Gareth Hughesyw Arweinydd Clinigol Student Space ac mae'n seicotherapydd, ymchwilydd ac awdur ar lesiant myfyrwyr, gan gynnwys y llyfr Be Well, Learn Well.
Gall eich rhwydweithiau presennol fod yn ddefnyddiol iawn wrth addasu i fywyd prifysgol. Meddyliwch am bwy rydych chi am gadw mewn cysylltiad â nhw a sut.
Os byddwch chi'n symud oddi cartref, gall y pellter disymwth rhyngoch chi a'ch ffrindiau, eich teulu a'ch gwarcheidwaid deimlo fel colled. Ond hyd yn oed os ydych chi'n cymudo i'r brifysgol, efallai y byddwch yn teimlo pellter yn agor rhyngoch chi a'r bobl hynny hefyd.
Diolch byth, mae mwy o bobl bellach yn hapus i gyfathrebu ar-lein, a gall hyn ei gwneud hi'n haws i ni gynnal cyfeillgarwch a'n hen rwydweithiau.
Fodd bynnag, mae dal yn werth chweil cymryd ychydig o amser i feddwl am sut, ac â phwy, yr ydych chi am gadw mewn cysylltiad.
Cwestiynau i holi eich hun
1. Â phwy ydych chi am gadw mewn cysylltiad?
Wrth i chi symud i'r cam nesaf hwn yn eich bywyd, efallai y byddai o gymorth ystyried y cwestiwn hwn ac yna gwneud ymdrech i gadw mewn cysylltiad â'r rheini y mae gennych chi feddwl uchel ohonyn nhw. Beth am ystyried cwestiynau tebyg i'r canlynol:
At bwy ydw i'n teimlo'n agos?
Pwy sy'n gwneud i mi deimlo'n dda ac sy'n ddylanwad cadarnhaol yn fy mywyd?
Pwy allaf i ddychmygu y byddaf i mewn cysylltiad â nhw am flynyddoedd i ddod?
Pwy ydych chi am eu cefnogi?
2. Sut byddwch chi'n cadw mewn cysylltiad?
Mae nifer o ffyrdd o gadw mewn cysylltiad:
Sgyrsiau fideo ar-lein fel Zoom neu Skype
Negeseuon a chyfryngau cymdeithasol
Cwrdd yn bersonol
Mae rhai pobl yn hoffi anfon llythyrau hen ffasiwn at eu ffrindiau
Os yn bosibl, trafodwch hyn ymlaen llaw, er mwyn i chi osgoi camddealltwriaeth neu siomi disgwyliadau.
3. Pryd a pha mor aml y byddwch chi mewn cysylltiad?
Unwaith eto, gallai fod o gymorth cytuno ar hyn ymlaen llaw, fel nad oes neb yn cael ei siomi.
Fodd bynnag, mae'n synhwyrol i fod yn hyblyg er mwyn ymateb i newidiadau yn eich bywyd chi a'u bywydau nhw. Os yw un o'ch ffrindiau chi'n dechrau hobi newydd ac nid yw ar gael cymaint â chynt, nid yw'n golygu ei fod yn poeni llai amdanoch chi neu'n eich siomi – dyna sut mae bywyd. Derbyniwch hyn ac os yw'n peri pryder i chi, trafodwch y pwnc ag ef a gwnewch gynlluniau newydd.
Gadewch i’r berthynas barhau i ddatblygu
Byddwch chi a'ch ffrindiau a'ch teulu yn parhau i aeddfedu a newid tra byddwch chi yn y brifysgol. Byddwch yn ymwybodol o hyn a darparu ar ei gyfer.
Cofiwch, er eich bod chi'ch dau'n newid, nid yw'n golygu y bydd eich perthynas yn llai pwysig i'r naill na'r llall. Byddwch yn barod i dderbyn pan fydd eich ffrind yn datblygu diddordebau newydd neu'n gwneud ffrindiau newydd. Mae bod yn barod i addasu i'w fywyd newydd yn helpu i atgyfnerthu eich perthynas.