Mynd ati’n strwythuredig i wneud ffrindiau

Gall gwneud ffrindiau newydd a theimlo’n rhan o gymuned eich prifysgol eich helpu i gael profiad prifysgol da. I lawer o fyfyrwyr, mae cwrdd â ffrindiau newydd yn ffocws mawr ar ddechrau’r brifysgol.

Mae’n iawn os nad ydych chi’n gwneud ffrindiau ar unwaith

Os ydych yn lwcus, efallai y byddwch yn dod o hyd i ffrindiau gwych yn eistedd nesaf atoch chi yn y dosbarth, yn eich fflat neu ar y bws yn mynd i’r brifysgol. Ond allwn ni ddim cymryd yn ganiataol na disgwyl mai fel hyn y bydd pethau, a bydd angen i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr wneud ychydig mwy o ymdrech.

Cofiwch, mae pob myfyriwr newydd yn cael yr un profiad ac mae hyn yn golygu bod pob myfyriwr yn ceisio gwneud yr un peth â chi. Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr wrth eu bodd yn siarad â rhywun newydd a chael y cyfle i fynd i ddigwyddiad cymdeithasol newydd. Bydd rhywun yn eich cymuned myfyrwyr a fydd yn gwneud ffrind gwych i chi. Trwy gynllunio, byddwch chi’n rhoi cyfle i chi’ch hun ddod o hyd iddyn nhw, yn hytrach na’i adael i siawns.

Gall mabwysiadu dull o gynllunio a strwythuro eich helpu i deimlo bod gennych chi reolaeth dros y broses o gwrdd â phobl newydd – a thrwy gysylltu ag eraill byddwch chi hefyd yn eu helpu nhw, drwy roi mwy o gyfleoedd iddyn nhw ddod o hyd i ffrindiau.

Ble allech chi gwrdd â phobl beth bynnag?

Yn gyntaf, efallai y byddwch chi am feddwl am y lleoedd hynny lle byddwch chi’n mynd iddyn nhw beth bynnag – y dosbarth, ardaloedd cyffredin, llety myfyrwyr. Meddyliwch am y cyfleoedd y gall y rhain eu cynnig.

Pan fyddwn ni’n symud i amgylchedd newydd, fel prifysgol, ysgol neu weithle, mae llawer o’n cymdeithasu cychwynnol yn tueddu i ddigwydd ar adegau rhwng digwyddiadau, fel cyn neu ar ôl cyfarfod neu ddosbarth. Gallwch chi ddefnyddio’r cyfleoedd hyn i ddod i adnabod y bobl yn well – trwy awgrymu eich bod chi a’ch cyd-fyfyrwyr yn cael coffi ar ôl dosbarth neu i sefydlu grwpiau astudio.

Ond wrth gwrs, nid yw’r cyfleoedd hyn bob amser yn troi’n fwy o gyswllt cymdeithasol, oni bai bod rhywun yn gwneud i hynny ddigwydd. Un o’r pethau mwyaf defnyddiol i gynllunio ar ei gyfer yw sut y gallech chi gymryd sgyrsiau cychwynnol ac adeiladu arnynt. Er enghraifft, os ydych chi’n cael sgwrs yn y dosbarth fel rhan o ymarfer, a allech chi ddefnyddio hon i awgrymu cyfarfod y tu allan i’r dosbarth? Wrth i chi adael y dosbarth, a allech chi ofyn a oes unrhyw un arall eisiau cael diod neu ginio gyda’ch gilydd?

Pa gyfleoedd eraill sydd ar gael i wneud ffrindiau?

Ond fel y trafodwyd uchod, mae’n ddoeth peidio â dibynnu ar y mannau hynny’n unig. Bydd y rhan fwyaf o brifysgolion yn darparu ystod eang o gyfleoedd cymdeithasol, yn enwedig ar ddechrau’r flwyddyn, y gallwch chi eu gwneud yn rhan o’ch cynllun. Ewch i wefannau eich prifysgol a’r undeb myfyrwyr, Urdd neu Gymdeithas ac edrychwch am yr holl gyfleoedd sydd ar gael i chi. Gallai’r rhain gynnwys –

  • Ymuno â chymdeithasau a chlybiau
  • Efallai bydd adrannau gwahanol yn cynnal digwyddiadau i gwrdd â phobl newydd, gan gynnwys undeb y myfyrwyr, Caplaniaeth, neuaddau a’ch Cyfadran, Coleg neu Adran
  • Cyfleoedd gwirfoddoli
  • Fforymau ar-lein sy’n cael eu rhedeg gan yr undeb neu’ch cwrs
  • Mae rhai prifysgolion wedi creu cyfleoedd cymdeithasol ar-lein i fyfyrwyr ymgysylltu â nhw cyn dechrau’r flwyddyn academaidd

Darllenwch fwy ar adeiladu rhwydwaith yn y brifysgol.

Gall gwthio'ch hun i fynd i ddigwyddiad, siarad â rhywun newydd yn y dosbarth, neu gysylltu â ffrind ar-lein deimlo fel ymdrech enfawr pan fyddwch chi'n teimlo'n isel, yn bryderus neu dan straen. Ond mae gwthio'ch hun i wneud rhywbeth anghyfarwydd yn hanfodol i adeiladu a chynnal cyfeillgarwch cadarn.

Sut i wneud ffrindiau yn y brifysgol pan fyddwch chi'n brwydro ag anawsterau iechyd meddwl – Hester

Rhowch eich cynllun ar waith

Cymerwch eich amser i roi eich syniadau ar waith. Does dim rhaid i chi wneud popeth ar unwaith. Dewiswch ychydig bethau i roi cynnig arnyn nhw’n gyntaf ac yna adeiladu oddi yno. Ceisiwch gofio mai proses yw hon. Os nad ydych chi’n cwrdd ag unrhyw un yr ydych yn ei hoffi ar y cynigion cyntaf, nid yw hynny’n golygu na fyddwch chi’n gwneud ffrindiau. Nid yw hynny ond yn golygu nad ydych chi wedi dod o hyd iddyn nhw eto. Daliwch ati i adeiladu a rhoi eich cynllun ar waith a defnyddiwch y cymorth yn eich prifysgol i’ch helpu i gyrraedd y nod.

Adolygwyd ddiwethaf: Medi 2022