Pam y gallai eich bywyd cymdeithasol newid wrth i chi symud ymlaen i'r flwyddyn academaidd nesaf
erthygl
Gareth Hughesyw Arweinydd Clinigol Student Space ac mae'n seicotherapydd, ymchwilydd ac awdur ar lesiant myfyrwyr, gan gynnwys y llyfr Be Well, Learn Well.
Pan fyddant yn dychwelyd ar gyfer blwyddyn academaidd newydd, mae llawer o fyfyrwyr yn synnu bod eu bywyd cymdeithasol ychydig yn wahanol. Gall mwy o ofynion arnynt yn academaidd, newidiadau mewn grwpiau ffrindiau a phobl yn byw mewn llety gwahanol newid y ffordd maent yn cymdeithasu. Gall deall hyn a chymryd rhai camau syml helpu i sicrhau eich bod yn parhau i gael y cyswllt cymdeithasol a'r hwyl sydd eu hangen arnoch ar gyfer cydbwysedd mewn bywyd.
Yn gyffredinol, mae pobl yn greaduriaid sydd yn hoffi trefn a phatrwm. Pan fydd patrymau yn newid yn ein bywydau, gallwn deimlo'n ansefydlog. Mae hyn yn wir am newidiadau ym mhatrymau ein bywydau cymdeithasol – os ydych wedi arfer mynd allan ar nosweithiau arbennig o’r wythnos gydag un grŵp o ffrindiau, mae’n bosibl y byddwch yn teimlo yn chwithig os bydd pobl yn rhoi’r gorau i fynd allan ar y nosweithiau hynny. Mae'n haws derbyn y newidiadau hyn os ydych yn gwybod eu bod yn gyffredin iawn pan fyddwch chi a'ch ffrindiau'n symud i flwyddyn academaidd newydd.
Mae myfyrwyr yn aml yn dychwelyd i'r brifysgol gan ddisgwyl dilyn yr un drefn ag oedd ganddynt yn y flwyddyn flaenorol. Ond mae yna nifer o resymau pam y gallai'r arferion hyn newid wrth i chi symud yn eich blaen drwy'ch cyfnod yn y brifysgol.
1. Gofynion academaidd cynyddol
Mae gwahanol ofynion academaidd yn perthyn i bob blwyddyn yn y brifysgol. Efallai y bydd gennych chi a'ch ffrindiau fwy o waith a gaiff ei asesu, efallai y bydd gofyn i chi ddysgu'n fanwl iawn, a/neu efallai y bydd y pwnc yn mynd yn fwy cymhleth, a fydd yn golygu y bydd rhaid i chi roi mwy o'ch amser i feithrin eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth. I rai myfyrwyr, gall pob blwyddyn gyfrif mwy tuag at eu dosbarthiad gradd cyffredinol hefyd, a allai olygu eu bod am wneud mwy o waith i wella eu perfformiad.
Golyga hyn ei bod yn bosibl y bydd gennych chi a'ch ffrindiau lai o amser ac egni i gymdeithasu fel yr oeddech yn ei wneud yn y blynyddoedd blaenorol.
Nid yw hyn yn golygu bod rhaid i chi ymbellhau oddi wrth eich gilydd neu beidio â chael hwyl. Gallai helpu os ydych chi a'ch ffrindiau yn gwneud y canlynol:
Cyfathrebu ac yn cynllunio eich bywydau cymdeithasol ychydig yn well. Gweithiwch allan pryd y byddwch chi a'ch ffrindiau'n canolbwyntio fwyaf ar waith academaidd a gweld a allwch neilltuo ychydig o amser i gael hwyl gyda'ch gilydd.
Ystyried ffyrdd eraill o gymdeithasu – efallai y byddwch am bartio a mynd i glybiau yn llai aml, ond gallai treulio amser gyda’ch gilydd mewn ffyrdd eraill fod yr un mor hwyliog a rhoi'r un boddhad i chi, heb amharu ar yr egni a’r ffocws sydd eu hangen arnoch i astudio.
Trafod ffyrdd y gallwch gefnogi eich gilydd i reoli eich gofynion academaidd a pharhau i gynnal cydbwysedd iach. Gall cefnogi eich gilydd olygu y bydd eich cyfeillgarwch yn cryfhau ac yn fwy gwerthfawr.
