A fydda i'n ddigon da ar gyfer y lefel academaidd nesaf?

Gareth Hughes

Gareth Hughes yw Arweinydd Clinigol Student Space ac mae'n seicotherapydd, ymchwilydd ac awdur ar lesiant myfyrwyr, gan gynnwys y llyfr Be Well, Learn Well.

Mae llawer o fyfyrwyr yn poeni y gallai’r tarfu ar eu dysgu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf olygu nad ydynt yn barod ar gyfer y lefel academaidd nesaf, ond gallwch chi deimlo’n hyderus am eich gallu – ac mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i baratoi ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Credu yn eich gallu academaidd

Hunan-effeithiolrwydd academaidd yw'n cred yn ein gallu ein hun i lwyddo'n academaidd.

Mae'n bwysig ar gyfer ein dysgu a'n cyflawniad yn y dyfodol. Mae credu eich bod yn gymwys i wneud rhywbeth yn effeithio ar eich hyder a'ch gallu i wneud tasgau cymhleth. Mae'n naturiol eich bod yn poeni y gallai bylchau yn eich dysgu effeithio ar eich gallu academaidd, eich hyder a'ch cyflawniad yn y dyfodol.

Fodd bynnag, mae'n bwysig cofio bod pawb arall wedi cael yr un profiad. Nid yw bylchau yn eich dysgu yn fylchau yn eich gallu. Gyda chefnogaeth ac amser a thrwy astudio, bydd y bylchau hyn yn cau.

Rydych chi'n ddigon da

Cofiwch, mae gennych lawer o dystiolaeth am eich gallu yn barod. Edrychwch beth rydych chi wedi'i gyflawni'n barod: rydych chi wedi llwyddo i astudio, ennill lle mewn prifysgol a pharhau â'ch addysg yn ystod pandemig. Mae'n rhaid eich bod chi'n fyfyriwr da i allu gwneud hynny.

Ro'n i wedi gwneud cais i brifysgol uchel ei pharch i wneud gradd meistr er mwyn profi fy hun: yn fy meddwl i, hyn fyddai'r dystiolaeth eithaf p'un a oeddwn i'n ‘ddigon da’ a, phe bawn i'n cael lle, y byddai'n tawelu'r teimlad hwn sy'n fy nghnoi. Ces i fy nerbyn i wneud gradd meistr ond, efallai nad oes angen dweud, wnaeth hi ddim helpu. I'r gwrthwyneb.

Y fagl o beidio â theimlo'n “ddigon da” – Margot

Sut i baratoi ar gyfer y lefel nesaf

Wrth gwrs, gallwch chi helpu i feithrin eich hyder a'ch cymhwysedd eich hun drwy'r ffordd rydych chi'n ymgymryd â'ch dysgu.

Os ydych chi'n teimlo'n bryderus am eich gallu, efallai y byddwch chi’n teimlo fel osgoi meddwl amdano neu beidio ag astudio o gwbl. Mae hwn yn ymateb normal i bethau sy'n gwneud i ni deimlo'n orbryderus, ond yn yr achos hwn mae ein teimladau'n camddeall y sefyllfa.

Bydd treulio amser yn paratoi yn helpu i feithrin eich hyder a datblygu eich gallu i lwyddo pan fydd y flwyddyn academaidd yn cychwyn.

Dyma rai ffyrdd y gallwch chi roi cynnig arni:

  • Darllenwch y llyfrau ar restr ddarllen

  • Gwyliwch ddarlithoedd ar-lein neu fideos am eich pwnc (o ffynonellau dibynadwy)

  • Ymgyfarwyddwch â thermau a chysyniadau allweddol

  • Atgoffwch eich hun am yr hyn rydych chi'n ei fwynhau am eich pwnc a threuliwch ychydig o amser yn archwilio hyn

Gall eich prifysgol helpu

Mae eich prifysgol eisoes yn gwybod y tarfwyd ar eich dysgu. Mae darlithwyr ledled y wlad wedi gweithio'n galed i addasu eu haddysgu ar gyfer yr amgylchiadau hyn. Os ydych chi o'r farn bod bylchau yn eich gwybodaeth, ni fydd yn syndod i'ch darlithwyr eich bod chi'n gofyn iddyn nhw am gymorth.

Peidiwch ag ofni gofyn am gefnogaeth i ddysgu os oes ei angen arnoch chi. Bydd gan eich prifysgol ystod o gefnogaeth i'ch helpu i wella sgiliau academaidd, gan gynnwys tiwtoriaid academaidd, llyfrgellwyr a chynghorwyr sgiliau astudio. Canfyddwch beth y gall eich prifysgol ei gynnig i chi a defnyddio'r gefnogaeth hon i'ch helpu i wella eich dysgu a meithrin eich hyder.

Dwi ddim yn credu ein bod ni'n rhoi digon o glod i'n hunain am ba mor anodd a blinedig yn emosiynol y gall dilyn cwrs gradd fod.

Rhoi clod i chi'ch hunan: Gall y brifysgol fod yn anodd weithiau – Sarah
Adolygwyd ddiwethaf: Medi 2022