Dychwelyd i’r brifysgol
Os ydych yn dychwelyd i’r brifysgol, rydych wedi dangos yn glir bod gennych y gallu i lywio bywyd myfyriwr. Fodd bynnag, mae pob blwyddyn yn y brifysgol yn wahanol, gyda heriau a chyfleoedd gwahanol. Gallwch chi symud i’r cam nesaf yn haws trwy gymryd ychydig gamau i baratoi.
Ceisiwch adolygu’r flwyddyn academaidd ddiwethaf
Mae myfyrio ar ein profiadau yn rhoi cyfle i ni ddysgu, tyfu, osgoi’r un camgymeriadau ac agor cyfleoedd newydd. Efallai y byddai’n fuddiol i chi feddwl am y canlynol:
Beth aeth yn dda y llynedd?
Beth oedd heb fynd gystal ag y dymunech?
Efallai y byddwch am edrych yn ôl dros bopeth sy’n rhan o’ch profiad prifysgol – cwrs, ffrindiau, llety, bywyd cymdeithasol ac ati. Gallai fod o gymorth i wneud rhestr o brofiadau da a rhai na fu gystal. Yna meddyliwch sut y gallech chi gynyddu nifer y pethau sy’n mynd yn dda y flwyddyn nesaf a lleihau nifer y pethau nad ydyn nhw’n mynd yn dda, drwy gymhwyso’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu eleni.
Ceisiwch fod yn realistig a chynlluniwch i wneud pethau y gwyddoch y gallwch eu gwneud. A chofiwch fod cefnogaeth ar gael i’ch helpu gydag unrhyw broblemau y dewch ar eu traws.
Perthnasoedd yn newid
Yn union fel y mae pobl yn newid pan fyddant yn mynd i ffwrdd i’r brifysgol, gallant hefyd ymddangos fel pe baent wedi newid ar ôl bod gartref dros wyliau’r haf. Peidiwch â chael eich taflu os yw perthnasoedd yn ymddangos ychydig yn wahanol i sut rydych chi’n eu cofio y tymor diwethaf neu os oes gan eich ffrind gorau ddelwedd a diddordeb cwbl newydd.
Cofiwch fod perthnasoedd yn newid ac yn tyfu, ac efallai eich bod chi wedi newid hefyd. Os gallwch chi symud gyda’r newidiadau hyn, yna efallai y bydd eich cyfeillgarwch yn dyfnhau. Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig cofio nad yw hi’n rhy hwyr i wneud ffrindiau newydd. Mae pobl yn dod o hyd i ffrindiau newydd ar hyd eu taith yn y brifysgol; gall fod o fudd i chi os byddwch yn cymryd dull strwythuredig o wneud ffrindiau newydd ac yn gwneud y gorau o’r cyfleoedd y mae bywyd prifysgol yn eu rhoi i chi.
Rheoli eich arian
Cofiwch na fydd eich benthyciad yn dod trwodd tan ar ôl i chi gofrestru felly gwnewch yn siŵr bod gennych rywfaint o arian parod i’ch tywys drwy wythnosau cyntaf y tymor.
Os ydych yn mynd i fod ychydig yn brin o arian, efallai y byddai’n ddoeth rhoi gwybod i’ch ffrindiau na fyddwch chi’n gallu ymuno â’r holl gymdeithasu sy’n digwydd yn aml yn ystod yr wythnosau cyntaf. Os ydych yn cael anhawster ariannol sylweddol, efallai y bydd help ar gael gan eich prifysgol. Efallai y byddwch hefyd am edrych ar ein tudalennau ar rheoli eich arian a dod o hyd i waith â thâl.
Trefnu eich llety
Trefnwch eich llety cyn i chi ddychwelyd i’r brifysgol. Weithiau mae’n bosibl dod o hyd i lety yn hwyr ond gall fod yn ddechrau dirdynnol i’r flwyddyn os nad ydych chi’n gwybod ble y byddwch yn byw. Hefyd, gwnewch yn siŵr eich bod chi a’ch cyd-letywyr yn glir ynghylch sut y bydd biliau’n cael eu talu ac ati cyn i’r flwyddyn ddechrau, yn enwedig o ystyried y cynnydd a ragwelir mewn costau ynni eleni – gall diffyg dealltwriaeth glir ar y dechrau arwain at ddadleuon a phroblemau yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Gwneud amser i astudio
Mae’n naturiol bod eisiau seibiant ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd ond nid yw’n ddoeth osgoi popeth i’w wneud â’ch cwrs am yr haf cyfan. Gall dod yn ôl i’r brifysgol fod yn sioc wirioneddol os nad ydych chi hyd yn oed wedi meddwl am eich cwrs ers misoedd. Gall darllen am eich pwnc neu ymarfer sgiliau allweddol wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’ch perfformiad y flwyddyn nesaf.