Shwmae? Reo ydw i, un o’r cyd-awduron. Rwy’n lesbiad anneuaidd sy’n defnyddio rhagenw ‘nhw’. Rydw i hefyd yn fyfyriwr rhyngwladol sy’n hanu o ddwyrain Ewrop, felly mae fy safbwynt i ar fyw yn y Deyrnas Unedig fel unigolyn traws yn cael ei liwio gan y ffaith fy mod i wedi cael fy magu mewn gwlad homoffobig, trawsffobig a chrefyddol dros ben, o gymharu â’r Deyrnas Unedig o leiaf.
Mae bod yn anneuaidd yn gallu bod yn ddryslyd iawn. Nid yn unig i’r bobl o’ch cwmpas, ond i chi’ch hun hefyd. Mae’n sefyllfa rhyfedd iawn, lle rwy’n cloffi rhwng meddwl ‘A ydw i’n ddyn? A ydw i’n fenyw? A ydw i’n ddyn ac yn fenyw? Neu ddim yn ddyn nac yn fenyw? Rhywle yn y canol?’, a dydw i byth yn llwyddo i wneud penderfyniad mewn gwirionedd. Y gwir yw bod yn draws yn rhan o fod yn anneuaidd. Yn wrthrychol, rydyn ni i gyd yn gwybod bod pobl anneuaidd yn rhan o’r gymuned draws. Wedyn dyma’r mater mwy cymhleth o ofyn i’ch hun, ar ben popeth arall, ‘Ai unigolyn traws(ddeuaidd) yn unig ydw i? Neu ai unigolyn cisryweddol yn unig ydw i, sy’n esgus bod yn draws?’. Gyda hynny y daw syndrom y ffugiwr, sydd yn anodd iawn i’w drechu. Ddim yn ddigon traws o gymharu â’ch cymheiriaid trawsddeuaidd, ond yn rhy cwiar i fod yn unigolyn cisryweddol.
Rwy’n meddwl, i ryw raddau, bod yn rhaid ichi ddod i dderbyn y ffaith na fyddwch chi byth yn gyfforddus ym mha bynnag grŵp. Ddim yn gwbl gyfforddus, beth bynnag. Ond fe welwch chi’r rhan fwyaf o’ch cysur, cariad a dealltwriaeth yng nghwmni eich brodyr a chwiorydd traws eraill, beth bynnag fo’u hunaniaeth. Gofynnwyd i mi unwaith beth oedd fy hoff beth i o ran bod yn unigolyn traws, a fy ateb i oedd: pobl draws eraill. Mae’r rhyddid rydw i’n ei deimlo i fod yn fi fy hun o gwmpas pobl draws eraill yn wirioneddol yn un o’m hoff bethau i yn y byd – y didwylledd a’r gyd-ddealltwriaeth eich bod ... yn deall eich gilydd. Ffordd dda o brofi’r teimlad hwn o berthyn yw cysylltu â chymdeithas neu rwydwaith LHDTC+ eich prifysgol, cysylltu â’ch cymuned draws leol, ac archwilio pa grwpiau lleol eraill sydd ar gael nes i chi ddod o hyd i gymuned sy’n addas i chi. Mae’r unigolion hyn yn gallu teimlo fel teulu arall i chi.
Un o’r pethau anoddaf o fod yn unigolyn anneuaidd yw sut i gyflwyno eich rhywedd. Mae pobl yn aml iawn yn disgwyl i chi edrych yn androgynaidd, sy’n anodd ei wneud ac nid yw’n gweithio i bawb. Nid oes rhaid i bobl anneuaidd wisgo mewn ffordd benodol, yn union fel nad oes rhaid i ddynion a menywod wisgo mewn ffordd benodol. Er ei fod yn beth braidd yn ystrydebol i’w ddweud, mae’n wir nad yw dillad penodol yn perthyn i rywedd penodol. Mae hyn yn wir, nid yn unig yng nghyd-destun disgwrs cwiar, ond hefyd y tu hwnt iddo. Mae’r hyn sy’n ‘fenywaidd’ i un diwylliant yn gallu bod yn ‘wrywaidd’ i ddiwylliant arall, ac i’r gwrthwyneb. Fel arfer, rydym yn dehongli arwyddion sy’n dynodi rhywedd trwy fyd-olwg Ewropeaidd. Er enghraifft, rydw i fel arfer yn gwisgo dillad eithaf benywaidd, ond rwy’n dewis gwisgo dillad rhy fawr er mwyn helpu gyda fy nysfforia i. Hyd yn oed pan fyddwn i’n gwisgo sgert, byddai fy mam i o ddwyrain Ewrop yn fy meirniadu am wisgo ‘fel bachgen’, tra fy mod i’n cael fy ystyried yn rhy fenywaidd i fod yn anneuaidd gan lawer o bobl yn y Deyrnas Unedig. Fyddwch chi byth yn llwyddo i fod yn ddigon androgynaidd, yn ddigon benywaidd, neu’n ddigon gwrywaidd i fodloni pawb o’ch cwmpas. Felly, gwisgwch pa ddillad bynnag rydych chi’n dymuno eu gwisgo. Gwisgwch mewn ffordd sy’n gwneud i chi deimlo’n gyfforddus, ac mewn ffordd sy’n lleihau eich dysfforia. Mewn ffordd sy’n eich ysgogi i ddweud ‘Ie, dyna fi’ pan fyddwch chi’n edrych yn y drych.