Leave this site now

Cynghorion i fyfyrwyr anneuaidd, gan fyfyrwyr anneuaidd

Mae X, Reo a Harry yn crynhoi eu casgliad o erthyglau gyda'u cyngor a'u hawgrymiadau i fyfyrwyr eraill ar y sbectrwm anneuaidd.

I grynhoi, mae bod yn anneuaidd yn golygu gwybod eich bod chi’n bodoli, ni waeth beth mae unrhyw beth neu unrhyw un o’ch cwmpas yn ei ddweud. Mae’n ymwneud â derbyn na fydd pawb yn eich cefnogi, heblaw’r bobl hynny sy’n bwysig i chi. Mae llawer iawn o bobl a fydd yn derbyn eich hunaniaeth, ac yn eich caru chi o’i herwydd. Mae’n bwysig cofio nad ydych chi byth ar eich pen eich hun. Erbyn hyn, rydych chi wedi clywed tri hanes gwahanol gan fyfyrwyr anneuaidd a rhyweddhylifol. Er bod pob hanes yn unigryw, mae llawer o debygrwydd o ran y profiadau a’r anawsterau sy’n ein hwynebu. Er gwaethaf yr heriau hyn, rydyn ni i gyd yn dod o hyd i’n ffyrdd ein hunain o’u goresgyn, yn aml yng nghwmni pobl o’r un anian, sy’n ein derbyn ni fel ydyn ni.

Cyngor cyffredinol

  • Waeth beth yw eich hunaniaeth, dylech chi bob amser fod yn gyfforddus gyda phwy ydych chi.
  • Mae ‘dod allan’ bob tro yn brofiad anodd am gynifer o resymau. Mae’n bwysig eich bod chi ond yn ‘dod allan’ pan ydych chi’n barod. Peidiwch byth â gadael i unrhyw un roi pwysau arnoch chi i wneud y penderfyniad hwnnw. Cofiwch nad oes rhaid i chi ddod allan i bawb, os nad yw’r sefyllfa’n caniatáu hynny.

Y cysyniad o “deulu dewisedig”

  • Efallai nad yw hyn yn wir am bob myfyriwr anneuaidd, ond yn achos y rheiny nad oes ganddyn nhw deuluoedd cefnogol, cofiwch y dylai eich teulu dewisedig gynnwys y bobl hynny sy’n eich cefnogi fwyaf a’r rhai sydd fwyaf croesawgar.

  • Mae’r erthygl hon yn cynnwys ymchwil i ffoaduriaid LHDTC+ a’u teuluoedd biolegol yn erbyn y teuluoedd dewisedig.

  • Chwiliwch am bobl sy’n eich caru, sy’n eich gwerthfawrogi ac yn eich derbyn am bwy ydych chi. Amgylchynwch eich hun gan y bobl hynny oherwydd, ar ddiwedd y dydd, mae pawb yn haeddu cael eu caru a’u gwerthfawrogi.

  • Mae cael system gymorth dda yn y brifysgol yn gallu bod o gymorth mawr wrth geisio cael cydbwysedd rhwng eich bywyd teuluol a’ch bywyd yn y brifysgol.

Cuddio, masgio, a byw bywyd dwbl

  • Mae cydbwysedd yn hynod o bwysig. Gall cuddio a masgio fod yn llethol dros ben. Bydd rhannau o’ch bywyd yn teimlo fel pe baent wedi’u torri’n ddarnau, ond wrth i chi fynd yn hŷn mae’n dod yn haws rhoi’r darnau at ei gilydd heb beryglu eich ymdeimlad o bwy ydych chi.

  • Mae’n bosibl y byddwch chi’n uniaethu fel unigolyn anneuaidd, neu unigolyn cwiar, sy’n annog pobl i ddisgwyl eich bod chi’n eirioli dros yr hunaniaethau hynny yn barhaus, a siarad ar ran pawb sy’n haeddu mwy o gymorth na’r hyn y maen nhw’n ei gael yn barod o bosibl. Cofiwch nad oes rhaid i chi fod yn ymgyrchydd, a dim ond yr hyn a hyn y gallwch chi ei wneud.

