Goresgyn unigrwydd yn y brifysgol
Mae unigrwydd yn brofiad cyffredin i lawer o fyfyrwyr, a gall deimlo'n annymunol ac effeithio ar eich ffordd o feddwl – ond mae’n bosib ei oresgyn.
Beth yw unigrwydd?
Gall unigrwydd fod yn boenus ac yn ofidus. Gall gyflwyno emosiynau eraill gydag ef, fel tristwch, rhwystredigaeth a gorbryder. Efallai eich bod wedi gwylltio gyda chi'ch hun, neu deimlo y dylech fod yn gallu ymdopi'n well.
Mewn gwirionedd, mae unigrwydd yn ymateb dynol arferol i absenoldeb rhywbeth sydd ei angen arnom. Mae fel teimlo'n llwglyd fel ymateb i angen bwyd. Yn syml, mae unigrwydd yn rhybudd bod angen i ni weithredu i wella ein cysylltiadau cymdeithasol.
Ffyrdd o ddod o hyd i gysylltiad
Ymddengys mai diffyg cysylltiadau cymdeithasol o safon sy’n achosi unigrwydd. Gallwch chi dreulio llawer o amser gyda phobl eraill a pharhau i deimlo'n unig.
Y peth allwedd o ran goresgyn unigrwydd yw canolbwyntio ar dreulio amser, gydag eraill, sy'n teimlo'n ystyrlon ac yn bleserus.
Amser ystyrlon gydag eraill
Un ffordd o ddod o hyd i amser ystyrlon gydag eraill yw canolbwyntio ar helpu pobl eraill. Pan fyddwn yn helpu pobl eraill, rydym yn cysylltu â nhw a'u hanghenion ac mae'r cysylltiad hwnnw'n gadarnhaol i ni.
Efallai y byddwch yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o helpu ffrindiau neu deulu, neu gallech ymuno â chynllun gwirfoddoli.
Neu efallai yr hoffech chi drafod y ffordd rydych chi wedi bod yn teimlo gyda rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo. Gall rhannu eich teimladau ag eraill helpu i adeiladu mwy o ymdeimlad o gysylltiad â chred bod pobl o gwmpas sy'n poeni amdanoch chi.
Amser pleserus gydag eraill
I ddod o hyd i amser pleserus gydag eraill, efallai y byddai'n helpu i drefnu rhywbeth hwyliog gyda ffrindiau presennol neu ymuno â chymdeithas neu glwb Undeb y Myfyrwyr.
Gallech roi cynnig ar y canlynol:
- trefnu picnic neu bryd o fwyd fel grŵp – gall bwyta gyda’ch gilydd fod yn brofiad clos.
- gweithgaredd ar-lein y gallwch chi i gyd ymuno ag ef, fel cwis.
Sut y gall unigrwydd effeithio ar eich ffordd o feddwl
Byddwch yn ymwybodol y gall unigrwydd ddylanwadu ar sut rydym yn gwerthuso ein rhyngweithiadau cymdeithasol. Efallai y byddwch chi'n teimlo nad ydych chi'n mwynhau amser gyda phobl eraill. Efallai y byddwch chi'n cael eich hun yn ailchwarae rhyngweithiadau yn eich meddwl, yn chwilio am bethau a wnaethoch neu a ddywedasoch yn anghywir neu bethau a wnaeth eraill nad oeddech yn eu hoffi.
Ceisiwch dderbyn bod yr ymatebion hyn yn effeithio ar sut rydych chi'n teimlo – ond peidiwch â gadael iddyn nhw reoli'r hyn rydych chi'n ei wneud. Hyd yn oed os oeddech chi'n arfer mwynhau amser gyda ffrindiau yn fwy, mae'n dal yn well cael ychydig o gwmni pleserus na dim o gwbl.
Ymhen amser, fe welwch y bydd eich gallu i fwynhau sefyllfaoedd cymdeithasol yn cynyddu eto.
Beth i'w wneud os bydd unigrwydd yn parhau
Yn olaf, os yw unigrwydd yn parhau a'ch bod yn ei chael hi'n anodd symud ymlaen, defnyddiwch y cymorth sydd ar gael yn eich prifysgol.
Mae unigrwydd yn annymunol, ond mae ffyrdd i fynd i'r afael ag ef ac mae’n bosibl ichi deimlo'n gysylltiedig yn gymdeithasol eto.