2. Newidiadau mewn grwpiau ffrindiau
Mae grwpiau ffrindiau yn y brifysgol yn tueddu i fod yn gyfnewidiol. Mae natur dysgu yn y brifysgol yn aml yn golygu bod pobl yn tyfu, yn datblygu ac yn newid yn ystod eu cwrs astudio. Golyga hyn y gallwch ymbellhau oddi wrth eich gilydd wrth i bobl ddatblygu diddordebau newydd neu ffyrdd newydd o fod. Efallai fod yr un peth yn digwydd i chi, heb i chi fod yn ymwybodol ohono o reidrwydd.
Gallwch reoli'r newidiadau hyn drwy’r dulliau canlynol:
Gweld y pethau cadarnhaol a ddaw yn sgil hyn. Mae'r ffaith bod grwpiau cymdeithasol yn parhau i fod yn gyfnewidiol yn golygu eu bod yn gyfleoedd cymdeithasol parhaus. Gallwch barhau i chwilio am ffrindiau a grwpiau newydd i ehangu eich cylch cymdeithasol. cymryd ymagwedd strwythuredig
Gwerthfawrogi'r cyfeillgarwch sy'n parhau i weithio a neilltuo mwy o amser i'r cydberthnasau hyn.
Os ydych yn teimlo nad oes gennych ffrindiau, efallai y bydd ein herthyglau ar ddod o hyd i gyfeillgarwch yn ddefnyddiol, neu efallai y byddech yn elwa o gael cymorth yn eich prifysgol.
Dod o hyd i wasanaethau cymorth sy'n cael eu darparu gan eich sefydliad addysg.
3. Newidiadau mewn llety
Gall byw mewn neuaddau neu’r coleg, yn enwedig yn y flwyddyn gyntaf, wneud cymdeithasu yn hawdd. Efallai eich bod wedi arfer cael llawer o ffrindiau o'ch cwmpas a oedd yn hawdd eu cyrraedd a threulio amser gyda nhw. Unwaith eich bod chi a'ch ffrindiau'n symud allan o neuaddau, efallai eich bod yn byw gryn dipyn ymhellach oddi wrth eich gilydd, sy'n golygu ei bod yn cymryd mwy o ymdrech i ddod at eich gilydd.
Efallai yr hoffech ystyried os gallwch wneud y canlynol:
Manteisio ar y cyfle hwn i ddod i adnabod yr ardal yn well, newid eich amgylchedd yn rheolaidd, a gwneud amser i wneud ychydig o ymarfer corff drwy deithio o'ch llety at eich ffrindiau.
Treulio amser gyda'ch ffrindiau yn cynllunio pryd yr ydych am dreulio amser gyda'ch gilydd ac ymhle. Bydd cynllunio yn ei gwneud yn fwy tebygol y byddwch yn gweld eich gilydd yn hytrach na'i adael i siawns.
Mae un ffordd arall y gellid amharu ar eich bywyd cymdeithasol. Weithiau, yn enwedig tuag at gyfnodau asesu’r flwyddyn olaf, mae myfyrwyr yn rhoi'r gorau i gymdeithasu yn gyfan gwbl er mwyn canolbwyntio mwy ar waith academaidd.
Yn anffodus, mae hyn yn aml yn arwain at flinder cynyddol, straen, a pherfformiad academaidd gwaeth yn gyffredinol. Mae'n hymennydd a'n cyrff angen cydbwysedd i berfformio'n dda, hyd yn oed yn ystod cyfnodau arholiadau. Gall treulio amser gyda ffrindiau eich helpu i gael gwared ar straen ac i ymlacio a chysgu'n well. Gall cadw hyn mewn cof a rhannu'r wybodaeth hon gyda'ch ffrindiau helpu pob un ohonoch.
Mae newidiadau i batrymau cymdeithasol yn aml yn digwydd pan fydd myfyrwyr yn symud i'r flwyddyn astudio nesaf. Ond drwy gymryd camau bach a chyfathrebu, gallwch gael blwyddyn dda o hyd.