  • Mae’r pwysau a’r baich a ddaw yn sgil hyn yn gallu dirywio eich iechyd meddwl a’ch llesiant. Ni waeth beth, dyna sy’n dod gyntaf, yn ogystal â’ch iechyd cyffredinol.

Microymosodiadau, gwahaniaethu a throseddau casineb

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yng nghwmni cynghreiriaid, ac mewn mannau sy’n gyfeillgar i bobl LHDTC+ yn y brifysgol, er mwyn lleihau’r risg o brofi unrhyw ymddygiad gwahaniaethol.

  • Os bydd unrhyw faterion yn codi, ceisiwch roi gwybod i’ch prifysgol os yw’n bosibl. Os byddai’n well gennych chi fod yn anhysbys, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n mynegi hynny iddyn nhw.

  • Mae gan rai prifysgolion lwyfan diogel a chyfrinachol ar gyfer rhannu pryderon, o’r enw Adrodd a Chymorth, sy’n eich galluogi i wneud hyn. Efallai y bydd gan brifysgolion eraill fesurau gwahanol ar waith.

  • Hyd yn oed os mai aelod o staff sydd dan sylw, mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i’r brifysgol am hyn. Maent wedi'u hyfforddi i barchu pob myfyriwr a'u cefndir, felly mae'n annerbyniol iddyn nhw ddangos unrhyw wahaniaethu.

  • Gall fod yn anodd i chi godi eich llais yn y foment. Darn arall o gyngor yw ceisio cyfathrebu unrhyw faterion mewn fformat rydych yn fwy cyfforddus ag ef, fel neges e-bost, er enghraifft. Boed yn neges gwrtais neu’n un sy’n rhoi cyd-destun addysgol, gwnewch yn siŵr bod eich llais yn cael ei glywed rywsut.

  • Cofiwch, er gwaethaf unrhyw beth sydd wedi digwydd, does dim rhaid i chi ei herio bob amser, yn enwedig os nad yw’r sefyllfa’n caniatáu hynny. Yn ogystal â hyn, nid eich cyfrifoldeb chi yw amddiffyn eich hunaniaeth bob amser. Mae’n bwysig sefyll o blaid eich hun, ond does dim rhaid gwneud hyn bob tro oherwydd mae’n gallu bod yn flinedig.

  • Weithiau, efallai y byddwch chi am asesu’r sefyllfa, a gweld a ydyw’n werth tynnu sylw at y sefyllfa neu beidio. Gallai hyn ddibynnu ar faint y mae’n effeithio arnoch chi’n bersonol, pa mor aml y mae’n digwydd, neu ba mor agos ydych chi at yr unigolyn / grŵp.

  • Mae gan ein pecyn cynnwys bob math o becynnau cymorth ac erthyglau am wahanol faterion y gallai myfyrwyr trawsryweddol ac anneuaidd eu hwynebu, a sut i ddelio â nhw orau; felly gwnewch ymdrech i edrych arnyn nhw.

  • Gwiriwch gyda’ch prifysgol i weld y mathau o gymorth y mae’n eu cynnig. Mae siarad â staff sydd naill ai’n LHDTC+, neu’n gynghreiriaid, bob amser yn ddefnyddiol gan eu bod yn barod i wrando’n ddiduedd ar y trafferthion y gallech chi fod yn eu hwynebu yn y brifysgol. Gall fod yn brofiad unig ar adegau, felly gofynnwch am gymorth os yw’r cyfan yn mynd yn ormod ichi. Ddylech chi fyth orfod delio â phethau ar eich pen eich hun. Fel ni, mae yna bobl eraill sy’n deall eich anawsterau a byddan nhw, yn bendant, yn barod i glywed yr hyn sydd gennych chi i’w ddweud heb ddiystyru eich problemau.

Cyngor am ofalu am eich hun:

  • Cofiwch, nid yw’r ffaith eich bod yn anneuaidd yn golygu na allwch chi ofalu amdanoch chi eich hun yn yr un ffordd ag y mae pawb arall.

  • Gall ymuno â grwpiau cyfoedion a grwpiau cymorth fod yn ddefnyddiol. Maent yn cynnig gofod diogel i siarad am faterion yn ymwneud yn benodol â’ch hunaniaeth o ran rhywedd gyda phobl a allai ddeall eich profiadau hefyd.

