Gofalu am eich llesiant tra'n galaru
Er nad oes unrhyw beth y gallwch ei wneud i gael gwared ar alar, mae yna bethau y gallwch eu gwneud i'ch helpu i reoli galar a'ch galluogi i wella.
1. Gofalwch amdanoch chi'ch hun yn gorfforol
Gall galar gael effeithiau corfforol sylweddol arnom. Er enghraifft, efallai y byddwch yn gweld bod galar yn tarfu ar eich cwsg neu'n gwneud i chi eisiau mwy o gwsg. Neu efallai y byddwch chi'n bwyta mwy neu'n colli'ch awydd bwyd. Efallai y byddwch hyd yn oed yn cael eich hun yn troi yn ôl ac ymlaen rhwng yr ymddygiadau hyn.
Gall cymryd camau bach i ofalu am eich llesiant corfforol leddfu effaith galar. Peidiwch â phoeni os, yn ystod y cyfnod cychwynnol ar ôl colli rhywun, y byddwch yn gweld bod hyn yn amhosibl. Efallai y bydd angen i chi aros i'r sioc gyntaf leihau, cyn i chi allu dechrau meddwl am hyn.
Os, a phryd y byddwch yn barod, efallai y bydd y camau hyn yn eich helpu i deimlo ychydig yn well:
- Ceisiwch gynnal trefn arferol dda ar gyfer cysgu
- Ceisiwch fwyta ar amser rheolaidd ac mor iach â phosibl (ond gyda rhai danteithion os ydych chi eu heisiau)
- Ceisiwch orffwys yn rheolaidd
- Gwnewch ychydig o ymarfer corff ysgafn
- Ceisiwch greu rhywfaint o strwythur yn eich diwrnod – hyd yn oed os yw hyn yn wahanol iawn i'ch trefn arferol
- Ceisiwch osgoi gorddefnyddio alcohol, sigaréts neu gyffuriau
2. Cysylltwch ag eraill a derbyniwch gymorth
Gall treulio amser gyda phobl eraill, yn enwedig pobl sy'n poeni amdanom, fod o gymorth mawr pan fyddwn yn galaru. Os bydd rhywun yn cynnig cymorth i chi, byddwch yn fodlon ei gymryd. Yn aml, mae pobl eisiau helpu ond nid ydynt yn gwybod sut, felly byddwch yn barod i’w harwain nhw at yr hyn sydd ei angen arnoch, beth bynnag mae hynny’n ei olygu – bod yn gefn i chi, bod yn rhywbeth arall ichi feddwl amdano neu i roi rhywfaint o help ymarferol.
3. Ceisiwch gynnal eich hobïau
Efallai y byddwch chi'n teimlo eich bod chi'n cael llai o bleser o'ch hobïau wrth alaru. Neu efallai y byddwch chi'n teimlo ei bod hi'n amhriodol rywsut i barhau i wneud rhywbeth pleserus.
Ond gall cynnal hobïau neu ddiddordebau helpu i roi trefn i chi sicrhau eich bod wedi ymwreiddio mewn realiti. Gall hefyd eich helpu i ryddhau straen, ymlacio ychydig a theimlo ychydig yn fwy gobeithiol am y dyfodol. Hyd yn oed os nad ydych chi'n eu mwynhau cymaint, ceisiwch barhau â'ch hobïau cymaint ag y gallwch.
4. Derbyniwch ba bynnag emosiynau rydych chi'n eu profi ar hyn o bryd
Os ydych chi'n teimlo'n drist, mae hynny'n iawn. Os ydych chi'n teimlo'n hapus ac yn chwerthin am rywbeth, mae hynny'n iawn hefyd. Cymerwch y profiad un cam ar y tro, cymerwch bleser lle gallwch chi a gofalwch amdanoch chi'ch hun pan fyddwch chi'n teimlo'n isel neu'n flin.
Mae Luke yn siarad am sut yr effeithiodd galar arno a sut yr edrychodd ar ei ôl ei hun drwy gydol y broses.
5. Derbyniwch bob eiliad
Os ydych chi'n cael diwrnod anodd, mae'n iawn canolbwyntio ar symud trwy'r awr nesaf, yr ychydig oriau nesaf neu weddill y diwrnod hwn. Rhowch ganiatâd i chi'ch hun i beidio â gorfod meddwl am yr wythnosau neu'r misoedd nesaf a chanolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen arnoch chi nawr, yn y foment hon. Byddwch yn garedig â chi'ch hun a gadewch i'r dyfodol aros nes eich bod yn barod amdano.
6. Siaradwch gymaint ag y dymunwch – byddwch yn dawel os oes angen
Gallwch chi benderfynu beth fydd o gymorth i chi – os ydych chi am dreulio amser yn myfyrio'n dawel neu'n gwneud rhywbeth sy’n tynnu eich sylw, yna ewch gyda hynny. Os ydych chi eisiau rhannu eich teimladau yna dewch o hyd i ffrind gofalgar neu aelod o'r teulu ac ymddiried ynddynt.
7. Defnyddiwch ddefodau, os ydych chi'n meddwl y gallant helpu
Weithiau gall defodau ein helpu i symud ymlaen a theimlo ychydig yn well. Gall arferion crefyddol neu ddiwylliannol eich helpu gyda hyn, neu efallai y byddwch am ddyfeisio rhywbeth eich hun. Efallai y bydd eich defod yn benodol i'r person neu'r peth rydych chi wedi'i golli.
Mae defodau cyffredin y mae myfyrwyr weithiau’n eu cael yn ddefnyddiol yn cynnwys ysgrifennu llythyrau at y sawl y maent wedi’i golli, creu seremoni, gan gynnwys canu caneuon neu ddarllen cerddi yn uchel neu fynd allan i’r byd natur a chladdu rhywbeth neu adael iddo ddrifftio i ffwrdd ar ddŵr.
8. Cynlluniwch ar gyfer dyddiadau arwyddocaol
Efallai y gwelwch fod penblwyddi, y Nadolig neu ben-blwydd marwolaeth yn anoddach i chi. Gallai fod o gymorth os gallwch gynllunio ar gyfer y digwyddiadau hyn ymlaen llaw. Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, gallai fod o gymorth i chi roi rhywfaint o le i chi'ch hun neu gynllunio strwythur ar gyfer y diwrnod a all eich cynnal a'ch helpu.
9. Cysylltwch â’r byd natur
Mae llawer o bobl sy'n galaru yn gweld bod cysylltu â’r byd natur yn gallu eu helpu i ymwreiddio yn y foment a chynyddu eu hymdeimlad o obaith ar gyfer y dyfodol. Os yw hyn yn teimlo fel rhywbeth a allai fod yn fuddiol i chi, gallai fod yn ddefnyddiol cerdded neu eistedd mewn amgylchedd naturiol a threulio peth amser yn rhoi sylw i goed, blodau, adar neu symudiad cymylau yn yr awyr.
10. Defnyddiwch gymorth
Efallai y byddwch yn teimlo bod siarad â chynghorydd neu seicotherapydd yn helpu. Fel arall, mae rhai myfyrwyr yn gweld bod siarad â Chaplan o'u ffydd yn gallu bod yn gysur.