Wnes i ddim cael y canlyniadau oedd arnaf eu hangen
Mae llawer o fyfyrwyr yn deffro ar ddiwrnod y canlyniadau i ddarganfod na chawsant y canlyniadau yr oeddent wedi gobeithio amdanynt. Er bod hyn wrth gwrs yn siomedig, nid yw'n golygu na fydd y rhan nesaf o'ch bywyd yn dda, na fyddwch yn cael gyrfa llawn boddhad neu na fyddwch yn cyrraedd y brifysgol. Gall cymryd amser a gofal i ymateb i'ch canlyniadau eich helpu nawr a gyda'r camau nesaf y byddwch yn eu cymryd.
Yn gyntaf, rhowch eiliad i chi'ch hun
Weithiau, pan na fydd myfyrwyr yn cael y graddau roedden nhw eu heisiau neu eu hangen, maen nhw'n teimlo bod rhaid iddyn nhw ddechrau gweithredu ar unwaith a bachu lle ar unrhyw gwrs a fydd yn eu derbyn. Ni fydd yn helpu os byddwch yn ymateb yn gyflym ac yn dewis cwrs nad ydych yn ei fwynhau am dair blynedd.
Yn hytrach, gall fod yn fwy defnyddiol os gallwch chi roi amser i gydnabod a derbyn sut rydych chi'n teimlo. Mae'n iawn bod yn ofidus, yn siomedig, yn grac, wedi drysu, yn ddideimlad neu brofi pa bynnag emosiwn a ddaw i’ch rhan. Mae cyrraedd y pwynt yma wedi gofyn am lawer o waith ac amser ac ni allwn ymatal rhag ymateb yn emosiynol i newyddion siomedig. Teimlwch sut mae angen i chi deimlo, anadlu a cheisio bod yn garedig gyda chi'ch hun.
Rhowch sylw i'r hyn mae hyn yn ei olygu a'r hyn nad yw'n ei olygu
Gall graddau is olygu na fyddwch yn cael lle ar y cwrs yr oeddech wedi gobeithio ymuno ag ef. Fodd bynnag, mae'n werth rhoi galwad i'r brifysgol i wirio - os yw’r graddau'n gyffredinol is eleni, gall rhai cyrsiau newid eu meini prawf derbyn.
Yr hyn nad yw hyn yn ei olygu yw bod eich bywyd ar ben, eich bod yn dwp neu na fyddwch byth yn llwyddo mewn bywyd. Mae llawer o bobl hynod ddeallus a llwyddiannus iawn wedi tanberfformio yn eu harholiadau Safon Uwch. Efallai y bydd rhan nesaf y siwrnai yn wahanol i'r hyn a gynlluniwyd gennych chi, ond gallwch barhau i adeiladu bywyd a gyrfa hapus a llawn boddhad. Efallai y bydd hynny'n teimlo'n afrealistig i chi heddiw ond dydi hynny ddim yn golygu nad yw'n wir.
Mae gennych chi sicrwydd nawr
Yn gyffredinol, dydyn ni ddim yn dda iawn am reoli ansicrwydd. Nawr mae gennych chi sicrwydd - rydych chi'n gwybod pa raddau sydd gennych chi a gallwch chi archwilio'r opsiynau sydd ar gael i chi. Mae hyn yn gwneud cynllunio'r cam nesaf yn haws.
Peidiwch â rhuthro
Mae gennych chi amrywiaeth o opsiynau. Bydd prifysgolion yn mynd ati i recriwtio drwy’r system glirio ond mae gennych chi opsiynau eraill hefyd – ailsefyll eich arholiadau Safon Uwch, chwilio am brentisiaeth, gweithio, cymryd blwyddyn i feddwl am yr hyn rydych chi wir eisiau ei wneud. Gallai unrhyw un neu bob un o'r opsiynau hyn arwain at fywyd a gyrfa dda. Does dim un opsiwn perffaith y mae'n rhaid i chi ddod o hyd iddo ar unwaith a dydych chi ddim yn dewis gweddill eich bywyd - dim ond y cam nesaf.
