Ymwadiad: Mae’r adnoddau canlynol yn Saesneg yn unig.
Cymorth pellach i fyfyrwyr mewn profedigaeth
Dyma amrywiaeth o adnoddau sydd wedi’u cymeradwyo’n glinigol i’ch cefnogi gyda’r profiad o alar a cholled.
Sefydliadau
Y Rhwydwaith Galar i Fyfyrwyr
Y Rhwydwaith Galar i Fyfyrwyr: yn gweithio gyda myfyrwyr a phrifysgolion i wella addysg ac ymwybyddiaeth o alar ac i adeiladu cymuned i’r rhai sy’n ei brofi. Mae gennym amrywiaeth o adnoddau, grwpiau cymorth cymheiriaid a digwyddiadau, yn benodol ar gyfer myfyrwyr prifysgol sydd wedi profi profedigaeth.
Let’s Talk about Loss
Let’s Talk about Loss: Ar gyfer oedolion ifanc rhwng 18 a 35 oed. Mae’r elusen hon yn darparu adnoddau yn ogystal â chyfarfodydd wyneb yn wyneb ledled y DU, dan arweiniad oedolion ifanc â phrofiad personol o brofedigaeth. Mae ganddynt hefyd rai sesiynau a grwpiau ar-lein, fel eu clwb llyfrau.
The New Normal Charity
The New Normal Charity: Elusen cymorth cymheiriaid sydd â llawer o gyfarfodydd rheolaidd am ddim (ar-lein yn bennaf) ar gyfer cymunedau amrywiol. Mae ganddynt grŵp ‘Good Grief’ cyffredinol, yn ogystal â’r grwpiau ‘It’s Comlicated’, ‘Queer Good Grief’, ‘Black and Brown Good Grief’, ‘Boys Talk’ a mwy.
Suicide & Co
Suicide & Co: Cymorth i’r rhai sydd wedi profi profedigaeth oherwydd hunanladdiad. Mae ganddynt linell gymorth a gallant gefnogi unigolion i gael mynediad at gwnsela am ddim. Mae ganddynt hefyd adnoddau i ddeall hunanladdiad a sut i siarad amdano (sylwch nad ydynt yn wasanaeth cymorth mewn argyfwng).
Talk Grief (gan Winston’s Wish)
Talk Grief (gan Winston’s Wish): Gofod ar-lein i bobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc (rhwng 13 a 25 oed) i ddysgu oddi wrth bobl ifanc eraill sy’n galaru, i ddod o hyd i ffyrdd iach o ymdopi ac i deimlo’n llai unig. Mae llawer o straeon go iawn, ynghyd ag arweiniad gan arbenigwyr profedigaeth.
AtaLoss.org
AtaLoss.org: Gwefan cyfeirio a gwybodaeth ar gyfer y DU gyfan i unigolion mewn profedigaeth. Gallwch chwilio yn ôl eich lleoliad, y math o golled, y math o gymorth rydych chi’n edrych amdano a mwy.
Adnoddau Anffurfiol
Rhai podlediadau a llyfrau enghreifftiol sy’n archwilio colled a galar. Gall y rhain ein helpu i ddeall galar yn well ac i wybod nad ydym ar ein pennau ein hunain. Gall yr adnoddau anffurfiol hyn fod yn llai brawychus nag ymuno â grŵp cymorth neu gysylltu â sefydliad.
Podlediadau:
Llyfrau:
Losing Young, Rachel Wilson
Grief is the Thing with Feathers, Max Porter
Notes on Grief, Chimamanda Ngozi Adichie
You Are Not Alone, Cariad Lloyd