  • Cofleidiwch ddiwylliant LHDTC+ a gwnewch ymdrech i ymgysylltu â’r gymuned (os ydych chi’n gyfforddus yn gwneud hynny). Yn enwedig i’r rheiny nad ydyn nhw “allan yn llwyr”, h.y. y bobl hynny nad ydyn nhw wedi “dod allan” i bawb o’u cwmpas am wahanol resymau. Serch hynny, rydych chi’n haeddu teimlo’n falch ac yn llawen am eich hunaniaeth, a dathlu hyn gyda phobl debyg. Efallai eich bod yn cuddio eich hunaniaeth rhag rhai pobl, ond mewn gofod diogel, gyda phobl LHDTC+, gallwch chi fod mor agored â phosibl.

  • Eich iechyd corfforol yw’r peth pwysicaf bob amser. Ceisiwch wneud yn siŵr eich bod yn bwyta digon o brydau, yn yfed dŵr, ac yn dilyn trefn arferol os oes angen. Mae cwsg yn hynod o bwysig, yn ogystal â chymryd seibiannau pan fo angen. Os oes unrhyw beth o’i le, gofynnwch am gymorth bob amser, a rhowch wybod i rywun.

  • Mae’n iawn peidio â bod “allan”, neu gadw eich hunaniaeth o ran rhywedd yn gyfrinachol os nad ydych chi’n barod i rannu’r wybodaeth hon eto. Ni ddylai fod unrhyw bwysau, p’un a ydych chi ddim yn barod neu ddim eisiau. Nid oes cywilydd mewn peidio â bod “allan”, yn yr un modd y gallai rhywun fod yn hapusach o fod “allan”.

  • Mae rhai pobl yn ffynnu trwy fod yn gwbl “allan”, ac mae eraill yn teimlo’n fwy cyfforddus a diogel mewn peidio â bod “allan” nes bod yr amser yn iawn. Eich dewis chi yw gwneud penderfyniad am hynny. Wedyn, gallwch chi benderfynu dros eich hun pa mor “allan” yr hoffech chi fod, gan beidio â gadael i bobl eraill ddylanwadu ar y penderfyniad hwnnw.

  • O ran gofalu am eich hun, does dim brys i wneud popeth ar unwaith i wneud i chi’ch hun deimlo’n well ar unwaith. Nid oes unrhyw frys i ymuno â phob math o grwpiau cymdeithasol neu grwpiau cymorth ar gyfer pobl LHDTC+, neu ddatrys ar unwaith unrhyw broblemau a allai fod gennych o ran eich cwsg neu faint o ymarfer corff rydych yn ei wneud. Yn yr un modd, nid oes unrhyw ddisgwyliad i chi ofalu am eich hun mewn ffordd arbennig na gwneud rhai pethau yn gynt nag eraill.

  • Nid oes un ffordd benodol o fynd ati i ofalu am eich hun. Dim ond trwy gymryd amser a rhoi cynnig ar wahanol bethau y byddwch chi’n dod o hyd i’r hyn sy’n gweithio i chi, a’r hyn nad yw’n gweithio i chi, ac mae hynny’n iawn. Fesul cam ceiliog gallwch chi wneud llawer o gynnydd, ac mae’n bwysig cofio hynny bob amser.

Am ragor o adnoddau a gwybodaeth:

Nid yw’r ffaith ein bod yn unigolion anneuaidd yn golygu ein bod ni i gyd yr un fath. Felly, efallai na fydd rhywfaint o’n cyngor a’n hawgrymiadau’n berthnasol i chi, neu efallai na fyddan nhw’n gweithio i chi. Rydyn ni’n argymell rhoi cynnig ar y pethau sy’n gwneud y mwyaf o synnwyr i chi ar hyn o bryd. Ymchwiliwch i unrhyw faterion a allai fod gennych chi, gan gofio mai’r rhyngrwyd yw eich ffrind gorau. Gallwch ddod o hyd i atebion i bryderon bach yn gyflym, fel yr hyn y dylai eich partner eich galw chi (os nad ydych chi’n hoffi defnyddio’r gair ‘cariad’), drwy chwilio ar y we. Daliwch ati i drio pethau gwahanol, a chofiwch mai taith a phroses yw hi.

Adolygwyd ddiwethaf: Chwefror 2025