusodion am pam y gwnes i eillio fy mhen (roedd gofalu am wallt 4C yn amhosib). Penderfynais hefyd i gael tyllau yn fy nghorff, a gwnaeth hynny imi deimlo’n llawer hapusach am fy edrychiad, waeth pa rywedd y byddwn yn uniaethu ag ef ar unrhyw ddiwrnod penodol.
Mae pethau fel rhwymwyr yn helpu, ac yn fwy diweddar, rydw i wedi dechrau gwisgo wigiau a cholur. Rwy’n casáu’r pethau hyn, ond pan fyddaf yn teimlo’n fenywaidd mae’n helpu i gael pethau fel hynny wrth law. Nid yw’n teimlo fel petawn i’n esgus bellach, ond yn hytrach yn mynd ar daith antur i deimlo’n bert bob hyn a hyn.