Fframio eich opsiynau
Cyn edrych ar yr hyn rydych chi am ei wneud, gall fod o gymorth i chi roi ychydig o amser i adlewyrchu ar yr hyn a allai fod yn dda i chi - mae'n bwysig bod hyn yn ymwneud â'r hyn sy'n iawn i chi, nid yr hyn y mae’r rhai o’ch cwmpas yn ei ddymuno neu'r hyn rydych chi’n meddwl y ‘dylech chi’ ei wneud.
Gall meddwl am y canlynol helpu:
- Beth sy'n rhoi pleser i chi? Beth ydych chi'n mwynhau ei wneud
- Beth sy'n rhoi ystyr i chi? Beth sy'n ddiddorol, yn gyffrous neu'n rhoi boddhad i chi? Beth ydych chi'n angerddol amdano?
- Beth ydych chi'n dda am ei wneud? Beth yw eich cryfderau? Beth mae pobl eraill yn ei ddweud ydych chi'n dda am ei wneud?
Ewch ati i greu rhestr o bob un o’r 3 maes ac efallai y gwelwch chi fod rhywfaint o orgyffwrdd – pethau sy’n ymddangos ar fwy nag un rhestr. Defnyddiwch hyn i'ch helpu chi i ganolbwyntio ar yr hyn yr hoffech ei wneud nesaf - y cwrs rydych yn ei ddewis neu'r swydd rydych chi eisiau ei chael. Os byddwch chi'n treulio'r rhan nesaf o'ch bywyd yn gwneud rhywbeth sy'n rhoi pleser ac ystyr i chi a'ch bod chi'n teimlo eich bod chi'n dda am ei wneud, mae siawns dda y bydd yn brofiad da.
Os ydych chi eisiau mynd i'r brifysgol o hyd
Gallwch chi adolygu'r llefydd sydd ar gael mewn prifysgolion drwy wefan UCAS. Chwiliwch am y cyrsiau hynny sy'n cyd-fynd â'r rhestrau o bleser, ystyr a chryfderau rydych chi wedi’u creu. Pan fyddwch chi'n nodi cwrs, paratowch cyn i chi ffonio'r brifysgol. Beth ydych chi eisiau ei wybod am y cwrs? Ydi eich manylion personol wrth law?
Meddyliwch am brofiad llawn y myfyriwr
Ystyriwch ble mae'r brifysgol wedi'i lleoli – ydi hi mewn dinas neu ar gampws? Ydi hi’n fawr neu'n fach? Ble fyddwch chi'n byw? Pa fath o fywyd cymdeithasol sydd ar gael? Os ydych chi wedi dewis treulio'r 3 neu 4 blynedd nesaf yno, bydd y pethau hyn yn bwysig i chi a'ch profiad. Os yw’n bosibl, edrychwch i weld a allwch chi ymweld â'r brifysgol a gweld lle byddwch chi'n astudio ac yn byw.
Cofiwch bod da yn bosibl o hyd
Gall canlyniadau eich arholiadau deimlo’n siomedig ond cofiwch nad oes rhaid iddynt siapio gweddill eich bywyd. Yn y pen draw, mae llawer o lwybrau ar gael at fywyd hapus a bodlon. Bydd eich llwybr chi yn wahanol i’r un a gynlluniwyd gennych chi ond nid yw hynny’n golygu na fydd yn dda neu hyd yn oed yn well na’r un yr oeddech wedi gobeithio amdano.
Gofalwch amdanoch eich hun
Wrth i chi weithio drwy hyn, ceisiwch ofalu am eich lles. Efallai na fyddwch chi'n teimlo fel gwneud hyn, ond bydd o help mawr os gallwch chi fwyta'n iach, cael ychydig o awyr iach ac ymarfer corff a cheisio cysgu'n dda. Bydd y foment yma’n pasio a gallwch chi wneud iddi fod ychydig yn haws os gallwch chi fod yn garedig gyda chi'ch hun.